Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau..
Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: CYTUNODD y Pwyllgor i’r dilynol:- 9.00 am Cyfarfod Agenda 9.30 am Pwyllgor Craffu Lleoedd
|
|
Pwyllgor Craffu Lle PDF 330 KB Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig)
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2023.
CYTUNODD y Pwyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn y ddalen weithredu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r ddalen weithredu.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Mabwysiadu Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2023-2028 PDF 529 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.
Cynigiodd yr Is-gadeirydd ei fod yn cael ei argymell i’r Cabinet/Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol i ddynodi cyllid i weithredu rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer y dyfodol.Cytunwyd ac eiliwyd y cynnig.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chefnogi mabwysiadu Cynllun Cynnal a Chadw Asedau Priffyrdd 2023-2028 (Opsiwn 1) a gofyn i’r Cabinet/Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol i ddynodi cyllid priodol i weithredu rhaglen Gwaith Cyfalaf yn y dyfodol.
|