Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Baldwin, H. Cunningham, D. Davies a J. Millard.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau. |
|
Ffioedd a Thaliadau ar Ddisgresiwn 2024/2025 PDF 160 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef:
- Cymeradwyo cofrestr Ffioedd a Thaliadau 2024/2025 ynghyd â’r ffioedd a thaliadau ar ddisgresiwn:
· cynnydd ffioedd o 5% yn unol â’r dybiaeth ar gyfer chwyddiant o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol;
· y ffioedd eraill a gynigiwyd fel y manylir ym mharagraffau 5.1.4 i 5.1.14 yr adroddiad; a
· Ffioedd Cynllunio fel yr atodir yn Atodiad 2.
- Dirprwyo p?er a chyfrifoldeb i’r Cyfarwyddwr Interim Gwasanaethau Cymdeithasol drwy osod y ffioedd a’r taliadau ar gyfer 2024/2025 yn ymwneud â darparu gofal cymdeithasol allanol fel y manylir ym mharagraff 5.1.6 yr adroddiad.
- Cymeradwyo’r cynnydd prisiau craidd yn gysylltiedig ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a roddir yn Atodiad 3.
|
|
Cyllideb Refeniw 2024/2025 PDF 234 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Achosion Busnes Pontio’r Bwlch
Cynigiodd Arweinydd y Cyngor fod y dilynol yn cael eu cytuno:
Ø CS01 – Lwfansau Aelodau – Gostwng y gyllideb ar gyfer Cyfraniadau Blwydd-dal Cyflogwyr - £12,000. Ø CS03 – Adran Adnoddau – Adolygu strwythurau staffio - £157,000. Ø CS04 – Gostyngiadau cyllideb i gynnydd chwyddiant a chyllidebau trawsnewid, gostwng cynnydd chwyddiant i gyflenwadau a gwasanaethau ar draws pob cyllideb portffolio a chynnydd i incwm grant ar gyfer prydau ysgol am ddim cyffredinol - £1,946,000. Ø CS05 – Teledu Cylch Cyfyng – Adolygu’r Gyllideb a gostwng cyllideb staffio a gwasanaethau i adlewyrchu gwariant - £40,173. Ø CS07 – Gwasanaethau Corfforaethol / Masnachol a Chwsmeriaid – Adolygiad o Strwythurau Staffio - £347,100. Ø CS09 – Corfforaethol a Pherfformiad – Adolygu a gostwng cyllidebau staffio i adlewyrchu gostwng oriau contract - £22,100. Ø CS10 – Byddai angen i bob gwasanaeth sicrhau gostyngiadau cyllideb o 1% yn ychwanegol at gynigion eraill y gyllideb - £1,000,000. Ø CS11 – Cynyddu Ffioedd a Thaliadau ar Ddisgresiwn gan o leiaf 5% - £100,000. Ø CS12 – Cynyddu treth gyngor gan 4.95% - £361,000. Ø CS14 – Lwfansau Aelodau Cyfetholedig – Gostwng y gyllideb i adlewyrchu gwariant - £12,000.
Ø ECON02 - Economi / Busnes ac Adfywio – uchafu cyllid grant - £17,000. Ø ECON03 – Adolygu Darpariaeth Gwasanaeth / Cyflenwi Gwasanaeth Arall / Ysgogi Incwm - £50,000.
Ø ED02 – Gostyngiad o 10% yn y cyfraniad i EAS - £34,000. Ø ED04 – Ffi Rheoli Arian Gwastad i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin - £135,670. Ø ED05 – Cyllideb Ysgolion – Arian gwastad/torri cyllideb Cyllideb Ysgolion Unigol – (ISB) - £1,051,000. Fodd bynnag, cytunwyd ar bwysau cost penodol yn gyfanswm o £864,000 (darpariaeth ADY, cynnydd yn nifer disgyblion a’r Ysgol Gymraeg newydd) a fyddai’n gyfwerth yn ymarferol â chynnydd o 1.6% i’r ISB ac a fyddai’n cael ei gyllido gan y Cyngor. Ø ED06 – Adolygu Cyllidebau Staffio ac uchafu cyllid grant - £107,460.
Ø ENV01 – Diogelu’r Cyhoedd – Adolygu Strwythurau Staffio - £100,000. Ø ENV09 – Gwastraff Masnach – Cynyddu prisiau Gwastraff Masnach i Fusnesau gan 5% - £2,220 Ø ENV11 – Gwasanaethau Gwastraff – Codi ffi weinyddol yn gysylltiedig â dosbarthu biniau gweddilliol a bagiau ailgylchu – gweithredid y cynnig hwn ar sail treialu fel y medrid monitro a gwerthuso ei weithrediad - £3,662. Ø ENV12 – Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Aelwydydd – Adolygu dyddiau/oriau gweithredu . Gweithredid y cynnig hwn ar sail treialu fel y medrid monitro a gwerthuso ei weithrediad - £34,000. Ø ENV15 – Adolygu Cyllideb Staffio – Gostwng cyllideb yn gysylltiedig â swydd a gafodd ei dileu - £45,000.
Ø SS01 – Gwasanaethau Oedolion – Gwasanaeth Comisiynu Gofal Cymdeithasol a Chymorth Tai newydd - £57,000. Ø SS02 – Gwasanaethau Oedolion Rhesymoli/Gostwng Lefelau Staffio - £113,000. Ø SS04 – Gwasanaethau Oedolion – Gostwng pecynnau gofal yn y cartref drwy wella mesurau sicrwydd ansawdd - £250,000. Ø SS05 – Gwasanaethau Darparydd – Gostyngiad mewn Opsiynau Cymunedol a Chludiant i’r Ganolfan Ddydd - ... view the full Cofnodion text for item 5. |