Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny..
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Cynghorydd Derrick Bevan, Mrs. Cheryl Hucker, Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol, Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau, Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol, Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol, Uwch Bartner Busnes – Cyfrifeg Cyfalaf a Chorfforaethol a Deborah Woods, Mike Jones – Archwilio Cymru.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: |
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 92 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion:
Eitem Rhif 11 – Adroddiad Buddiant Cyhoeddus – Canfyddiadau Adolygu Sicrwydd
Nodwyd y dylid diwygio’r teitl swydd yn y frawddeg gyntaf i ddarllen Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2023-24 PDF 85 KB Derbyn y flaenraglen gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Flaenraglen Gwaith arfaethedig ar gyfer 2023/2024.
Nodwyd, gan nad oedd unrhyw eitemau fusnes wedi’u trefnu i gael eu hystyried yn y Pwyllgor ar 20 Rhagfyr 2023, y byddai’r cyfarfod hwn yn cael ei ganslo.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y Flaenraglen Gwaith.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2022/2023 y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 133 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.
Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant, er nad oedd gofyniad ffurfiol i’r adroddiad gael ei ystyried gan y Cyngor, er budd arfer da caiff yr adroddiad ei gyflwyno i gyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol ar gyfer dibenion gwybodaeth.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth a roddwyd fel sicrwydd fod trosolwg a monitro priodol yn digwydd a bod gan unrhyw ddiffyg fesurau rheoli priodol ar waith i wneud y gwelliannau angenrheidiol.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
Yn dilyn trafodaeth, gofynnwyd fod diweddariadau rheolaidd ar y gofynion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar yr adeg briodol. Fe wnaeth y Pwyllgor hefyd danlinellu yn fras bwysigrwydd ymgysylltu ac wrth wneud hynny cefnogodd y Cyngor i ddechrau ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn nhermau’r amcanion.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef y rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai Ymateb Rheoli’r Cyngor a ddynodir yn Atodiad 1 yn ymateb yn briodol i argymhellion Archwilio Cymru.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad a roddwyd fel sicrwydd fod y trosolwg a’r monitro priodol yn digwydd.
|
|
Cynnydd Archwiliad Mewnol 2023/24 PDF 119 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol ar gyfer ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd ar y gweithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Gorffennaf i 30 Medi 2023.
|
|
Cofrestr Risg Corfforaethol Ch2 2023 / 2024 PDF 145 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Ymunodd Mr. Martin Veale â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
CRR14 – Bydd methu gwella cyfraddau presenoldeb staff o fewn y Cyngor yn arwain at effaith annerbyniol ar allu’r Cyngor i ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ac yn ariannol.
Ar yr adeg briodol, bydd y Rheolwr Risg yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar y risg uchod.
Hysbyswyd aelodau fod Rheoli Absenoldeb yn destun archwiliad mewnol ar hyn o bryd sydd i ddod i ben yn y dyfodol agos a chyflwynir canfyddiadau’r archwiliad ynghyd â chynnydd i’r Pwyllgor maes o law.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor fod gweithdrefnau yn eu lle i fonitro rheoli risgiau sylweddol.
|
|
Drafft Ddatganiad Cyfrifon 2022/2023 PDF 190 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a Drafft Ddatganiad Cyfrifon 2022/2023 er gwybodaeth, cyn ei ystyried i’w gymeradwyo ar ôl cwblhau’r archwiliad ariannol.
|