Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mawrth, 2ail Tachwedd, 2021 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid drwy Microsoft Teams/Ystafell Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. Hill, J. Holt a’r Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd B. Summers fuddiant mewn unrhyw gyfeiriad at Silent Valley Waste Services Cyfyngedig.

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 363 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gyflwynwyd ar 27 Gorffennaf 2021.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ar y swm o £71m y cyfeirir ato at dudalen 5 y cofnodion (tudalen 9 y pecyn dogfen agenda).

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y dylid newid y ffigur i ddarllen £70m.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y cofnodion, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.

 

6.

Archwilio Cymru – Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 409 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad. Dywedodd y byddai Aelodau yn gwybod fod cynaliadwyedd ariannol hirdymor yn parhau i fod yn risg i Gynghorau roi trefniadau cywir ar waith i sicrhau gwerth am arian mewn defnyddio adnoddau. Yn ystod 2021 cynhaliodd Archwilio Cymru asesiad o bob cyngor yng Nghymru, ac mae’r adroddiad hwn yn rhoi canfyddiadau’r asesiad a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru yn benodol i Flaenau Gwent. Rhoddir crynodeb o’r canfyddiadau yn adran 6 yr adroddiad ac atodir adroddiad llawn Archwilio Cymru hefyd.

 

Mynegodd Aelod bryder am effaith y benthyciad y £70m ar gyfer gwelliannau Rheilffordd Cwm Ebwy ar gyfradd hylifedd y Cyngor ar gyfer y dyfodol a hefyd yr effaith ar warediad asedau’r Cyngor.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y Cyngor ar 31 Mawrth 2021 wedi derbyn benthyciad £70m tymor byr gan Lywodraeth Cymru, ac y caiff hyn ei gynnwys wrth gyfrif y gyfradd hylifedd. Dywedodd y cafodd hyn ei newid i fenthyciad ar hirdymor yn yr adroddiad ‘Archwiliad Datganiadau Ariannol’, a byddai Aelodau yn gwybod y dynodwyd ffynhonnell incwm i gyllido ad-daliadau. Esboniodd y Swyddog fod y gyfradd hylifedd yn mesur gallu sefydliad i dalu dyledion ac, er bod hyn yn isel, nid oedd yn broblem mor sylweddol i Awdurdodau Lleol gan eu bod yn medru sicrhau benthyciad gan y Bwrdd Benthyciadau Gweithiau Cyhoeddus.

 

Wedyn gofynnodd yr Aelod os y bydd Aelodau yn cael adroddiad ar ymateb y Cyngor i’r cynigion ar gyfer wella, a chwestiynodd hefyd y ffigurau yn narluniad 2 ar dudalen 30 yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddid yn ymateb i’r cynigion.

 

Yng nghyswllt y ffigurau esboniodd Swyddog Archwilio Cymru, er y derbyniwyd peth arian gan Lywodraeth Cymru, nad yw rhai o’r hawliadau am gostau a gafodd y Cyngor fel canlyniad i Covid yn gymwys am gyllid gan Lywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod rhaglen dreigl o brisiadau asedau yn ei lle ac y caiff canran neilltuol o asedau eu prisio ar sail flynyddol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn derbyn canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru fel y’i manylir yn yr adroddiad a’r atodiad (Opsiwn 1).

 

7.

Archwilio Cymru: Adolygiad o Bobl, Perfformiad a Chydnerthedd Ariannol mewn Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.,

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol adroddiad Archwilio Cymru ‘Adolygiad Pobl, Perfformiad a Chydnerthedd Ariannol mewn Gwasanaethau Cymunedol’ (rhoddir yn Atodiad 1). Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu Gwasanaethau Cymunedol mewn ymateb i’r ddogfen Cynigion ar gyfer Gwella a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru (rhoddir yn Atodiad 2). Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at y prif ganfyddiadau ynddo a’r cynigion ar gyfer gwella a amlygir yn adran 2.17 yr adroddiad.

