Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Bevan, W. Hodgins a K. Chaplin.
Estynnodd y Cadeirydd groeso i Cheryl Hucker, Aelod Lleyg i’w chyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 88 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y pwyntiau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023, yn cynnwys:-
Eitem 9 – Adroddiad Blynyddol 2022/2023 y Rheolwr Archwilio a Risg
Gofynnodd Aelod am ddiweddariad yng nghyswllt yr ymchwiliadau cyfredol. Atebodd y Rheolwr Archwilio a Risg y byddai’n gofyn am eglurhad gan yr Adran Gyfreithiol am gyfyngiadau ac adrodd yn ôl yn briodol i’r Pwyllgor maes o law.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2023-24 PDF 86 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Cynigiwyd cyflwyno Datganiad Cyfrifon 2022/23, Archwiliad Datganiadau Ariannol a’r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol Terfynol 222/23 i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol (mis Mawrth os yn bosibl) ac adolygu’r eitem ar gyfer Pwyllgor mis Chwefror.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Ystyried adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r Crynodeb Archwilio Blynyddol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023.
|
|
Archwilio Cymru: Cydbwyllgorau Corfforaethol – sylwebaeth ar eu cynnydd PDF 114 KB Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi cynnwys Adroddiad Archwilio Cymru ‘Cydbwyllgorau Corfforaethol – sylwebaeth ar eu cynnydd’ a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn derbyn unrhyw adroddiadau yn y dyfodol gan Archwilio Cymru ar gynnydd y Cydbwyllgorau.
|
|
Datganiad Llywodraethiant Blynyddol PDF 139 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau fod camgymeriad teipio ar dudalen 81 a chadarnhaodd y byddai hyn yn cael ei gywiro ac ymatebodd i’r pwyntiau a godwyd gan Aelodau am eglurhad a diwygiad yn y Datganiad Llywodraethiant terfynol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod y Pwyllgor wedi ystyried a herio’r cynnwys a barnu ei fod yn gydnaws gyda’u gwybodaeth a dealltwriaeth o’r materion ehangach sy’n effeithio ar y Cyngor, yn amodol ar y diwygiadau arfaethedig.
|
|
Cynllun Gweithredu Asesiad Ansawdd Allanol PDF 117 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad ac ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio y cynllun gweithredu a ddatblygwyd mewn ymateb i’r canfyddiadau o’r EQA, a roddir yn Atodiad A a B, a nododd y cynnydd a wnaed.
|
|
Cynllun Archwilio Technoleg Gwybodaeth SRS PDF 113 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi Crynodeb Gweithgaredd Archwilio 23/24 y Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) a ddarparwyd gan CBS Torfaen, yn cynnwys cynllun TG SRS a’r cynnydd a wnaed ar hynny (Atodiad A).
|