Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Cyswllt: E-bost: committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:--
Cynghorydd T. Smith Cynghorydd J. Wilkins Charlotte Owen – Archwilio Cymru
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 344 KB Derbyn penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y penderfyniadau er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
PENDERFYNWYD nodi’r Ddalen Weithredu..
|
|
Blaenraglen Gwaith 2022-23 PDF 373 KB Derbyn Blaenraglen Gwaith 2022-23.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Hysbysodd y Prif Swyddog Adnoddau yr Aelodau na fyddai Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gael ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Mawrth 2023. Byddid yn anfon nodyn gwybodaeth at Aelodau yn amlinellu’r sefyllfa bresennol.
Caiff cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ei gynnull os daw Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gael cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 26 Ebrill 2023.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
|
|
Adroddiad Cynnydd Archwiliad Mewnol PDF 501 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilio Mewnol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau ac yn nodi cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2022.
|
|
Asesiad Ansawdd Allanol Gwasanaethau Archwilio Mewnol Blaenau Gwent PDF 503 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cytuno bod yr adroddiad yn adlewyrchu eu dealltwriaeth o’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol a chytuno ar y cynllun gweithredu a gynigir a’i anfon i Sir Gaerfyrddin i gwblhau’r adroddiad..
|
|
Sefyllfa Blaenau Gwent yng nghyswllt Ymateb i Gwestiynau yn adroddiad Archwilio Cymru ‘Dysgu o Ymosodiadau Seibr’ Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a SIRO.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 18, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a SIRO a’r Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth.
Gofynnodd Aelod am drefnu mwy o hyfforddiant technoleg gwybodaeth ar gyfer Aelodau.
PENDERFYNWYD , yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn ystyried yr wybodaeth a roddir yn yr adroddiad ac yn cael sicrwydd fod gan y Cyngor (neu y bwriadai gael) mesurau priodol i leihau’r risg o ymosodiadau seibr.
ATODIAD B2 A B4 – ADRODDIAD AR GYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL
Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 13 a 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Cafwyd adroddiad llafar gan y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau ynghylch Atodiad B2 a B2 a ohiriwyd o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad llafar a bod y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau yn cyfeirio Atodiad B4 i’r Pwyllgor Craffu perthnasol i gael ei ystyried.
|