Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cydymdeimlad Cofnodion: Mynegwyd cydymdeimlad gyda:
Ø Teulu y diweddar Paul Hopkins, cyn Gynghorydd a Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.
Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod hyn yn newyddion trist iawn am golled drist ei gydweithiwr, Paul. Dywedodd fod Paul yn sosialydd ymroddedig ac yn un o’r lladmeryddion gorau dros Dredegar a’r cymoedd ac y gwelir ei golled yn fawr.
|
|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Sharrem.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Eitem Rhif 7: Trefniadau Interim – Swydd Wag
- Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr - Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol - Richard Crook – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol - Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg - Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau - Bernadette Elias – Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid - Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol
Yn dilyn cyngor a dderbyniwyd, cytunwyd y byddai’r swyddogion a enwir uchod yn gadael y cyfarfod tra cynhelir yr eitem hon o fusnes.
|
|
Ystyried y Cynnig a atodir. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynnig uchod.
Dechreuodd Arweinydd y Gr?p Llafur drwy esbonio y cyflwynwyd y cynnig i ofyn i’r Cyngor gywiro anghyfiawnder cydraddoldeb a ddioddefodd gweithwyr a gollodd mas ar Gynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Cymru ac i gydnabod a rhoi iawn am waith caled ac ymroddiad gweithwyr o Datblygu Gweithlu, Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg sydd i gyd yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol.
Mae’r gweithwyr diwyd ac ymroddedig hyn ymysg y rhai sydd ar y cyflog isaf, a buont yn gweithio o ddechrau a thrwy gydol y pandemig. Pan gafodd Cynllun Cydnabyddiaeth Ariannol Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi gyntaf, nodwyd y cafodd y cohort hwn o weithwyr eu cynnwys i dderbyn y taliad ond y cafodd ei ddiwygio’n ddilynol i gynnwys y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig. Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy fynegi ei bryder fod hyn yn anghyfiawnder. Roedd y gweithwyr hyn yn aml iawn wedi gweithio ochr yn ochr gyda’u cydweithwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gofynnodd i’r Cyngor ystyried y cynnig a rhoi cydnabyddiaeth ariannol i’r gweithwyr hyn.
Dywedodd yr Aelod Gweithrediaeth Addysg fod ganddi lawer iawn o gydymdeimlad gyda’r staff hyn a gafodd eu dal yn y sefyllfa hon a theimlai ei bod yn anffodus fod Llywodraeth Cymru wedi newid paramedrau cymhwyster fel y gwnaeth. Mynegodd ei phryder fod gan y cynnig a gyflwynwyd y potensial i greu anghysonderau ar gyfer y gweithlu ar draws y Cyngor a’i fod yn debyg o hollti barn. O fewn ei phortffolio ei hun, er enghraifft, roedd cydweithwyr addysg wedi gweithio’n ddiflino i naill ai ddarparu’n uniongyrchol neu gefnogi gwasanaethau rheng flaen hanfodol drwy gydol y pandemig ac yn parhau i wneud hynny. Roedd hefyd yn cydnabod y cafodd y gwaith caled ac ymroddiad hwn ei ddangos mewn llawer o feysydd gwasanaeth eraill o’r sefydliad ac roedd yn bryderus y gallai gael effaith niweidiol ar staff yn y meysydd hynny pe byddai’r cynnig yn cael ei gario.
Ychwanegodd yr Aelod Gweithrediaeth ei bod yn sefyllfa anffodus a gafodd ei chreu gan Lywodraeth Cymru ac nad oedd yn sicr os oedd yn briodol i’r Cyngor ymyrryd ac er fod ganddi gydymdeimlad gwirioneddol gyda’r staff cysylltiedig, yn anffodus am y rhesymau a amlinellodd ni fedrai gefnogi’r cynnig.
