Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mercher, 12fed Gorffennaf, 2023 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

 

Cynghorwyr D. Bevan, K. Chaplin, J. Wilkins, Rheolwr Risg ac Archwilio, Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a Deborah Woods, Archwilio Cymru.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 365 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 371 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023, ac ar hynny:

 

Eitem Rhif 7 – Blaenraglen Gwaith 2023/2024 -

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio

 

Nodwyd y cafodd y cam gweithredu hwn ei gwblhau fel eitem yn gysylltiedig â’r Adroddiad Blynyddol a’i gynnwys ar y Flaenraglen Gwaith. Fodd bynnag, prif ymgynghorydd y Pwyllgor (mewn cysylltiad â’r Cadeirydd) fyddai’n gyfrifol am gynhyrchu’r adroddiad ac nid y Prif Swyddog Adnoddau/Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau fel yr adroddwyd yn flaenorol

 

Eitem Rhif 11 – Asesiad Effaith Integredig ar y Ganolfan Ddinesig – Nifer Ymwelwyr Canol Tref Glynebwy

 

Rhoddodd y Rheolwr Busnes a Gwasanaethau Adfywio ddiweddariad llafar ar heriau a chywirdeb data nifer ymwelwyr a gasglwyd ar gyfer canol tref Glynebwy ac awgrymodd, gan y cafwyd nifer o ymholiadau gan sawl Aelod am y data hwn, y gellid trefnu sesiwn wybodaeth i Aelodau i amlinellu’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer dyfeisiau cyfrif ymwelwyr a’r algorithmau a ddefnyddiwyd i feintioli’r data.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

6.

Blaenraglen Gwaith 2023-24 pdf icon PDF 378 KB

Derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Nodwyd y caiff yr eitemau ychwanegol a drafodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin ei gynnwys o fewn y Flaenraglen Gwaith o hyn ymlaen.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y Flaenraglen Gwaith.

 

7.

Archwilio Cymru: Adolygiad o’r Gwasanaeth Cynllunio – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 536 KB

To consider the report of the Service Manager - Development

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y rhaglen a chymeradwyo Opsiwn 1, h.y. rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr Ymateb Rheoli yn ymateb i’r argymhellion a ddynodwyd o fewn adroddiad Archwilio Cymru yn ymwneud â’r adolygiad o’r Gwasanaeth Cynllunio.

 

8.

Datganiad Cyfrifon 2021/22 pdf icon PDF 858 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef peidio cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ar y cam hwn a’i ailystyried ar ôl derbyn ac ystyried Adroddiad Archwilio Cyfrifon yr Archwilydd a Benodwyd.

 

9.

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2021/22 pdf icon PDF 498 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo a mabwysiadu Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2021/2022 fel y mae ar hyn o bryd ac y ceir Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2022/2023 maes o law.