Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Iau, 23ain Chwefror, 2023 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

Cynghorwyr C. Bainton a S. Edmunds.

 

3.

Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol

Cofnodion:

Llongyfarchiadau

Estynnwyd llongyfarchiadau i:

 

-        Megan Cottrell o Lanhiledd a ddewiswyd yn gyd-capten Tîm Pêl-rwyd Dan 17 Cymru a fyddai’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Pêl-rwyd Ewrop.

 

Anfonwyd llythyr at Megan yn ei llongyfarch.

 

Cydymdeimlad

 

Estynnwyd cydymdeimlad gyda theuluoedd:

 

Ø  Ian Johnston, cyn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ar ei farwolaeth drist.

 

Ø  Clare Drakeford, gwraig Mark Drakeford Prif Weinidog Cymru, ar ei marwolaeth drist.

 

Ø  Y miloedd o ddioddefwyr y daeargryn a gollodd eu bywydau yn Nhwrci a Syria.

 

Dangosodd Aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau a buddiant a wnaed.

 

Cofnodion:

5.

Cyllideb Refeniw 2023/2024 pdf icon PDF 843 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dilynol:

 

Atodiad 2 – Pwysau Cost

 

Ø  Gwasanaethau Corfforaethol: Ymgysylltu a Chyfranogiad, Cydraddoldeb a’r Gymraeg – Gofyniad staffio ychwanegol yn gyfanswm o £81,110 – dileu y pwysau cost hwn, gan roi ystyriaeth i ddynodi cyllid o fan arall o fewn y gyllideb.

 

Achos Busnes Pontio’r Bwlch

 

Cytuno ar y cynigion dilynol:

 

Ø  RES01 – Strategaeth Twf - Tai - £150,000.

Ø  RES02 – Adolygu Ffioedd a Chostau ar gyfer gwasanaethau cynhyrchu incwm ar draws y Cyngor - £100,000.

Ø  RES03 – Gostyngiad yn y Gronfa Trawsnewid - £270,995.

Ø  RES04 – Dileu Cyllideb Rheoli Masnachol a Chontractau - £271,000.

Ø  RES05 – Dileu Cyllideb Costau Pensiwn Ychwanegol – Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin - £152,000.

 

Ø  CS01 – Gwariant Trydydd Parti (Sefydlu Tîm Prynu Proffesiynol- £396,550.

Ø  CS04 – Adolygu Teleffoneg - £48,000.

Ø  CS05 – Adolygiad o’r System Rheoli a Chadw Dogfennau Electronig - £104,000.

Ø  CS09 – Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau – £50,000.

Ø  CS10 – Cynhyrchu Incwm Swyddfeydd Cyffredinol - £60,000.

Ø  CS11 – Grantiau Aelodau (Ardoll Arbennig) £8,910.

 

Ø  SS – Atal ac Ymyriad Cynnar – Sefydlu Tîm MyST – Cynllun Buddsoddi i Arbed - £416,000.

Ø  SS01 – Gostyngiad yn y Gyllideb Ffioedd Cyfreithiol (Gwasanaethau Cymdeithasol Plant) - £175,000.

Ø  SS02 – Defnyddio Grant Plant a Chymunedau - £21,025.

Ø  SS06 – Adolygu Capasiti Rheolwr Darparwyr (Byw â Chymorth ac Augusta/Opsiynau Cymunedol) - £25,000.

Ø  SS07a – Gostyngiad mewn Opsiynau Cymunedol (canolfannau gwasanaethau dydd) - £143,170.

Ø  SS07b – Gostyngiad mewn Cludiant yn Opsiynau Cymunedol - £58,200.

 

Ø  ENV12 – Cau’r Ddolen Fecanyddol - £41,000.

Ø  ENV18 – Incwm Adfywio – £30,000.

Ø  ENV23 – Dilieu Darpariaeth Bagiau Baw C?n - £14,596.

Ø  ENV24 – Symud i gasgliad bob bythefnos ar gyfer Gwastraff - £75,000.

Ø  ENV25 – Unedau Diwydiannol - £100,000.

 

Ø  ED06 – Adolygu Contractau Cytundeb Lefel Gwasanaeth - £20,000.

 

Ø  CC02 – Adolygu Adeiladau Gweithredol - £250,000.

 

Ø  Gweithgaredd Masnachol a Buddsoddiad - £50,000.

 

Roedd y cynigion uchod yn gyfanswm o £3.03m.

 

Peidio cytuno ar y cynigion dilynol:

 

Ø  ED07 – Adolygu Gwasanaeth Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.

Ø  ED08 – Ffi Rheoli Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin – Adolygu Darpariaeth Gwasanaeth

 

Ø  ENV – Symud i Gasgliad Sbwriel bob 4 wythnos.

Ø  ENV02 – Cau pob Ardal Chwarae

Ø  ENV03 – Gostwng Darpariaeth Glanhau Strydoedd.

Ø  ENV04 – Gostwng Darpariaeth Golau Strydoedd

Ø  ENV05 – Darpariaeth Toiledau Cyhoeddus – Dileu Cyllid.

Ø  ENV06 – Gwastraff – Cau/Cau Rhannol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Ø  ENV07 – Gwastraff – Gostwng Rowndiau Ailgylchu.

Ø  ENV08 – Dileu Patrolwyr Croesiad Ysgol

Ø  ENV09 – Dileu Arian Cyfatebol par Cymhorthdal i Wasanaethau Bws.

Ø  ENV11 – Peidio parhau â’r Gwasanaeth Trin Rheoli Pla

Ø  ENV14 – Dod â chefnogaeth i ben ar gyfer Gorymdeithau Cadoediad,

Ø  ENV15 – Gostwng Wardeiniaid Gwarchodaeth.

 

Ø  SS04 – Cynhyrchu Incwm - Cwrt Mytton.

Ø  SS09 – Gosod Cap ar Becynnau Cost Uchel Gofal Cartref Cymunedol

Ø  SS10 –  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 238 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

 

-        Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Joanna Wilkins yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.