Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Iau, 14eg Ebrill, 2022 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid ar Microsoft Teams/Ystafell Cyfarfod Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Cyswllt: E-bost: committtee.services@blaenau-gwent.gov.uk 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb ar gyfer y Cynghorydd D. Hancock.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd B. Summers a J. Hill fuddiant yn yr eitemau dilynol:

 

Eitem Rhif 5 Datganiad Cyfrifon 2016/17 i 2020/21 (Silent Valley Waste Services Cyfyngedig)

 

Eitem Rhif 6 Archwilio Wales – Archwilio Adroddiadau Cyfrifon 2016/17 i 2020/21

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 342 KB

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2002.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2022.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Datganiad Cyfrifon 2016/2017 i 2020/2021 pdf icon PDF 261 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod eitemau rhif 5 a 6 yn rhoi sylw i’r un mater, h.y. Datganiad Cyfrifon Blaenau Gwent a barn Archwilio Cymru ar y Cyfrifon, ac awgrymodd ystyried yr eitemau gyda’i gilydd.

 

Cyflwynodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid yr adroddiad sy’n ailgyflwyno’r Datganiad Cyfrifon rhwng 2016/2017 a 2020/2021.

 

Cadarnhaodd y cafodd y Datganiad Cyfrifon eu cyflwyno’n flaenorol i’r Pwyllgor a bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi cyhoeddi barn ar y Cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Fodd bynnag, ym mhob achos ni fedrai dystio fod yr archwiliad o’r cyfrifon yn gyflawn oherwydd gwaith sy’n mynd rhagddo yng nghyswllt pryderon a godwyd mewn gohebiaeth yng nghyswllt Silent Valley Waste Services Cyf.

 

Fodd bynnag, ar ôl cyhoeddi ei adroddiad yng nghyswllt y materion a godwyd (Diffygion yn nhrefniadau llywodraethiant a goruchwylio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yng nghyswllt cwmni sy’n eiddo’r Cyngor – a ystyriwyd mewn Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor ar 7 Chwefror 2022) mae’r Archwilydd Cyffredinol yn awr wedi dweud y gallai gyhoeddi barn newydd ar gyfer pob Datganiad Cyfrifon o 2016/2017 ac ardystio bod yr archwiliad ar gyfer pob blwyddyn yn gyflawn.

 

Roedd y fframwaith statudol ar gyfer cymeradwyo cyfrifon Awdurdodau Lleol yn ei gwneud yn ofynnol, cyn i’r Archwilydd Cyffredinol gyhoeddi barn wedi ei diweddaru, fod yn rhaid i Gyfrifon pob blwyddyn gael eu hail-ardystio gan y Prif Swyddog Adnoddau a’u hail-gymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

Felly cadarnhaodd y Swyddog y cafodd y Datganiad Cyfrifon a gyflwynwyd i’w gymeradwyo ei newid i gynnwys y farn ddiwygiedig a ddarparwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol. Yn ychwanegol, cafodd y datgeliad perthnasol yn adran ‘Adroddiad Naratif’ pob set o Gyfrifon (2016/2017 i 2019/2020) ei ddiweddaru i adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Nid oedd angen unrhyw ddiwygiadau pellach.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd Archwilio Cymru fod yr adroddiadau, ar wahân i rai newidiadau naratif, yn cadarnhau y gall Archwilio Cymru bellach ardystio ac esbonio’r sefyllfa yn nhermau ei ganfyddiadau ac adrodd i Aelodau ac yn y blaen, yn union yr un fath a’u bod wedi cael eu hystyried gan Aelodau. Fodd bynnag, byddai angen llythyr cynrychiolaeth diwygiedig.

 

Dywedodd hefyd fod y Cyfrifon yn fformat 2021 gan fod y farn archwilio ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi ar y dyddiad hwn, ni fu unrhyw newid yn y cyd-destun a’r cynnwys.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol 2016/2017 i 2020/201 yn cael eu hail-gymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio dan awdurdod dirprwyedig y Cyngor (Opsiwn 1).

 

6.

Archwilio Cymru – Archwilio Adroddiadau Cyfrifon 2016/2017 i 2020/2021 pdf icon PDF 163 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Ymateb i ymholiad Archwilio Cymru i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant a Rheolaeth pdf icon PDF 406 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n hysbysu Aelodau am ymateb rheolwyr i ymholiadau Archwilio Cymru (Atodiad A) ac i’r Pwyllgor ystyried ei ymateb ei hun i’r ymholiadau fel y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant.

 

Eglurodd y Swyddog bwyntiau a godwyd gan Aelod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad  a bod y Pwyllgor yn cymeradwyo ymateb y rheolwyr i ymholiad Archwilio Cymru ac ystyriodd fod y drafft ymateb i’r Cyngor yn adlewyrchu eu barn yn gywir (Opsiwn 1).

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddogion ac Aelodau am eu cefnogaeth a’u gwaith yn ystod y flwyddyn, ac estynnodd ddymuniadau da i’r Aelodau ar gyfer yr etholiadau.