Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Gwener, 1af Rhagfyr, 2023 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny..

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

 

Cynghorydd Derrick Bevan, Mrs. Cheryl Hucker, Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau, Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol, Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol, Uwch Bartner Busnes – Cyfrifeg Cyfalaf a Chorfforaethol a  Deborah Woods, Mike Jones – Archwilio Cymru.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 92 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023, oedd yn cynnwys:

 

Eitem Rhif 11 – Adroddiad Buddiant Cyhoeddus – Canfyddiadau Adolygu Sicrwydd

 

Nodwyd y dylid diwygio’r teitl swydd yn y frawddeg gyntaf i ddarllen Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 66 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith 2023-24 pdf icon PDF 85 KB

Derbyn y flaenraglen gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Flaenraglen Gwaith arfaethedig ar gyfer 2023/2024.

 

Nodwyd, gan nad oedd unrhyw eitemau fusnes wedi’u trefnu i gael eu hystyried yn y Pwyllgor ar 20 Rhagfyr 2023, y byddai’r cyfarfod hwn yn cael ei ganslo.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

7.

Adroddiad Blynyddol 2022/2023 y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 133 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.

 

Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant, er nad oedd gofyniad ffurfiol i’r adroddiad gael ei ystyried gan y Cyngor, er budd arfer da caiff yr adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol ar gyfer dibenion gwybodaeth.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth a roddwyd fel sicrwydd fod trosolwg a monitro priodol yn digwydd a bod gan unrhyw ddiffyg fesurau rheoli priodol ar waith i wneud y gwelliannau angenrheidiol.

 

8.

Archwilio Cymru: Arholiad Gosod Amcanion Llesiant – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 113 KB

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Weithredwr Interim.

 

Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd fod diweddariadau rheolaidd ar y gofynion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar yr adeg briodol. Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd danlinellu yn fras bwysigrwydd ymgysylltu ac wrth wneud hynny cefnogodd y Cyngor i ddechrau ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn nhermau’r amcanion.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef y rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai Ymateb Rheoli’r Cyngor a ddynodir yn Atodiad 1 yn ymateb yn briodol i argymhellion Archwilio Cymru.

 

9.

Adroddiad Diweddaru Blynyddol – Defnyddio Pwerau dan Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA) 2000 pdf icon PDF 138 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad a roddwyd fel sicrwydd fod y trosolwg a’r monitro priodol yn digwydd.

 

10.

Cynnydd Archwiliad Mewnol 2023/24 pdf icon PDF 119 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol ar gyfer ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd ar y gweithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 30 Medi 2023.

 

11.

Cofrestr Risg Corfforaethol Ch2 2023 / 2024 pdf icon PDF 145 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ymunodd Mr. Martin Veale â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

CRR14 – Bydd methu gwella cyfraddau presenoldeb staff o fewn y Cyngor yn arwain at effaith annerbyniol ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ac yn ariannol.

 

Ar yr adeg briodol, bydd y Rheolwr Risg yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar y risg uchod.

 

Hysbyswyd aelodau fod Rheoli Absenoldeb yn destun archwiliad mewnol ar hyn o bryd sydd i ddod i ben yn y dyfodol agos a chyflwynir canfyddiadau’r archwiliad ynghyd â chynnydd i’r Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor fod gweithdrefnau yn eu lle i fonitro rheoli risgiau sylweddol.

 

12.

Drafft Ddatganiad Cyfrifon 2022/2023 pdf icon PDF 190 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a Drafft Ddatganiad Cyfrifon 2022/2023 er gwybodaeth, cyn ei ystyried i’w gymeradwyo ar ôl cwblhau’r archwiliad ariannol.