Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan: Cynghorwyr K. Chaplin, J. Morgan, J.P., G. Thomas, D. Wilkshire and L. Winnett.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Eitem Rhif 4: Cyllideb Refeniw 2023/2024
- Cynghorwyr J. Gardner, W. Hodgins, E. Jones, D. Rowberry, J. Thomas a H. Trollope.
Arhosodd yr Aelodau a enwir uchod yn y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitem hon o fusnes.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyllideb Refeniw 2023/2024 PDF 718 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr J. Gardner, W. Hodgins, E. Jones, D. Rowberry, J. Thomas a H. Trollope fuddiant yn yr eitem ond ond fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at baragraff 2.2 yr adroddiad a dywedodd fod y setliad terfynol yn awr yn cynnwys trosglwyddiad o gyllid i’r setliad llywodraeth leol, yn ymwneud â Phensiynau Awdurdod Tân ac Achub. Roedd gwerth y grant hwn yn gyfanswm o £5.8m yn genedlaethol ar draws Cymru ac roedd wedi cynyddu setliad terfynol Blaenau Gwent i £139,730,490. Dywedwyd fod y Cyngor wedi cytuno’n flaenorol i basportio’r cynnydd o £130,000 i’r Awdurdod Tân ac Achub, felly roedd gofyniad cyllideb y Cyngor yn awr wedi cynyddu o £178,034,276 i £178,164,692.
Fel canlyniad, byddai angen newidiadau i rai o’r ffigurau yn yr adroddiad, fodd bynnag tanlinellwyd na fyddai’r diwygiad hwn yn newid sefyllfa y Cyngor yng nghyswllt defnydd cronfeydd wrth gefn na’r cynnydd yn lefel y dreth gyngor.
Felly, i adlewyrchu’r cynnydd yn y setliad terfynol, byddid yn newid y symiau canlynol a gynhwysir o fewn yr adroddiad fel sy’n dilyn:
Paragraff 3.1.2 – caiff y ffigur hwn ei newid i £178,164,692. Paragraff 5.1.7 (a) – byddai’r ffigur hwn yn awr yn £178,164,692. Paragraff 5.1.7 (c) – byddai’r ffigur hwn yn awr yn £139,730,490. Paragraff 5.1.13 – caiff y ffigur yn y frawddeg gyntaf ei newid i £178,164,692. Paragraff 5.1.14 – caiff ffigur y Grant Cymorth Refeniw yn awr ei newid i £117,692,418, gan godi cyfanswm net y gyllideb refeniw £182,432,694.
Wedyn,
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:
- Cymeradwyo’r Datrysiad Treth Gyngor a fanylir isod.
- Cymeradwyo’r gofyniad cyllideb statudol o £178,164,692 a fanylir isod.
- Defnyddio’r cronfeydd penodol a ddynodwyd yn gyfanswm o £4.26m (paragraff 5.1.16 yr adroddiad).
5.1.2 Yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2023, cytunodd y Cyngor ar gynnydd o 3.45% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024. Fel canlyniad, elfen Cyngor Blaenau Gwent o’r tâl treth gyngor llawn fyddai:-
5.1.3 Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd y Cyngor y byddai sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer dibenion gosod treth yn 20,8706.70 ar gyfer 2023/24, sef cyfanswm nifer yr anheddau y codir tâl arnynt ym mhob ardal wedi’i addasu ar gyfer nifer o eitemau e.e. gostyngiadau taladwy, wedi’i luosi gan y gyfradd casglu dybiedig o 95%.