 

Dywedodd yr Aelod fod ganddo bob hyder yn rheolaeth yr adran Gwasanaethau Cymunedol. Roedd wedi mynegi pryderon yn flaenorol am sefyllfa ariannol anffafriol barhaus Portffolio yr Amgylchedd, yn neilltuol gyda disgwyl setliadau ariannol anos yn y blynyddoedd nesaf fel canlyniad i bandemig Covid a gallu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Croesawodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol gefnogaeth yr Aelod a rhoddodd sicrwydd y gweithredir y cynigion ar gyfer gwella. Dywedodd y cydnabyddir fod elfen fawr o gyllideb refeniw yr Amgylchedd yn un ymatebol ac mae’n anodd rheoli hynny. Dywedodd fod cynigion ar gyfer defnyddio cronfeydd wrth gefn yn ystod y flwyddyn i gefnogi cyfnodau mwy main i’w croesawu yn nhermau rheoli rheolaeth gaeaf, ond dywedodd y byddai bob amser yn faes heriol, a felly’r angen am gyllidebau priodol.

 

Dywedodd yr Aelod, gan gydnabod fod cyfnod anodd i ddod, fod angen i’r Cyngor wneud camau ymlaen mewn mannau eraill i sicrhau nad yw gwasanaethau ymatebol yn dod yn ormod o faich. Wrth graffu ar orwariant yn ystod y 6 mlynedd ddiwethaf dywedodd fod meysydd eraill lle medrid gwneud arbedion, ac er mwyn gwneud arbedion y byddai’n rhaid i Aelodau wneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau’r gwasanaethau hynny.

 

Diolchodd Aelod arall i’r adran Gwasanaethau Cymunedol am eu gwaith yn ystod pandemig Covid a dywedodd ei fod yn cytuno gyda’r sylwadau a wnaed ac y gobeithir y gwneir penderfyniadau yn y dyfodol i sicrhau y caiff cyllidebau digonol eu rhoi ar waith.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch Silent Valley Waste Services, cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fod adolygiad o drefniadau’r Cyngor gyda Silent Valley yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac y rhoddir adroddiad i Aelodau maes o law.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y bydd yr ymateb rheoli yn ymateb i’r cynigion ar gyfer gwella a wnaed gan Archwilio Cymru (Opsiwn 1).

 

8.

Adroddiad Cynnydd Archwiliad Mewnol pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar gynnydd ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Caiff y gweithgareddau yn ystod y cyfnod, yn cynnwys yr archwiliadau a gwblhawyd o flwyddyn ariannol 2020/21, eu nodi yn Atodiad A. Mae’r fformat yn dangos crynodeb o ganfyddiadau o adroddiadau archwilio a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod, yn cynnwys barn archwilio ffurfiol lle’n briodol. Cyflwynir Adroddiad Crynodeb Archwilio Mewnol lle caiff archwiliadau unigol eu graddio fel Sicrwydd Cyfyngedig neu Ddim Sicrwydd, a chadarnhaodd y Swyddog fod un adroddiad Crynodeb Archwiliai Mewnol yn Atodiad B. Mae Atodiad C yn rhoi’r data perfformiad ar gyfer y cyfnod ac mae Atodiad D ac E yn rhoi’r graddiadau a roddwyd yn ystod y cyfnod a’r gorchudd canran ar gyfer pob adran.

 

Mynegodd Aelod bryder am Atodiad B (Crynodeb Gweithio Hyblyg Archwilio Mewnol) a gofynnodd os y byddid yn gwneud mwy o waith i ystyried goblygiadau’r canfyddiadau a ddynodir yn yr archwiliad.

