Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mercher, 21ain Medi, 2022 10.00 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gais am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Wilkins a Mr T. Edwards.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau..

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 256 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Ailgyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.

 

Hysbysodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor y cadarnhawyd y cofnodion yn y cyfarfod diwethaf ac iddynt gael eu hailgyflwyno gan fod Dalen Weithredu o’r cyfarfod wedi ei chwblhau.

 

5.

Dalen Weithredu – 11 Gorffennaf 2022 pdf icon PDF 96 KB

Derbyn y ddalen weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Weithredu y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi’r ddalen weithredu.

 

6.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 338 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Dalen Weithredu – 27 Gorffennaf 2022 pdf icon PDF 268 KB

Derbyn y ddalen weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Ddalen Weithredu y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi’r ddalen weithredu.

 

8.

Blaenraglen Gwaith 2022-23 pdf icon PDF 374 KB

Derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pwyllgor Craffu a Democrataidd.

 

Dywedodd y Cadeirydd y cafodd y Flaenraglen Gwaith ei hadolygu a’i hailgyflwyno i’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ddiwygiedig ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

9.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 400 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Diogelu a Llywodraethiant Data.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cymeradwyo’r Cylch Gorchwyl ar gyfer ei ddefnyddio. (Opsiwn 1)

 

10.

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol pdf icon PDF 493 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cymeradwyo ac yn mabwysiadu’r drafft Ddatganiad Llywodraethiant Blynyddol ar ôl ystyried a herio’r cynnwys, gan sicrhau ei fod yn gydnaws gyda’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o faterion ehangach yn effeithio ar y Cyngor. (Opsiwn 1)

 

11.

Rhaglen Gwella Sicrwydd Ansawdd pdf icon PDF 564 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Archwilydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cymeradwyo’r Rhaglen Gwella Sicrwydd Ansawdd yn unol ag arfer da a gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus. (Opsiwn 1)

 

12.

Llythyr Blynyddol 2021/2022 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf icon PDF 420 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd blaenoriaeth i ystyriaeth adroddiad y Pennaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth perfformiad yn adlewyrchu’r arferion hyn. (Opsiwn 1)