Lleoliad: Ar MS Teams
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:- Cynghorydd R. Leadbeater; ac Arweinydd Tîm Cyfleoedd Adfywio.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Craffu Lleoedd PDF 330 KB Ystyried penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lleoedd a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023.
(D.S. Cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i benderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023.
CYTUNODD y Pwewyllgor i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r ddalen weithredu..
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r ddalen weithredu.
|
|
Cynllun Creu Lle Brynmawr PDF 610 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriwyd adroddiad Rheolwr Tîm Cyfleoedd Adfywio.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chefnogi Cynllun Creu Lleoedd Brynmawr, ei weledigaeth ac uchelgeisiau craidd ar gyfer y dyfodol ac argymell cymeradwyaeth gan y Cabinet. Byddai hyn yn galluogi’r Awdurdod i gwblhau’r cynllun cyflenwi a chamau tuag at weithredu’r prosiectau a gaiff eu cynnwys oddi mewn iddo (Opsiwn 2).
|
|
Cronfa Ffyniant Gyffredin PDF 514 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn a chefnogi’r adroddiad ac argymell fod y Cabinet yn cymeradwyo’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol ynghyd â’r Swyddog A5 i gael awdurdod wedi ei ddirprwyo i dderbyn diwygiadau i’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i hwyluso gweithredu’r Gronfa Ffyniant Gyffredino fewn Blaenau Gwent (Opsiwn 2).
|
|
Blaenraglen Gwaith – 28 Ebrill 2023 PDF 395 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y cyfarfod a gynhelir ar 25 Ebrill 2023 (Opsiwn 2).
|