 

Esboniodd y Swyddog fod hyn yn archwiliad o’r polisi gweithio hyblyg blaenorol. Mae’r Cyngor yn awr wedi symud i system weithio hyblyg newydd a byddai rhai o’r elfennau a ddynodir yn y crynodeb wedi eu trin. Fodd bynnag, cynhelir archwiliad dilynol o’r system newydd i sicrhau y byddai’r prosesau hynny wedi eu rhoi ar waith lle mae’n alinio gyda’r system flaenorol.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio a Risg mai’r canfyddiadau a gynhwysir yn y crynodeb oedd diffyg cydymffurfiaeth gyda’r polisi oedd ar waith ar y pryd. Fodd bynnag, oherwydd y ffyrdd newydd o weithio byddai’r polisi yn cael ei ddiwygio a gallai fod na fydd rhai o’r problemau a ddynodir yn dal weithredol wrth symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol y cyhoeddwyd canllawiau pellach i Reolwyr yng nghyswllt rhai agweddau o’r archwiliad ac fel rhan o’r trefniadau cynhelir gweithio ystwyth y cynhelir adolygiad hefyd o’r polisi gweithio hyblyg ar ôl un flwyddyn i lywio datblygiad y gwaith hwnnw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol y byddai llesiant staff yn rhan o’r adolygiad. Dywedodd hefyd y gwnaed llawer o waith am lesiant ac y neilltuwyd adnoddau i staff gael mynediad iddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau yn yr Atodiadau a amgaeir a’r cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021.

 

9.

Datganiad Cyfrifon 2020/2021 pdf icon PDF 669 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd yr Uwch Bartner Busnes Cyfalaf a Chyfrifeg Corfforaethol yr adroddiad sy’n hysbysu Aelodau am newidiadau sylweddol ers cyflwyno’r drafft Ddatganiad Cyfrifon i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf, ynghyd ag unrhyw faterion sy’n codi ers archwilio’r Cyfrifon, a chyflwynodd Ddatganiad Cyfrifon 2020/21 ar gyfer eu cymeradwyo.

 

Cadarnhaodd y Swyddog fod y Cyngor wedi cydymffurfio gyda’r gofynion statudol yng nghyswllt cyhoeddi’r Cyngor ac, yn amodol ar gymeradwyo a llofnodi gan yr Archwilydd Cyffredinol, y byddai’n cyrraedd yr amserlen estynedig ar gyfer cwblhau erbyn 30 Medi 2021. Dengys adroddiad 2.5 yr adroddiad y cafodd y Cyfrifon eu gwneud ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio yn ystod mis Gorffennaf ac na dderbyniwyd unrhyw geisiadau i archwilio’r Cyfrifon.   Dywedodd ei fod hefyd yn dda nodi yn Adran 2.8 yr adroddiad bod Archwilio Cymru yn bwriadu rhoi barn archwilio ddiamod ar y Cyfrifon.

 

Aeth y Swyddog wedyn ymlaen drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Cyfeiriodd Aelod at Adran 2.8 yr adroddiad a gofynnodd pryd y gellid disgwyl tystysgrif ar gyfer cwblhau archwiliad blynyddoedd blaenorol.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog fod y mater a rwystrodd gwblhau ardystio cyfrifon 2015/16 yn dal i fynd rhagddo ac nes iddynt cael eu hardystio, ni fedrir ardystio tystysgrif ar gyfer cwblhau cyfrifon y blynyddoedd blaenorol.

 

Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol ac aeth drwy brif ganfyddiadau’r archwiliad. Cadarnhaodd y bwriedir rhoi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni.

 

Tynnodd sylw Aelodau at baragraff 18 yr adroddiad lle mae’n cyfeirio at faterion blaenorol yn ymwneud ag ansawdd y drafft gyfrifon, safon y gweithdrefnau rheoli ansawdd wrth baratoi’r datganiadau a phrydlondeb y papurau gwaith. Fodd bynnag, roedd yn dda ganddo nodi y gwnaed gwelliannau sylweddol yn y meysydd hyn yn ystod archwiliad 2020/21..

