Lleoliad: O Bell yn Defnyddio Microsoft Teams
Cyswllt: E-bost: committtee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd B. Summers fuddiant yn y dilynol:
Eitem Rhif 7 Archwilio Cymru – Crynodeb Archwiliad Blynyddol 2021 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Silent Valley Waste Services Cyf.)
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 374 KB Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021.
(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau cywirdeb yn unig).
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Dalen Weithredu – 7 Rhagfyr 2021 Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021.
|
|
Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 416 KB Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilydd Mewnol..
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio mewnol.
Cyflwynodd yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n diweddaru’r Pwyllgor ar gynnydd ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2021 i 31 Rhagfyr 2021.
Caiff y gweithgareddau ar gyfer y cyfnod eu nodi yn Atodiad A ac maent yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau o’r adroddiadau archwilio a gynhyrchwyd yn y cyfnod, yn cynnwys barn archwilio ffurfiol lle’n briodol. Cyflwynir data perfformiad ar gyfer yr Adran yn Atodiad B, a dangosir y graddiad a roddwyd yn ystod y cyfnod a gorchudd canran pob Adran yn Atodiad C a D.
Mewn ymateb i gwestiynau am absenoldeb salwch cadarnhaodd y Swyddog mai dim ond at yr Adran Archwilio Mewnol y mae’r data yn cyfeirio. Dywedodd y bu’r Tîm yn ffodus drwy fod â fawr iawn o salwch cysylltiedig â Covid yn ystod y cyfnod a bod y Tîm wedi gweithio’n rhagorol drwy gydol y pandemig.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau a’r cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2021 i 31 Rhagfyr 2021.
|
|
Ystyried adroddiad Archwilio Cymru.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Cyflwynwyd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau newydd i’r Pwyllgor. Roedd wedi dechrau ar y swydd ddechrau mis Ionawr, sy’n cynnwys rôl Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor yn y blynyddoedd i ddod.
Cyflwynodd y Swyddog Grynodeb Archwilio Blynyddol 2021 Archwilio Cymru ar gyfer Blaenau Gwent (Atodiad 1) sy’n crynhoi’r gwaith a wnaed ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf ym mis Ebrill 2021. Nid yw Archwilio Cymru wedi codi unrhyw faterion sylweddol ac mae’r adroddiad yn amlygu rhai cryfderau yn y ffordd y mae’r Cyngor wedi defnyddio data i lywio ei ymateb i bandemig Covid a chefnogi’r broses cynllun adferiad. Mae’r adroddiad hefyd yn sôn fod cynllunio ariannol o fewn y Cyngor wedi gwella.
Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth ar astudiaethau lleol a chenedlaethol gan Archwilio Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf a thynnodd sylw at ychydig o’u gwaith arfaethedig. Dywedodd y Swyddog y cynhelir archwiliad dilynol o Ddiogelu Corfforaethol yn y gwanwyn ac y disgwylir derbyn y cylch gorchwyl ar gyfer yr archwiliad hwnnw ym mis Chwefror.
Cyfeiriodd Aelod at y ffeithiau allweddol ar dudalen 28 yr adroddiad a gofynnodd am fanylion pellach ar chwe maes amddifadedd. Dywedodd y Swyddog y byddai’n rhoi’r wybodaeth hon i bob Aelod.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn derbyn adroddiadau yn y dyfodol gan Swyddfa Archwilio Cymru.
|