Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Mercher, 26ain Hydref, 2022 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

Y Cynghorwyr J. Gardner, J. Hill, H. Trollope a D. Woods.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:

 

Eitem Rhif 8: Cynllun Ariannol Cronfa Integreiddio Rhanbarthol

Cynghorydd W. Hodgins                    

 

4.

Hunan-asesiad 2021/22 Cyngor Blaenau Gwent pdf icon PDF 426 KB

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Weithredwr Interim.

 

Yn dilyn trafodaeth:

 

-        Nodwyd y byddid angen diwygio manylion y cyfansoddiad gwleidyddol yn y ddogfen cyn ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

-        Eglurwyd fod yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen yn ôl-weithredol ac nad oedd unrhyw gyllid cyfalaf ar gael i wneud unrhyw waith priffordd pellach ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ar gais y Pwyllgor Craffu caiff y mater hwn ei ymchwilio ymhellach a byddai angen cyflwyno adroddiadau pellach drwy’r broses ddemocrataidd, yn ymwneud ag unrhyw gyfleoedd cyllid posibl yn y dyfodol ac opsiynau ar gyfer y dyfodol. Pe byddai cyllid yn dod ar gael, nodwyd y byddai’n fater i’r Cyngor flaenoriaethu unrhyw waith posibl.

 

-        Gan fod yr Hunan-asesiad yn ddogfen gyhoeddus, cytunwyd y rhoddir ystyriaeth i fformat dogfennau yn y dyfodol er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.  

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Hunan-asesiad 2021/22 y Cyngor i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor a’i rannu gyda phartneriaid allweddol fel yr amlinellir ym mharagraff 2.42 y canllawiau statudol.

 

5.

Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2022/27 pdf icon PDF 766 KB

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau y Prif Weithredwr Interim.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno cynnwys Cynllun Corfforaethol 2022/2027 ar gyfer ei gyhoeddi.

 

6.

Diwygiadau i'r Cyfansoddiad pdf icon PDF 282 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.

 

Dilynodd trafodaeth faith pan gytunwyd:

 

-        Y dylid rhoi cyhoeddusrwydd i weithgareddau’r Aelod Llywyddol yn brydlon i gyfathrebu i’r cyhoedd y dyletswyddau a digwyddiadau a gyflawnir. Yn ychwanegol, bod yr Aelod Llywyddol yn paratoi adroddiad ddwywaith y flwyddyn i’r Cyngor yn rhoi manylion y digwyddiadau a fynychodd yn rhinwedd ei swydd yn cynrychioli ac yn hyrwyddo’r Fwrdeistref Sirol.

 

-        Ychwanegu disgrifiad swydd yr Aelod Llywyddol a diweddaru’r Cyfansoddiad i adlewyrchu unrhyw newidiadau cysylltiedig.

 

-        Yn ogystal â chopïau electronig o’r Cyfansoddiad, gellir hefyd ddarparu copïau caled pan dderbynnir cais ysgrifenedig.

 

-        Bod y Pennaeth Cydymffurfiaeth a Chorfforaethol yn paratoi nodyn gwybodaeth cyfreithiol i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac opsiynau wrth symud ymlaen i Arweinwyr Grwpiau eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef ymgorffori’r newidiadau a awgrymwyd yn y Cyfansoddiad presennol.

 

7.

Adnewyddu Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus ar gyfer Troseddau Rheoli Cŵn pdf icon PDF 520 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored i’r Cyhoedd yn Atodiad 1 yr adroddiad. Daw’r Gorchymyn newydd i rym ar 1 Tachwedd 2022.

 

8.

Rhwymedigaethau Ariannol y Gronfa Integreiddio Ranbarthol pdf icon PDF 517 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Pobl wedi cymeradwyo Opsiwn 2.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, na dderbynnir y rhwymedigaethau ariannol a goblygiadau’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol newydd a’i fodel cyllid tapr.