Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw gais ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Cynghorydd Joanna Wilkins, Mr. Martin Veale, Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid, Rheolwr Archwilio a Risg, Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol a Deborah Woods – Archwilio Cymru.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Trefn Eitemau Agenda Cofnodion: Cytunwyd y caiff yr eitemau dilynol eu hystyried ar y pwynt hwn yn y cyfarfod:
Eitem Rhif 8 – Datganiad Cyfrifon 2021/2022 Eitem Rhif 7 – Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022/2023.
|
|
Datganiad Cyfrifon 2021/22 PDF 243 KB Ystyried adroddiadau:
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiadau Prif Swyddog Adnoddau ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef ar ôl ystyried yr adroddiad ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Allanol, i gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon dan awdurdod dirprwyedig y Cyngor.
|
|
Llythyr Blynyddol 2022/2023 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru PDF 139 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd aelodau yr adroddiad a’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef y rhoddwyd sicrwydd fod y broses ar gyfer monitro cwynion yn gadarn a bod yr wybodaeth perfformiad a roddwyd yn adlewyrchu’r arferion hyn.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 86 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Medfi 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau ar gyfer pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gyflwynwyd ar 20 Medi 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y Ddalen Weithredu.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2023-24 PDF 86 KB Derbyn y flaenraglen gwaith. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Blaenraglen Gwaith arfaethedig 2023/2024.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y Flaenraglen Gwaith.
|
|
Archwilio Cymru: Taliadau Uniongyrchol am Ofal Cymdeithasol Oedolion PDF 121 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai Ymateb Rheoli y Cyngor a ddynodir yn Atodiad 2 yn ymateb yn briodol i argymhellion Archwilio Cymru.
|
|
Hunanasesiad 2022/23 Cyngor Blaenau Gwent PDF 155 KB Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwywyd Opsiwn 1, sef rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor fod Hunanasesiad 2022/2023 yn gyfrif cywir o effeithlonrwydd trefniadau rheoli perfformiad y Cyngor.
|
|
Adroddiad Budd Cyhoeddus – Canfyddiadau Adolygiad Sicrwydd PDF 148 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, Llywodraethiant a Pherfformiad.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi canfyddiadau’r Adolygiad Sicrwydd a chytuno ar yr argymhellion a amlinellir isod:
· Dynodi Swyddog Cyswllt o fewn y Cyngor i sefydlu cyfarfodydd cyswllt rheolaidd gydag Archifau Gwent ac Amlosgfa Gwent erbyn diwedd mis Mawrth 2024.
· Trefnu Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar weithrediadau a gwasanaethau a ddarperir gan Archifau Gwent ac Amlosgfa Gwent erbyn diwedd Mawrth 2024.
· Pob dogfen strategol berthnasol, cynllun busnes blynyddol a chyfrifon ar gyfer Archifau Gwent ac Amlosgfa Gwent i gael eu cynnwys yn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer 2024-25, a’r Cyngor lle’n berthnasol, o leiaf ddwywaith y flwyddyn.
· Datblygu’r Cylch Gorchwyl yn ‘becyn cymorth llywodraethiant’ i’w ddefnyddio gan swyddogion ar draws y Cyngor i roi sicrwydd ar gwmnïau presennol a sefydlu unrhyw rai newydd erbyn diwedd mis Mawrth 2024.
|
|
Adroddiad Blynyddol Llywodraethiant Gwybodaeth PDF 136 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad sy’n rhoi sicrwydd fod trosolwg a monitro priodol yn digwydd a bod mesurau rheoli priodol yn eu lle ar gyfer unrhyw ddiffyg i wneud y gwelliannau angenrheidiol.
|