Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Gardner.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Cynghorydd Tommy Smith – Eitem Rhif 8 Adroddiad Cynnydd Archwiliad Mewnol (Atodiad B3)
Cynghorydd W. Hodgins – Eitem rhif 8 Adroddiad Cynnydd Archwiliad Mewnol (trafodaethau par SRS)
|
|
Amser Cyfarfodydd y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: PENDERFYNWYD y bydd cyfarfodydd y dyfodol yn cychwyn am 10.00a.m.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 256 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2022-23 y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 363 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Dywedwyd y dylai dyddiad y pwyllgor diwethaf gael ei ddiwygio i 26 Ebrill 2023.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad chymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Siarter Archwilio Mewnol PDF 494 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r Siarter Archwilio Mewnol yn unol ag arfer da a chymeradwyo gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus.
|
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 500 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau a atodir ac yn nodi cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 30 Mehefin 2022.
|
|
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Crynodeb Archwiliad Blynyddol PDF 238 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r Crynodeb Archwilio Blynyddol a gyhoeddwyd yn Ionawr 2022.
|
|
Cynllun Archwilio 2022 Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent PDF 449 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y pwyllgor yn nodi’r gwaith sydd ar y gweill ar gyfer 2022 gan Archwiliydd Cyffredinol Cymru i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol a chyflawni ei oblygiadau dan y Cod Ymarfer Archwilio.
|