 

Cadarnhaodd y bwriedir cyhoeddi barn archwilio ddiamod, fodd bynnag ni fedrid cyhoeddi tystysgrif cwblhau archwiliad oherwydd y problemau parhaol yng nghyswllt Silent Valley. Fodd bynnag, roedd yn falch i adrodd y derbyniwyd yr ymatebion cyfreithiol gan yr unigolion a ddynodir yn yr adroddiad ac y disgwylir cyhoeddi’r adroddiad yn y dyfodol agos.

 

Cadarnhaodd cydweithiwr Swyddog Archwilio Cymru y gwnaed gwelliannau eleni a dywedodd fod y Tîm Cyllid wedi gweithio gyda Archwilio Cymru ar gynllun peilot ar gyfer cynnal archwiliadau i’w hymestyn ar draws Cymru yn y dyfodol. Canmolodd y Tîm ar eu gwaith ar y peilot a’r agwedd gadarnhaol tuag at y newidiadau a gaiff eu gweithred.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at y benthyciad o £70m ar gyfer y rheilffordd a gofynnodd os y dylai’r cyfrifon gynnwys datganiad nad oes unrhyw rwymedigaeth i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb esboniodd yr Uwch Bartner Busnes pan fydd y Cyngor yn dechrau gwario’r £70m y byddai’n cael ei newid yn y cyfrifon i ddangos fod gennym ddyledwr hirdymor a bod gan Lywodraeth Cymru/Trafnidiaeth Cymru ddyled o £70m i orchuddio’r rhwymedigaeth honno gydag asedau cyfatebol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ar ystyriaeth yr adroddiad hwn ac adroddiad yr Archwilydd Mewnol, bod y Cyfrifon yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio dan  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol pdf icon PDF 450 KB

Derbyn adroddiad Archwilio Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn nodi’r Adroddiad Archwiliad o Gyfrifon – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 2020/21.

 

11.

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol pdf icon PDF 407 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio a Risg y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol terfynol ar gyfer 2020/21. Cyflwynwyd y Datganiad i’r Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2021 a chafodd yn awr ei ddiweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol, gyda dim ond mân ddiwygiadau teipograffig.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a mabwysiadu’r Datganiad ar ôl ystyried a herio’r cynnwys, gan sicrhau ei fod yn gydnaws gyda’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r materion ehangach sy’n effeithio ar y Cyngor. (Opsiwn 1)

 

12.

Adroddiad Diweddariad Blynyddol – Defnyddio Pwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 pdf icon PDF 479 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth yn gysylltiedig â defnydd y Cyngor o bwerau statudol dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 ar gyfer y cyfnod 2020/2021, fel sydd ei angen dan bolisi a gweithdrefnau RIPA y Cyngor.

 

Dim ond os y caiff y gweithrediad arfaethedig ei awdurdodi’n fewnol gan un o’r swyddog awdurdodi a enwyd y gallai’r Cyngor gynnal cuddwylio ac yn ychwanegol rhaid i unrhyw wyliadwriaeth gynigir hefyd gael ei gymeradwyo gan Lys Ynadon. Dim ond os oedd angen hynny i atal neu ganfod troseddau sydd â dedfryd mewn dalfa o chwe mis neu fwy, neu droseddau yn ymwneud â gwerthu alcohol neu dybaco i berson dan oed, y gallai Cyngor ddefnyddio goruchwylio dan gyfeiriad. Mae’r defnydd o bwerau’r Cyngor dan RIPA wedi gostwng yn sylweddol mewn blynyddoedd diweddar a chaiff y tueddiad hwn ei weld ar draws Prydain. Mae’n rhaid dangos bod defnydd y pwerau yn gymesur i’r hyn y ceisir ei gyflawni ac ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd o weithgaredd y Cyngor ni fyddai’n gymesur i ddefnyddio’r pwerau.

