Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-Gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Wilkins.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:-
Cynghorydd W. Hodgins – Eitem Rhif 8 Gwasanaethau Rhannu Adnoddau (SRS).
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 348 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er mwyn cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023 a chodwyd y pwyntiau dilynol:
Eitem 8 – Blaenraglen Gwaith – gwaith mapio. Roedd aelodau wedi derbyn nodyn gwybodaeth a diweddariad llafar gan y Rheolwr Archwilio a Risg ar ganlyniadau’r gwaith mapio.
Eitem 6 – Blaenraglen Gwaith – sefyllfa bresennol ar y Datganiad Cyfrifon 2021/22. Roedd aelodau wedi derbyn nodyn gwybodaeth a diweddariad llafar gan yr Uwch Bartner Busnes Cyllid yng nghyswllt Datganiad Cyfrifon 2021/22.
PENDERFYNWYD derbyn y Ddalen Weithredu.
|
|
Blaenraglen Gwaith 2022-23 PDF 375 KB Derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio (Opsiwn 1).
|
|
Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol Blaenau Gwent: Canlyniad Arolwg Estyn PDF 528 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cymeradwyo Opsiwn 2, ac y rhoddir mwy o sicrwydd am y broses ar gyfer mesur llwyddiant i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio mewn monitro ac adroddiadau yn y dyfodol.
|
|
Gwasanaeth Rhannu Adnoddau (SRS) PDF 608 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef:
(a) Cefnogi’r datganiad safbwynt yn cadarnhau fod trefniadau Archwilio a Llywodraethiant yn eu lle ar yr amcanion a nodir yn yr Achos Busnes; a
(b) Derbyn diweddariadau blynyddol fel rhan o’r bartneriaeth barhaus gyda SRS.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef:-
• rhoi sylwadau ar adolygiad Archwilio Cymru a’r Camau Nesaf, a ddynodwyd ym mharagraff 2.5, i drin yr argymhellion i Swyddogion eu gweithredu er mwyn darparu gwelliant parhaus (Opsiwn 2); a
• paratoi adroddiad ar y broses ar gyfer gweithredu argymhellion Archwilio Cymru i roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Archwilio Cymru: Dilyn ar Ddiogelu Corfforaethol – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent PDF 547 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef:-
• rhoi sylwadau ar adolygiad Archwilio Cymru a’r Camau Nesaf, a ddynodwyd ym mharagraff 2.5, i drin yr argymhelliad i Swyddogion eu weithredu er mwyn darparu gwelliant parhaus (Opsiwn 2); a
• paratoi adroddiad ar broses gweithredu argymhellion Archwilio Cymru i fod yn barod i roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Archwilio Cymru: ‘Cyfle coll’ – Mentrau Cymdeithasol PDF 554 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Chymuned a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef:-
• rhoi sylwadau ar adolygiad Archwilio Cymru a’r Camau Nesaf, a ddynodir ym mharagraff 2.4, i drin yr Argymhellion ar gyfer Swyddogion eu gweithredu er mwyn darparu gwelliant parhaus (Opsiwn 2); a
• paratoi adroddiad ar y broses ar gyfer gweithredu argymhellion Archwilio Cymru i roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. |
|
Archwilio Cymru: Naid Ymlaen – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent PDF 617 KB Ystyried adroddiad y swyddogion ar y cyd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Partneriaethau, Pennaeth Datblygu Sefydliadol a’r Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef:-
• rhoi sylwadau ar adolygiad Archwilio Cymru a’r Camau Nesaf, a ddynodir ym mharagraff 2.6, i drin argymhellion i Swyddogion eu gweithredu er mwyn darparu gwelliant parhaus (Opsiwn 2); a
• paratoi adroddiad ar y broses ar gyfer gweithredu argymhellion Archwilio Cymru i roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Archwilio Cymru: ‘Amser i Newid’ – Tlodi yng Nghymru PDF 561 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef:-
• rhoi sylwadau ar adolygiad Archwilio Cymru a’r Camau Nesaf, a ddynodir ym mharagraff 2.6, i drin yr argymhellion i Swyddogion eu gweithredu er mwyn darparu gwelliant parhaus (Opsiwn 2); a
• paratoi adroddiad ar y broses ar gyfer gweithredu argymhellion Archwilio Cymru i roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Archwilio Cymru: ‘Gyda’n gilydd gallwn’ Cydnerthedd Cymunedol a Hunanddibyniaeth PDF 554 KB Ystyried adroddiad Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a Phennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a’r Pennaeth Llywodraethiant, Partneriaethau a Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef:-
• rhoi sylwadau ar adolygiad Archwilio Cymru a Camau Nesaf, a ddynodir ym mharagraff 2.5, i drin yr argymhelliad i Swyddogion eu gweithredu er mwyn darparu gwelliant parhaus (Opsiwn 2); a
• paratoi adroddiad ar y broses ar gyfer gweithredu argymhellion Archwilio Cymru i roi sicrwydd pellach i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. |