Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Mercher, 21ain Rhagfyr, 2022 9.15 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

 

Cynghorwyr D. Davies, J. Morgan, Y.H., D. Woods, Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:

    

Eitem Rhif 5: Cytundeb Tâl NJC Gwasanaethau Llywodraeth Leol 2022-2023 – Gwyliau Blynyddol Ychwanegol

 

-        Damien McCann – Prif Weithredwr Interim

-        Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

-        Ellie Fry – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

-        Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-        Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-        Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-        Alison Hoskins – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

-        Clive Rogers – Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

-        Sarah King – Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau

-        Andrew Parker – Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Interim, yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro er bod y swyddogion a enwir uchod wedi datgan buddiant yng nghyswllt yr eitem uchod, y caniateir iddynt aros yn y cyfarfod. Fodd bynnag, os bydd trafodaeth yn dilyn byddai’r swyddogion hynny a ddatganodd fuddiant yn gadael y cyfarfod ar y pwynt priodol, ac eithrio’r swyddog dilynol a fyddai’n aros yn y cyfarfod i ateb unrhyw gwestiynau ac egluro pwyntiau a godir:

 

-        Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

 

4.

Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol

Cofnodion:

Llongyfarchiadau

 

Cafodd llongyfarchiadau eu hymestyn i Gwendoline Moore a gafodd ei geni yn Nhredegar ond sy’n awr yn byw yn Awstralia ar ddathlu ei phen-blwydd yn 111 oed.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr priodol.

 

Cydymdeimlad

 

Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu’r cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol a Maer Des Davies, a fu farw. Bu Des yn gynghorydd dros Ward Cwm am dros 35 mlynedd a gwelir ei golli yn fawr.

 

Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.

 

Anfonwyd llythyr priodol at y teulu.

 

5.

Gweithio Nadolig a Thâl Gweithlu pdf icon PDF 556 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno i addasu tâl tu allan i ganllawiau NJC ar gyfer rhai oedd ar rota i weithio rhwng 25 Rhagfyr 2022 a 2 Ionawr 2023 ac a gaiff eu talu fel sy’n dilyn:

 

        25 Rhagfyr 2022 – 2 Ionawr 2023, tâl i fod ar amser trebl heb unrhyw lwfans amser yn lle.

        30 Rhagfyr (a gaiff ei gyfrif fel diwrnod gwaith arferol) i fod yn eithriad gyda thâl ar amser dwbl heb unrhyw lwfans amser yn lle.

 

6.

Cytundeb Tâl NJC Gwasanaethau Llywodraeth Leol 2022-2023 – Gwyliau Blynyddol Ychwanegol pdf icon PDF 581 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y swyddogion dilynol ddatgan buddiant yn yr eitem ond aros yn cyfarfod tra’i bod yn cale ei hystyried:

 

-        Damien McCann – Prif Weithredwr Interim

-        Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

-        Ellie Fry – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

-        Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-        Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-        Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-        Alison Hoskins – Pennaeth Gwasanaethau Oedolion

-        Clive Rogers – Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

-        Sarah King – Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau

-        Andrew Parker – Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar gynnydd o un diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata ar gyfer staff rhan-amser) ar gyfer |Pif Swyddogion JNC a Phrif Weithredwr y Cyngor.

 

7.

Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2022/27 pdf icon PDF 424 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad wedi cymeradwyo’r strategaeth yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr 2022.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradywo opsiwn 1, sef cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg 2022-2027.

 

8.

Asesiad Cryno o'r Sefyllfa Ariannol 2023/24 i 2027/28 pdf icon PDF 534 KB

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd yr Aelod Llywyddol y gellir ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b) Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHESWM AM Y BRYS

Rhoidiweddariad ar sefyllfa ariannol y Cyngor a’r heriau ariannol a wynebir wrth osod cyllideb 2023/24.

 

Ystyriedadroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd yr Aelod Llywyddol y gellid ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

·       cymeradwyo’r prif dybiaethau a ddefnyddiwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (adran 5.1.2 yr adroddiad);

·       nodi’r rhagolwg o’r bwlch cyllid am gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymnor Canol (adran 5.1.3 yr adroddiad); a

·       datblygiad parhaus Adolygiadau Busnes Strategol Pontio’r Bwlch.