Lleoliad: Cyfarfod hybrid i’w gynnal yn rhithiol ar MS Teams yn Ystafell Syr William Firth, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Wilkins a Mr T. Edwards.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Tommy Smith fuddiant yn Eitem Rhif 9 – Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg 2021/22.
|
|
Penodi Cadeirydd 2022/2023 Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2022/23.
Cofnodion: Gwahoddwyd enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2022/2023.
Cynigiodd Aelod fod Ms Joanne Absalom yn cael ei phenodi i’r swydd ac eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD penodi Ms Joanne Absalom yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ar gyfer 2022.2023.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 413 KB Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2022.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodione r pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cod Llywodraethiant PDF 496 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo a mabwysiadu’r Cod Llywodraethiant diwygiedig (Opsiwn 1).
|
|
Cynllun Archwilio Mewnol 2022 – 2027 PDF 573 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r sail ar gyfer dethol/blaenoriaethu archwilio fel y disgrifir yn adran 2 a chymeradwyo’r cynllun archwilio a roddir yn Atodiad A, gan farnu ei fod yn rhoi digon o sail i’r Rheolwr Archwilio a Risg roi barn archwilio blynyddol, gan alluogi’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio i gyflawni ei rôl sicrwydd (Opsiwn 1).
|
|
Alldro Cynllun Archwilio 2021 – 2022 PDF 573 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a’r Rheolwr Archwilio a Risg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn nodi lefelau gorchudd archwilio ym mhob maes gwasanaeth, all-dro y cynllun ar gyfer y flwyddyn ariannol a pherfformiad y Gwasanaeth Archwilio mewnol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg 2021/2022 PDF 530 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi barn flynyddol y Rheolwr Archwilio a Risg fel sy’n dilyn:-
‘Yn seiliedig ar ganfyddiadau y gwaith archwilio a gynhaliwyd yn ystod 2021/22, yn fy marn i mae system Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent o reolaeth fewnol yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 yn gweithredu i lefel sy’n rhoi sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac effeithlonrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethiant, rheoli risg a rheolaeth y sefydliad’.
|