Dywedodd Aelod Gweithrediaeth yr Amgylchedd fod ei sylwadau hyn ar drywydd tebyg i’r Aelod Gweithrediaeth Addysg. Er fod ganddi lawer iawn o gydymdeimlad gyda’r sefyllfa y cafodd y staff hyn eu rhoi ynddi, o’i safbwynt hi byddai’r effaith a’r neges y gallai hyn ei anfon i staff rheng flaen eraill a fu’n gweithio drwy gydol y pandemig o’r diwrnod cyntaf e.e. yn ei phortffolio hi, roedd casglwyr sbwriel wedi parhau i ddarparu’r gwasanaeth yn ddi-dor, bu iechyd yr amgylchedd ar y rheng flaen a hefyd felly ddatrysiadau tai, i enwi ond rhai. Am yr un rhesymau, roedd hefyd yn ei chael yn anodd i gefnogi’r cynnig.
Dywedodd Aelod ei fod yn deall sylwadau’r Aelodau Gweithrediaeth a chydnabu fod cydweithwyr eraill ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Cyllideb Refeniw 2022/2023 PDF 840 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dechreuodd y Cadeirydd drwy awgrymu, gan fod yr adroddiad wedi ei drafod yn flaenorol gan y Cydbwyllgor Craffu a hefyd y Pwyllgor Gweithrediaeth a bod Aelodau yn gyfarwydd gyda’i gynnwys, y dylid canolbwyntio sylw ar yr opsiynau a argymhellir, yn neilltuol paragraffau 3.1.7 a 3.1.8 ac wrth wneud hynny ni fyddai angen i’r Prif Swyddog Adnoddau felly roi crynodeb o’r adroddiad. Yn unol â’r traddodiad, gwahoddir Arweinydd y Cyngor i siarad gydag Arweinwyr y Gr?p Llafur a’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol i ddilyn.
Awgrymodd Arweinydd y Gr?p Llafur yn gryf y dylid ei drafod oherwydd mai hwn oedd adroddiad y gyllideb.
Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod peth haeddiant yn awgrym y Cadeirydd ac nad oedd mewn unrhyw ffordd i ddileu unrhyw drafodaeth neu ddadl am y gyllideb oherwydd y caiff y materion allweddol eu crisialu o fewn yr 8 argymhelliad.
Mynegodd ei werthfawrogiad i’r holl swyddogion am eu hymdrechion i ddarparu rheolaeth gyllidebol gadarnhaol drwy gydol y flwyddyn ond yn diolchodd yn arbennig i Rhian Hayden, Gina Taylor a’u timau am eu gwaith a werthfawrogir yn fawr i sicrhau cynnal y lefelau uchel o reolaeth ariannol y daeth y Cyngor i’w ddisgwyl.
Aeth yr Arweinydd ymlaen drwy ddweud fod y materion allweddol yn ymwneud â 7 opsiwn argymhelliad a gynhwysir ym mharagraff 3 yr adroddiad a dywedodd bod y cyllid allanol cronnus gadarnhaol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yr oedd y Cyngor yn ddiolchgar tu hwnt amdano a chanlyniadau Strategaeth Pontio’r Bwlch yn golygu nad oedd yn rhaid i’r Cyngor ystyried neu drafod unrhyw doriadau i wasanaethau. Felly, ar yr amser priodol byddai’n cymeradwyo opsiynau 3.1.1 – 3.1.6 fel y’u cyflwynwyd. Roedd yn dda nodi ym mharagraff 3.1.6 bod y Cyngor mewn sefyllfa i roi cynnydd o £3.91m yn y gyllideb ysgolion, oedd yn gyfwerth â chynnydd o 8.4% ac roedd yn sicr y byddai penaethiaid ysgol, staff a chyrff llywodraethu ysgolion ar draws Blaenau Gwent yn croesawu hyn.
