Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live via Microsoft Teams please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiasdau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan: Cynghorwyr H. Trollope, J.P. Morgan.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Rhyddid er Anrhydedd o’r Fwrdeistref Sirol - Eva Clarke Cynhelir CYFARFOD ARBENNIG o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent DDYDD IAU 30 MAWRTH 2023 am 12.00 CANOL DYDD ar gyfer yr unig ddiben, y rhoddir hysbysiad ohono yn awr, o ystyried ac os credir yn addas basio penderfyniad yn y termau dilynol, ac mae’n rhaid i benderfyniad o’r fath, yn unol ag Adran 249(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gael ei basio gan ddim llai na dau draean yr Aelodau sy’n pleidleisio arno:-
Cynnig
Yn unol ag Adran 249(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy hyn yn urddo Rhyddid er Anrhydedd o Fwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i
EVA CLARKE I nodi ymrwymiad ac ymroddiad Eva i ledaenu neges gobaith mewn tywyllwch drwy amlinellu hanes erchyll yr Holocost i’r hen ac ifanc fel ei gilydd i atal hiliaeth, rhagfarn a gwrth-semitiaeth. I gydnabod y gwaith hwn a’r cysylltiadau y mae Eva wedii eu llunio yn ardal Blaenau Gwent.
Bod y Cyngor yn cofleidio’r fraint o gyflwyno Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i’r ddywededig Eva Clarke.
Cofnodion: Dechreuodd y Cadeirydd drwy esbonio y galwyd Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor ar gyfer yr unig ddiben, y rhoddir hysbysiad ohono yn awr, o ystyried ac os credir yn briodol basio penderfyniad yn y termau dilynol y mae’n rhaid i benderfyniad o’r fath, yn unol ag Adran 249(r) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gael ei basio gan ddim llai na dau draean yr Aelodau sy’n pleidleisio arno.
Ar wahoddiad y Cadeirydd aeth Arweinydd y Cyngor ymlaen drwy gynnig y Cynnig dilynol:
Yn unol ag Adran 249(5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent drwy hyn yn cyflwyno Rhyddid Anrhydeddus Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i
EVA CLARKE I nodi ymroddiad ac ymrwymiad Eva i ledaenu neges gobaith mewn tywyllwch drwy amlinellu stori ddirdynnol yr Holocost i’r ifanc a’r hen fel ei gilydd i atal hiliaeth a rhagfarn a gwrth-semitiaeth. I gydnabod y gwaith a’r cysylltiadau a ffurfiodd Eva o fewn ardal Blaenau Gwent.
Bod y Cyngor yn coleddu’r fraint o dderbyn y ddywededig Eva Clarke fel Person Rhydd o Fwrdfeistref Sirol Blaenau Gwent.
Eiliwyd y Cynnig hwn.
|