Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mercher, 21ain Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

 

Ms Cheryl Hucker, Aelod Lleyg

Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

Prif Swyddog Masnachol  a Chwsmeriaid

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau

Rheolwr Archwilio a Risg

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 87 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfynaidau er pwyntiau cywirdeb yn unig). 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024.

 

PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 66 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith 2023-24 pdf icon PDF 85 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. (Opsiwn 1)

 

7.

Cofrestr Risg Corfforaethol Chwarter 3 2023 / 2024 pdf icon PDF 148 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio gynnwys yr adroddiad a rhoddodd sicrwydd fod gweithdrefnau yn eu lle i fonitro rheoli risgiau sylweddol.

 

8.

Cynnydd Archwilio Mewnol 2023/24 pdf icon PDF 118 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i aderoddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nododd y pwyllgor y canfyddiadau o fewn yr Atodiadau sydd ynghlwm a nododd y cynnydd ar weithgareddau am y cyfnod 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2023.

 

9.

Archwiliad yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar brosesau a threfniadau cynllunio darpariaeth gwasanaeth yr Awdurdod Lleol pdf icon PDF 115 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai Ymateb Rheoli y Cyngor, a ddyndowyd yn Atodiad 4, yn ymateb yn briodol i argymhellion yr Asiantaeth Safonau Bwyd. (Opsiwn 1)

 

10.

Ymateb i ymholiad Archwilio Cymru i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant a Rheolaeth pdf icon PDF 112 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo yr ymatebion a atodir i ymholiadau Archwilio Cymru a chadarnhaodd fod yr ymateb y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant yn adlewyrchu eu barn yn gywir. (Opsiwn 1)

 

11.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent – Cynllun Archwilio Manwl 2023 pdf icon PDF 796 KB

Ystyried adroddiad Archwilio Cymru.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad gan Archwilio Cymru.

 

Ymunodd Martin Veale â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Archwilio Cymru.