5.1.4 Yn ychwanegol, yn unol â Rheoliad 6 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) 1992, swm sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn ymwneud â nhw oedd:
5.1.5 Mae’r uchod yn cynrycholi nifer yr anheddau y codir tâl amdanynt y byddai ... view the full Cofnodion text for item 4. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2023/2024 PDF 514 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. + Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau
Nodwyd, er y cynigir cynnydd chwyddiant o 8% mewn rhai ffioedd a chostau fel canlyniad i’r costau cynyddol y mae’r Cyngor yn eu profi, cynigiodd Arweinydd y Cyngor gymeradwyo’r diwygiadau dilynol i’r ffioedd a’r costau a restrir isod:
Gwasanaethau Cymdeithasol:
- Gwasanaethau Amhreswyl – Gofal Cartref – cynnydd 4%. - Gwasanaethau Amhreswyl – Gofal Dydd – cynnydd 4%. - Gwasanaethau Amhreswyl – Taliadau Uniongyrchol – cynnydd 4%. - Gwasanaethau Amhreswyl – Tâl Llety Rhan III (darpariaeth ei hun) – cynnydd 4%. - Gwasanaethau Amhreswyl – T? Augusta (darpariaeth ei hun) – cynnydd 2% - Canolfan Dydd Bert Denning – Ffi Gwaelodlin Sylfaenol – cynnydd 4% - Pwll Hydrotherapi Bert Denning – Ffi ar gyfer OLA a chwsmeriaid preifat ar ddyddiau’r wythnos – cynnydd 4% - Pwll Hydrotherapi Bert Denning – Ffi defnydd penwythnos – cynnydd 4% - Gofal Plant Dechrau’n Deg – Ffioedd gofal plant ar gyfer plant heb fod yn rhan o Dechrau’n Deg – cynnydd 4%
Cyfathrebu – Ffioedd Larwm Cymunedol a Gwasanaeth Teleofal C2BG:
- Ffioedd monitro – Lifeline analog gyda phendant – misol – cynnydd 5% - Ffioedd monitro – Lifeline digidol gyda cherdyn Sim a phendant – misol – cynnydd 5% - Ffioedd monitro – Lifeline analog gyda phendant a 5 synhwyrydd ychwanegol – misol – cynnydd 5% - Ffioedd monitro – Lifeline digidol gyda phendant gyda 5 synhwyrydd ychwanegol - misol – cynnydd 5% - Pecyn Diogelwch - (analog) argymhellwyd gan Weithiwr Cymdeithasol – misol – cynnydd 5%. - Pecyn Diogelwch – (digidol) argymhellwyd gan Weithiwr Cymdeithasol – misol – cynnydd 5% - Ffioedd gosod dechreuol – cynnydd 5%. - Gosod pellach ar synwyryddion ychwanegol – cynnydd 5%. - Gosod offer heb ei fonitro – cynnydd 5%. - Pendant newydd – cynnydd 5%.
Prydau Cymunedol:
- Pryd ar Glyd – Pryd a Phwdin – cynnydd 2%.
Gwasanaethau Cymunedol - Gwastraff:
- Casgliad Gwastraff Swmpus – cynnydd 4%.
Gwasanaethau Cymunedol - Mynwentydd:
- Claddedigaeth – Bedd newydd – Dyfnder dwbl – cynnydd 2%. - Claddedigaeth – Ailagor bedd – cynnydd 2%. - Claddedigaeth – Hawl claddu ecsliwsif (EROB) – cynnydd 2%. - Olion wedi’u hamlosgi – Bedd newydd (isafswm dyfnder) Llwch – cynnydd 2% - Olion wedi’u hamlosgi – Ail-agor bedd Llwch – cynnydd 2% - Olion wedi’u hamlosgi – Gwasgaru llwch – cynnydd 2% - Olion wedi’u hamlosgi – EROB – cynnydd 2% - Lleiniau gardd orffwys – Olion wedi’u hamlosgi (bedd newydd) Llwch – cynnydd 2% - Lleiniau gardd orffwys – Olion wedi’u hamlosgi (ail-agor) Llwch- cynnydd 2% - Lleiniau gardd orffwys – EROB – cynnydd 2% - Cofebau – Codi cofeb – cynnydd 2% - Cofebau – Arysgrifiad ychwanegol, cofeb newydd – cynnydd 2% - Cofeb – Cofeb baban marw-anedig (EROB) - Cofeb – Adnewyddu, glân ac ailangori cofeb – cynnydd 2% - Cofeb – Plac bach – cynnydd 2% - Cofeb – Cais ychwanegol am amgylchyn/cofeb – cynnydd 2%
Tiroedd – Tiroedd a Chaeau Chwarae - Gemau:
- Hyfforddiant tiroedd a ... view the full Cofnodion text for item 5. |