 

Aeth y Swyddog wedyn drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo. Cadarnhaodd y cafodd hyfforddiant wedi’i ddiweddaru ar bwnc defnydd RIPA ei ohirio oherwydd pandemig Covid, ond rhagwelir y cynhelir hyn yn Ionawr 2022. Byddai’r polisi a gweithdrefnau hefyd yn cael eu hadolygu yn gynnar yn 2022.

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ddefnydd camerâu cudd mewn ardaloedd lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem fawr, esboniodd y Swyddog na fyddai’r polisi RIPA yn weithredol gan nad oes dedfryd o 6 mis mewn dalfa am droseddau tipio anghyfreithlon. Byddai’n gyfreithlon i’r Cyngor roi camerâu mewn ardal sy’n agored i dipio anghyfreithlon ond byddai’n rhaid rhoi arwyddion yn nodi fod camera yno. Fodd bynnag, os yw ardal neilltuol yn achosi problemau sylweddol sydd angen gweithredu, mae dulliau i ddefnyddio camera cudd os yw’n gymesur i’r hyn y mae’r Cyngor yn anelu ei gyflawni.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y Swyddog y gwnaed un cais ers mis Gorffennaf 2021 am oruchwyliaeth a arweiniodd at erlyniad llwyddiannus.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad a roddir fel sicrhau fod trosolwg a monitro priodol yn digwydd. (Opsiwn 1).

 

13.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2020/2021 pdf icon PDF 412 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yr adroddiad sy’n hysbysu Aelodau am berfformiad y Cyngor yng nghyswllt cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Roedd cyfanswm nifer y cwynion a gafodd yr Ombwdsmon yn ymwneud ag awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi gostwng i 12.5% yn ystod 2020/21. Mae hyn yn adlewyrchu’r gostyngiad mewn cwynion a adroddir i awdurdodau lleol yn ystod pandemig Covid-19.

 

Cyfeiriodd yr Ombwdsmon at gyfran uwch o gwynion cod Ymddygiad i’r Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru: 3.4% o gymharu â 2% yn y flwyddyn flaenorol. Mae cynnydd mawr yn nifer y cwynion Cod Ymddygiad a dderbyniwyd yn mynd gyda’r gyfradd atgyfeirio uwch hon.

 

Dywedodd y Swyddog y bu 15 o gwynion i’r Ombwdsmon ar gyfer Blaenau Gwent yn ystod 2020/21 gydag angen ymyriad ar ddim ond 1 g?yn. Mae hyn yn is na’r 17 cwyn a dderbyniwyd yn 2019/2020.

 

Gofynnodd Aelod os oedd gan y Gyngor gyfrifoldeb i hysbysu’r cyhoedd am y newid i weithio ystwyth.

 

Mewn ymateb, esboniodd y Swyddog os yw’r newid mewn trefniadau gwaith yn effeithio ar nifer y cwynion a dderbyniwyd, y caiff hyn ei ddynodi yn ystod prosesau mewnol y Cyngor ar gyfer trafod cwynion. Caiff pob cwyn eu hystyried i ganfod y rhesymau am y cwynion a ble gellir gwneud gwelliannau. Dywedodd na ddylai staff yn gweithio o gartref effeithio ar y gwasanaeth ac na ddaeth dim i’r amlwg drwy berfformiad, heblaw pan oedd y pandemig ar ei waethaf pan gafodd staff eu hadleoli i feysydd eraill ac y daeth rhai gwasanaethau i ben dros dro. Cafodd hyn ei hysbysu i’r cyhoedd ar y pryd, gan ymddiheuro am y tarfu ar wasanaethau.

 

Dywedodd Aelod y byddai’n fanteisiol cael gwybodaeth ar yr ymateb i gwynion.

 

Atebodd y Swyddog na fyddai’r wybodaeth hon yn rhan o’r adroddiad hwn, fodd bynnag datblygwyd system i adrodd y data hwnnw yn fanylach a chyflwynir hyn i gyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac y sicrhawyd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth perfformiad a roddwyd yn adlewyrchu’r arferion hyn. (Opsiwn 1)