Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor - Dydd Iau, 4ydd Tachwedd, 2021 10.00 am

Lleoliad: Virtually Via Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live via Microsoft Teams please contact committee.services@blaenau-gwent.gov

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:

 

Cynghorwyr M. Cross, J. Holt, H. McCarthy, L. Parsons, T. Sharrem a chynrychiolwyr Cangen Glynebwy y Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant neu oddefebau a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Rhyddid Anrhydeddus y Fwrdeistref Sirol – y Lleng Brydeinig Frenhinol

Cynhelir CYFARFOD ARBENNIG o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent DDYDD IAU 4 TACHWEDD 2021 am 10.00 a.m. ar gyfer yr unig ddiben, y rhoddir hysbysiad ohono yn awr, o ystyried ac os credir yn addas basio penderfyniad yn y telerau dilynol, y mae’n rhaid i’r penderfyniad hwnnw, yn unol ag Adran 249 (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gael ei basio gan ddim llai na dau-draen yr Aelodau sy’n pleidleisio  arno:-

 

Cynnig

 

Yn unol ag Adran 249 (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy hyn yn cyflwyno Rhyddid Anrhydeddus Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i:

 

Y LLENG BRYDEINIG FRENHINOL

 

I nodi Canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2021 ac i gydnabod gwaith elusennol ymroddedig canghennau lleol (Abertyleri, Beaufort, Blaenau, Brynmawr, Cwm, Glynebwy, Rasa a Thredegar) ar draws y Fwrdeistref Sirol sy’n cefnogi  aelodau presennol a chyn aelodau y Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Gymuned Lluoedd Arfog.

 

Bod y Cyngor yn croesawu’r fraint o dderbyn y Lleng Brydeinig Frenhinol fel Rhyddfreinwyr Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. 

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd y Cadeirydd drwy esbonio y galwyd Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor ar gyfer yr unig ddiben, y rhoddir hysbysiad ohono yn awr, o ystyried ac os credir yn addas basio penderfyniad yn y telerau dilynol, ac mae’n rhaid i benderfyniad o’r fath yn unol ag Adran 249 (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 gael ei basio gan ddim llai na ddau-draean yr Aelodau yn pleidleisio ar hynny.

 

Felly aeth y Cadeirydd ymlaen drwy gynnig ar y Cynnig dilynol:

 

“Yn unol ag Adran 249(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy hyn yn cyflwyno Rhyddid Anrhydeddus Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’r Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi Canmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2021 a gan gydnabod gwaith elusennol ymroddedig canghennau lleol (Abertyleri, Beaufort, Blaenau, Brynmawr, Cwm, Glynebwy, Rasa a Thredegar) ar draws y Fwrdeistref Sirol sy’n cefnogi aelodau presennol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd. Hefyd, gan gydnabod yr ystod eang o bobl yn y Fwrdeistref Sirol sy’n codi arian bob blwyddyn i gefnogi’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r Gymuned Lluoedd Arfog.

 

Bod y Cyngor yn cofleidio’r fraint o dderbyn y dywededig Lleng Brydeinig Frenhinol fel Rhyddfreinwyr Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent”.

 

Eiliwyd y Cynnig hwn.

 

Ar y pwynt hwn, dywedodd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog y Cyngor mai Rhyddid y Fwrdeistref yw’r anrhydedd fwyaf y gallai Cyngor Blaenau Gwent ei chyflwyno, a’i fod wrth ei fodd i gymryd y cyfle hwn ar ganmlwyddiant y Lleng Brydeinig Frenhinol i gydnabod gwaith ymroddedig nifer fawr o wirfoddolwyr drwy ganghennau lleol ym Mlaenau Gwent dros lawer o flynyddoedd. Mae hefyd yn adlewyrchu’r gefnogaeth gymunedol gref ym Mlaenau Gwent ar gyfer y lluoedd arfog. Mae llawer o ddynion a menywod ym Mlaenau Gwent wedi gwasanaethu’n falch yn y lluoedd arfog ac mae’r anrhydedd hon yn cydnabod gwaith rhagorol y Lleng Brydeinig Frenhinol dros flynyddoedd lawer i gefnogi’r aelodau presennol a chyn aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.

 

Yn anffodus, er na fedrid cyflwyno’r anrhydedd wyneb yn wyneb heddiw, gwneir trefniadau i’w chyflwyno yn nes ymlaen. Daeth yr Hyrwyddwr Lluoedd Arfog i ben drwy fynegi eto ei werthfawrogiad i’r llu o wirfoddolwyr ar draws Blaenau Gwent a gyfrannodd at waith pwysig y Lleng Brydeinig Frenhinol a dywedodd ei fod yn falch i eilio’r Cynnig i ddyfarnu Rhyddid y Fwrdeistref i’r Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

Felly PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Lleng Brydeinig Frenhinol yn cael eu gwneud yn Rhyddfreinwyr Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

Ar y pwynt hwn, estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Mr. Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru y Lleng Brydeinig Frenhinol, Ms. Lisa Rawlings, Swyddog Rhanbarthol y Lluoedd Arfog a chynrycholwyr canghennau’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Wedyn gwahoddwyd Mr Metcalfe i ymateb:

 

Dywedodd Mr. Metcalfe ei fod yn bleser mawr derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar ran y Lleng Brydeinig Frenhinol.

 

Manteisiodd yn gyntaf ar y cyfle i fynegi ei werthfawrogiad i’r Cadeirydd, y Cynghorydd Malcolm Day a’r Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Brian Thomas am eu sylwadau caredig iawn ac i holl Aelodau’r Cyngor am  ...  view the full Cofnodion text for item 4.