Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mercher, 16eg Tachwedd, 2022 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Mr T. Edwards

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau

Alice Rushby, Archwilio Cymru

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiannau na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 340 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.

 

Ar bwynt cywirdeb, soniodd y Cadeirydd am gamgymeriad teipio ar eitem 7 Dalen Weithredu – 27 Gorffennaf 2022. Dylai dyddiad y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ddarllen 27 Gorffennaf 2022 ac nid 17 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r penderfyniadau.

 

5.

Dalen Weithredu – 21 Medi 2022 pdf icon PDF 99 KB

Derbyn y ddalen weithredu..

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 244 KB

Derbyn penderfyniadau cyfarfod arbennig y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022.

 

(Nodir y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Hydref.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniadau.

 

7.

Blaenraglen Gwaith 2022-23 pdf icon PDF 372 KB

Derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a derbyn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. (Opsiwn 1)

 

8.

Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol pdf icon PDF 507 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau ac yn nodi cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf 2022 i 30 Medi 2022.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH i ohirio Atodiad Eithriedig B2 a B4 tan y cyfarfod nesaf a gwahodd y Swyddogion perthnasol i fynychu’r cyfarfod.

 

9.

Adroddiad Diweddaru Blynyddol – Defnyddio Pwerau dan Ddeddf Rheoli Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 pdf icon PDF 499 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio wedi ystyried yr wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad a rhoi sylwadau penodol. (Opsiwn 2).

 

10.

Gwybodaeth Cwynion ar gyfer Chwarter 1 a Chwarter 2 - 2022/2023 pdf icon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn gofyn am eglurhad pellach ar feysydd o fewn yr adroddiad a thynnu sylw at feysydd diddordeb neu gonsyrn oedd angen eu hystyried wrth fonitro ac adrodd cwynion yn y dyfodol. (Opsiwn 2)

 

11.

Drafft Ddatganiad Cyfrifon 2021/2022 pdf icon PDF 644 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a derbyniodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio Ddrafft Ddatganiad Cyfrifon 2021/2022 er gwybodaeth, cyn eu hystyried ar gyfer cymeradwyaeth ar gwblhau’r archwiliad ariannol, ac ystyriodd y sefyllfa ariannol y Cyngor fel ar 31 Mawrth 2022.