Cyfeiriodd yr Arweinydd at baragraff 3.1.7 a dywedodd gan roi ystyriaeth i’r hyn a gyflawnwyd Pontio’r Bwlch a nodir yn nhabl 5 – fod paragraffau 5.1.30 yn dangos fod gwarged cyllideb o £2.44m. Cynigiodd y dylai cyfran o’r cyllid hwn gael ei ddefnyddio i gefnogi cynnydd tâl yn ychwanegol at y 2% sydd yn y gyllideb yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol gyda £950,000 yn cael ei drosglwyddo i gyllideb wrth gefn i helpu cefnogi cynnydd ar gyfer 2022/23 uwchben y dybiaeth o 2%. Roedd hyn yn reolaeth ariannol ddarbodus ac os oes unrhyw beth dros ben, gellid ei drosglwyddo yn ôl i’r gronfa wrth gefn.
Mae paragraff 3.1.7 yn argymell y dylid trosglwyddo gweddill y £2.44m yn dilyn y £950,000 i’r gyllideb wrth gefn h.y. £1.5m i’r gronfa wrth gefn cydnerthedd ariannol. Gwyddai Aelodau fod yr weinyddiaeth dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gweithio’n galed i fynd i’r afael â chronfeydd ariannol wrth gefn y Cyngor, a gydnabyddid oedd yn wael, a theimlai y gwnaed hyn gyda chryn lwyddiant ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Eitem Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig, gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad aam yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol). |
|
Trefniadau Interim – Swydd Wag Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Datganodd Michelle Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr; Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, Richard Crook, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Damien McCann, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol; Rhian Hayden, Prif Swyddog Adnoddau; Bernadette Elias, Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid ac Andrea Jones, Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fuddiant yn y cyfarfod tra ystyriwyd fod yr eitem hon o fusnes.
Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 14 a 15, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Yn dilyn trafodaeth pan eglurodd bwyntiau pan eglurodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion busnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw ymgynghoriadau neu drafodaethau, neu ymgynghoriadau neu drafodaethau sydd dan ystyriaeth, mewn cysylltiad ag unrhyw faterion cysylltiadau llafur sy’n codi rhwng yr Awdurdod a gweithwyr cyflogedig neu ddeiliaid swyddi dan yr Awdurdod a chytuno ar yr opsiynau dilynol.
Opsiwn 1 – Ailddynodi swydd y Rheolwr Gyfarwyddwr
Ailddynodi swydd y Rheolwr Gyfarwyddwr i fod yn Brif Weithredwr i gydymffurfio gyda gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Opsiwn 1 – Trefniant Interim Swydd Rheolwr Gyfarwyddwr – Trefniant Manwl · Gofyn am ddatganiadau diddordeb gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Adnoddau a Masnachol sy’n ffurfio rhan o Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Cyngor. Mae’r swyddogion hyn yn brofiadol ar lefel uwch arweinydd ym Mlaenau Gwent ac mae ganddynt brofiad o ddirprwyo/llanw dros feysydd gwaith/cynrychiolaeth ar gyfer y Rheolwr Gyfarwyddwr gyfredol.
· Cyfweliad ffurfiol gyda Phwyllgor Apwyntiadau’r Cyngor (Mawrth 2022) i benodi ar sail interim.
· Penodi ar y cyflog presennol ar gyfer swydd y Rheolwr Gyfarwyddwr.
Byddai’r opsiwn hwn yn cefnogi cyfnod byr o bontio/trosglwyddo gyda deiliad presennol y swydd a byddai’r ymgeisydd posibl eisoes wedi sefydlu cysylltiadau o fewn y sefydliad. Opsiwn 1 – Swyddog Canlyniadau/Swyddog Cofrestru Etholiadol, Etholiadau Llywodraeth Leol Mai 2022 · Y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol sydd â phrofiad blaenorol i weithredu fel Swyddog Canlyniadau/Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai. Y Prif Swyddog Adnoddau i barhau yn rôl y Dirprwy Swyddog Etholiadau/Swyddog Cofrestru Etholiadol.
|