Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio - Dydd Mawrth, 7fed Rhagfyr, 2021 9.30 am

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid drwy Microsoft Teams/Ystafell Abraham Derby, Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S. Thomas a J. Holt.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd B. Summers fuddiant yn yr eitem ddilynol:

 

Eitem Rhif 6 – Ymateb i Ymchwiliad Archwilio Cymru i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant a Rheoli (Silent Valley Waste Services)

 

4.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 384 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021.

 

(Dylid nodi y cyflwynir y cofnodion er pwyntiau gweithredu yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021.

 

Dywedwyd y dylid newid B. Baldwin i P. Baldwin ar y rhestr presenoldeb ar dudalen y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu – 2 Tachwedd 2021

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021.

 

6.

Ymateb i ymchwiliad Archwilio Cymru i’r rhai sy’n gyfrifol am Lywodraethiant a Rheolaeth pdf icon PDF 404 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Archwilio a Risg.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio a Risg yr adroddiad sy’n amlinellu ymateb y rheolwyr i ymholiadau Archwilio Cymru, a roddir yn Atodiad A, a’r ymateb a roddwyd ar ran y Pwyllgor fel y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethiant.

 

Dywedodd y Swyddog fod camgymeriad yn Opsiwn 1 yr adroddiad a ddylai ddarllen:

 

‘Mae’r Pwyllgor yn nodi’r ymateb a atodir gan y Rheolwyr i ymholiad Archwilio Cymru ac yn cymeradwyo ymateb y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fel y’i darparwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor.’

 

Dilynodd trafodaeth fer pan eglurodd Swyddogion bwyntiau a godwyd gan Aelod.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r ymateb a atodir gan y Rheolwyr i ymholiad Archwilio Cymru ac yn cymeradwyo ymateb y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fel y’i darparwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor (Opsiwn 1).

 

7.

Gwybodaeth cwynion ar gyfer Chwarter 1 a Chwarter 2 - 2021/2022 pdf icon PDF 495 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol wybodaeth perfformiad y Cyngor yn ymwneud â’r ymchwiliadau i Gam 1 a Cham 2 Cwynion Corfforaethol a dderbyniwyd ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 – 30 Medi 2021.

 

Esboniodd y Swyddog fod Cam 1 a Cham 2 yn cyfeirio at brosesau mewnol y Cyngor ar gyfer adolygu cwynion. Dywedodd y Swyddog, pe byddai methiant i sicrhau datrysiad drwy brosesau mewnol y Cyngor, y gellid esgyn cwyn i Gam 3 a’i chyfeirio at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i’w hystyried.

 

Fel yr adroddwyd yn flaenorol mae gan y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn awr swyddogaethau ychwanegol i gynnwys rôl mewn trosolwg ar gyfer cwynion a phwerau statudol newydd i:

 

  • Adolygu ac asesu gallu’r Awdurdod i drin cwynion yn effeithlon; a
  • Gwneud adroddiadau ac argymhellion yng nghyswllt gallu’r Awdurdod i drin cwynion yn effeithlon.

 

Mae’n ofynnol i’r Cyngor roi data cwynion i’r Awdurdod Safonau Cwynion (CSA) yn chwarterol a rhoi adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio am y nifer a mathau o gwynion a dderbyniwyd a’u canlyniadau. Roedd y Pwyllgor wedi cytuno ym mis Mehefin 2021 y cyflwynid yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor ddwywaith y flwyddyn.

 

Aeth y Swyddog wedyn drwy’r wybodaeth perfformiad a fanylir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Soniodd Aelod fod nifer uwch o gwynion yng nghyswllt gwastraff , sbwriel ffyrdd a chludiant a gofynnodd os y dylai hyn gael ei adrodd i’r Pwyllgor Craffu perthnasol i’w ystyried.

 

Dywedodd y Swyddog fod y nifer uwch o gwynion o fewn y meysydd hynny i’w ddisgwyl oherwydd natur y gwasanaeth. Cadarnhaodd y caiff y data ei ddadansoddi i lywio gwelliannau gwasanaeth ond hefyd i ddynodi unrhyw dueddiadau neu faterion y gall fod angen eu hystyried ymhellach gan y Pwyllgor Craffu perthnasol a’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

Gofynnodd Aelod hefyd os oes data cymharol ar gael yng nghyswllt cwynion a dderbyniwyd mewn awdurdodau lleol eraill, a gofynnodd hefyd am eglurhad os yw’r ffigurau yn cynnwys cwynion cod ymddygiad.

 

Mewn ymateb cadarnhaodd y Swyddog fod y ffigurau yn ymwneud â chwynion gwasanaeth yn unig. Cyflwynir data yng nghyswllt cwynion cod ymddygiad yn flynyddol i’r Pwyllgor Safonau a’r Cyngor. Yng nghyswllt data cymharol, roedd Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon a gyflwynwyd i gyfarfod diwethaf y Pwyllgor yn cynnwys data cymharol ar draws pob cyngor yng Nghymru ond nid yng nghyswllt meysydd gwasanaeth penodol. Roedd gan Flaenau Gwent nifer cymharol isel o gwynion o gymharu ag awdurdodau lleol a chaiff hyn ei adlewyrchu yn adroddiad yr Ombwdsmon. Dywedodd y Swyddog y gellid cael data gan awdurdodau lleol ond dywedodd y byddai’n rhaid addasu hyn i adlewyrchu maint ac anghenion pob awdurdod lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn pellach, cadarnhaodd y Swyddog fod y broses ar gyfer gwneud cwynion ar wefan y Cyngor. Mae gan bob Adran ei Swyddog Cwynion ei hunan ac maent yn y broses o dderbyn hyfforddiant yn nhermau dynodi cwynion a sicrhau y cânt eu cofnodi mewn modd priodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at adran 5.1 yr adroddiad sy’n dweud  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Tystysgrif Cydymffurfiaeth Archwilio Cymru ar gyfer Archwilio Asesiad Perfformiad 2020-21 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 474 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio a Risg Dystysgrif Cydymffurfiaeth Archwilio Cymru yn dilyn archwiliad o Asesiad Perfformiad 2020-21 y Cyngor (rhoddir yn Atodiad 1).

 

Mynegodd Aelod bryder am yr oedi gydag adroddiad Archwilio Cymru ar Silent Valley.

 

Dywedodd y Rheolwr Archwilio a Risg fod hwn yn fater gwahanol i’r adroddiad hwn ond cadarnhaol y caiff yr adroddiad ar Silent Valley ei adrodd i’r Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r dystysgrif cydymffurfiaeth a ddyddiwyd Tachwedd 2021.