Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Llun, 30ain Ionawr, 2023 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:--

 

Cynghorydd T. Smith

Cynghorydd J. Wilkins

Charlotte Owen – Archwilio Cymru

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 344 KB

Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 111 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Ddalen Weithredu..

 

6.

Blaenraglen Gwaith 2022-23 pdf icon PDF 373 KB

Derbyn Blaenraglen Gwaith 2022-23.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Adnoddau yr Aelodau na fyddai Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gael ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Mawrth 2023. Byddid yn anfon nodyn gwybodaeth at Aelodau yn amlinellu’r sefyllfa bresennol.

 

Caiff cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ei gynnull os daw Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gael cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 26 Ebrill 2023.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

7.

Adroddiad Cynnydd Archwiliad Mewnol pdf icon PDF 501 KB

Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau ac yn nodi cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2022.

 

8.

Asesiad Ansawdd Allanol Gwasanaethau Archwilio Mewnol Blaenau Gwent pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cytuno bod yr adroddiad yn adlewyrchu eu dealltwriaeth o’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol a chytuno ar y cynllun gweithredu a gynigir a’i anfon i Sir Gaerfyrddin i gwblhau’r adroddiad..

 

9.

Sefyllfa Blaenau Gwent yng nghyswllt Ymateb i Gwestiynau yn adroddiad Archwilio Cymru ‘Dysgu o Ymosodiadau Seibr’

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a SIRO.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 18, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a SIRO a’r Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth.

 

Gofynnodd Aelod am drefnu mwy o hyfforddiant technoleg gwybodaeth ar gyfer Aelodau.

 

PENDERFYNWYD , yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn ystyried yr wybodaeth a roddir yn yr adroddiad ac yn cael sicrwydd fod gan y Cyngor (neu y bwriadai gael) mesurau priodol i leihau’r risg o ymosodiadau seibr.

 

ATODIAD  B2 A B4 –

ADRODDIAD AR GYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL

 

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 13 a 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

 

Cafwyd adroddiad llafar gan y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau ynghylch Atodiad B2 a B2 a ohiriwyd o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad llafar a bod y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau yn cyfeirio Atodiad B4 i’r Pwyllgor Craffu perthnasol i gael ei ystyried.