Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Cynghorwyr D. Bevan, K. Chaplin, J. Wilkins, Rheolwr Risg ac Archwilio, Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a Deborah Woods, Archwilio Cymru.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: |
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 365 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023, ac ar hynny:
Eitem Rhif 7 – Blaenraglen Gwaith 2023/2024 - Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio
Nodwyd y cafodd y cam gweithredu hwn ei gwblhau fel eitem yn gysylltiedig â’r Adroddiad Blynyddol a’i gynnwys ar y Flaenraglen Gwaith. Fodd bynnag, prif ymgynghorydd y Pwyllgor (mewn cysylltiad â’r Cadeirydd) fyddai’n gyfrifol am gynhyrchu’r adroddiad ac nid y Prif Swyddog Adnoddau/Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau fel yr adroddwyd yn flaenorol
Eitem Rhif 11 – Asesiad Effaith Integredig ar y Ganolfan Ddinesig – Nifer Ymwelwyr Canol Tref Glynebwy
Rhoddodd y Rheolwr Busnes a Gwasanaethau Adfywio ddiweddariad llafar ar heriau a chywirdeb data nifer ymwelwyr a gasglwyd ar gyfer canol tref Glynebwy ac awgrymodd, gan y cafwyd nifer o ymholiadau gan sawl Aelod am y data hwn, y gellid trefnu sesiwn wybodaeth i Aelodau i amlinellu’r fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer dyfeisiau cyfrif ymwelwyr a’r algorithmau a ddefnyddiwyd i feintioli’r data.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2023-24 PDF 378 KB Derbyn y Flaenraglen Gwaith.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Nodwyd y caiff yr eitemau ychwanegol a drafodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin ei gynnwys o fewn y Flaenraglen Gwaith o hyn ymlaen.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn y Flaenraglen Gwaith.
|
|
To consider the report of the Service Manager - Development Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn y rhaglen a chymeradwyo Opsiwn 1, h.y. rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr Ymateb Rheoli yn ymateb i’r argymhellion a ddynodwyd o fewn adroddiad Archwilio Cymru yn ymwneud â’r adolygiad o’r Gwasanaeth Cynllunio.
|
|
Datganiad Cyfrifon 2021/22 PDF 858 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef peidio cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ar y cam hwn a’i ailystyried ar ôl derbyn ac ystyried Adroddiad Archwilio Cyfrifon yr Archwilydd a Benodwyd.
|
|
Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2021/22 PDF 498 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo a mabwysiadu Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2021/2022 fel y mae ar hyn o bryd ac y ceir Datganiad Llywodraethiant Blynyddol 2022/2023 maes o law.
|