Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar hyn o bryd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
y Cynghorwyr H. Cunningham, J. P. Morgan, J. Thomas a D. Woods.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:
Eitem Rhif 5: Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019; awdurdodi Rhenti Doeth Cymru i gynnal camau gweithredu gorfodaeth ym Mlaenau Gwent
- Cynghorwyr M. Cross a J. C. Morgan
Cynghorodd y Swyddog Monitro y gallai’r Aelodau a enwir uchod aros yn y cyfarfod tra bod yr eitem hon yn cael ei hystyried ac y gallent gymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth a all ddilyn ac unrhyw bleidlais ddibynnol (os oes angen) yng nghyswllt yr eitem hon o fusnes.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb Refeniw 2024/2025 PDF 225 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo:
- Y penderfyniad Treth Gyngor a fanylir isod. - Gofyniad cyllideb statudol o £184,942,156. - Defnyddio’r cronfeydd wrth gefn penodol a ddynodwyd yn gyfanswm o £1.5m (paragraff 5.1.16 yr adroddiad.
5.1.2 Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2024 cytunodd y Cyngor ar gynnydd Treth Gyngor o 4.95% ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/2025. Fel canlyniad, elfen Cyngor Blaenau Gwent o’r holl dâl treth gyngor llawn fyddai:
5.1.3 Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2023 roedd y Cyngor wedi cytuno mai sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer dibenion gosod y dreth fyddai 20,936.36 ar gyfer 2024/25, sef cyfanswm nifer yr anheddau y codir tâl arnynt ym mhob ardal wedi’i addasu ar gyfer nifer o eitemau e.e. gostyngiadau taladwy, wedi’i luosi gan y gyfradd casglu dybiedig o 95.5%.
5.1.4 Yn ychwanegol yn unol â Rheoliad 6 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor), swm ei sylfaen Treth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer yr anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal y mae un neu fwy o’r eitemau arbennig yn cyfeirio atynt oedd:
5.1.5 Mae’r uchod yn cynrychioli nifer yr anheddau y codir tâl arnynt lle byddai praesept y Cyngor Tref neu Gymuned yn weithredol.
5.1.7 Bod y symiau dilynol yn awr yn cael eu cyfrif gan y Cyngor am y flwyddyn 2024/2025 yn unol ag Adrannau 32 i 36 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac adrannau 47 a 49 Deddf Llywodraeth Leol 1988 (fel y’i diwygiwyd):
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd M. Cross a J. C. Morgan fuddiant yn yr eitem hon gan aros yn cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod Cyngor Caerdydd, fel yr Awdurdod Trwyddedu Sengl ar gyfer Cymru (Rhentu Doeth Cymru) yn cael ei awdurdodi i weithredu swyddogaethau awdurdod gorfodaeth, yng nghyswllt ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ar gyfer dibenion Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019, yn cynnwys, heb gyfyngiad, gymryd camau gorfodi a dod â thrafodion troseddol yn unol ag adran 19 y Ddeddf honno.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitem Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniadau ar gyfer yr eithriad ar gael ar restr a gaiff ei chadw gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Achos Busnes Masnachol Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y prawf budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.
Ymunodd y Cynghorydd J. Millard â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad y cafodd yr adroddiad ei ystyried mewn Cyfarfod Arbennig y diwrnod blaenorol a bod Aelodau gan gydnabod yr amserlen fer ar gyfer symud y cynnig ymlaen wedi cymeradwyo Opsiwn 2, yn amodol ar yr argymhelliad ychwanegol dilynol:
- Dirprwyo p?er i swyddogion i negodi hyd at uchafswm gwerth a gytunwyd.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
Mewn pleidlais a gynhaliwyd,
PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn gysylltiedig â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod sy’n dal yr wybodaeth honno) , a chymeradwyo Opsiwn 2 sef:
- symud ymlaen â’r cyfle a amlygir yn yr achos busnes; a
- dirprwyo p?er i swyddogion i negodi hyd at uchafswm gwerth a gytunwyd. .
|