Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Llun, 2ail Mawrth, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorwyr G. Collier, J. Collins, M. Cross, W. Hodgins, G. Paulsen, K. Pritchard, G. Thomas, D. Wilkshire, y Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Eitem Rhif 5 – Cofrestr Ffioedd a Thaliadau 2020/221:

 

Cyfeiriodd Aelod at y Ffioedd a Thaliadau Trwyddedu a gynhwyswyd o fewn Cofrestr Ffioedd a Thaliadau 2020/2021 a chydnabu mai dim ond yng nghyswllt y taliadau neilltuol hyn y gallai’r Cyngor wneud argymhelliad i’r Pwyllgor Trwyddedu. Fodd bynnag, mynegodd ei phryder pe byddai unrhyw Aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu yn dymuno trafod neu ofyn cwestiynau’n ymwneud â’r taliadau hyn (cyn cynnal y Pwyllgor Trwyddedu) y byddai hyn yn arwain at rag-benderfyniad. Daeth yr Aelod i ben drwy ddweud y dylai’r ffioedd a thaliadau hyn fod wedi eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu cyn eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol mai mater i’r Pwyllgor Trwyddedu oedd penderfynu ar y ffioedd a thaliadau neilltuol hyn. Fodd bynnag, cadarnhaodd y swyddog y byddai’n briodol i Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu drafod a gofyn cwestiynau perthnasol am y taliadau hyn (cyhyd nad oedd unrhyw Aelod yn datgan barn neilltuol) gan na fyddai hyn yn cael ei ystyried fel rhag-benderfyniad. Gallai unrhyw sylwadau a wnaed wedyn gael eu hadrodd i’r Pwyllgor Trwyddedu i’w hystyried wrth benderfynu ar y ffioedd a thaliadau.

 

Ychwanegodd yr Aelod y byddai’r cwestiynau y dymunai eu gofyn am ffioedd a thaliadau Trwyddedu yn arwain at rag-benderfyniad a theimlai na ddylai Aelodau gael eu rhoi mewn sefyllfa lle'r oedd yn rhaid iddynt sensora’r cwestiynau y dymunent eu gofyn rhag ofn rhag-benderfyniad. Daeth i ben drwy ddweud y dylai ffioedd a thaliadau trwyddedu yn y dyfodol gael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu cyn iddynt gael eu cyflwyno i’r Cyngor i’w ystyried fel rhan o’r Gofrestr Ffioedd a Thaliadau.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol mai’r sefyllfa ddelfrydol fyddai i’r ffioedd a thaliadau fod wedi eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu yn y lle cyntaf, fodd bynnag ni fu hyn yn bosibl oherwydd y rhaglen cyfarfodydd. Ategodd y swyddog hyn a daeth i ben drwy ddweud fod Aelodau’r Pwyllgor Trwyddedu yn cael gofyn cwestiynau diduedd yng nghyswllt y ffioedd a thaliadau Trwyddedu ond mai cylch gorchwyl y Pwyllgor Trwyddedu ac nid y Cyngor yw gwneud y penderfyniad h.y. dim ond argymhelliad i’r Pwyllgor Trwyddedu y byddai’r Cyngor yn medru ei wneud.

 

Dywedodd yr Aelod y byddai’n codi ei chwestiynau yn y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Ar hynny, adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:

 

Eitem Rhif 5 –  Cofrestr Ffioedd a Thaliadau Corfforaethol 2020/2021 –

 

Ffioedd a Thaliadau Gwastraff Masnach Masnachol a Marchnadoedd

 

Cynghorydd P. Edwards

 

4.

Cyllideb Refeniw 2020/2021 pdf icon PDF 735 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n cyflwyno’r Gyllideb Refeniw a chynigion y Dreth Gyngor ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf 2020/2021 yn cynnwys y praeseptau a gymeradwywyd gan awdurdodau statudol eraill a fyddai’n effeithio ar lefel leol y Dreth Gyngor ac yn cynnwys y penderfyniadau statudol perthnasol.

 

Nodwyd fod cyfarfod y Cyngor ar 6 Chwefror 2020 wedi ystyried y Setliad Refeniw darpariaethol ac ers hynny derbyniwyd manylion y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru. Hysbysodd y Prif Swyddog Adnoddau y Cyngor na fu unrhyw newidiadau sylweddol i’r manylion rhwng y setliad darpariaethol a’r setliad terfynol y dymunai dynnu sylw Aelodau yn benodol atynt gan fod y Grant Setliad Refeniw yn parhau ar £116m. Bu un cynnydd bach yn lefel y cyllid ar gyfer grantiau refeniw penodol; fodd bynnag dim ond ar sail Cymru gyfan mae’r wybodaeth hon ar gael hyd yma ac mae effaith hyn ar Flaenau Gwent yn benodol yn dal yn anhysbys.

 

Opsiynau ar gyfer Argymhelliad

 

Aeth y Prif Swyddog Adnoddau ymlaen drwy amlinellu’r opsiynau ar gyfer argymhelliad a gynhwysir yn Adran 3 yr adroddiad a dywedodd:

 

ØBod y Cyngor yn ei gyfarfod ar 6 Chwefror 2020 wedi cytuno ar gynnydd Treth Gyngor o 3.9% ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

ØBod y term ‘eitemau arbennig’ yn cyfeirio at y praeseptau ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned ac mai cyfanswm gwerth y praeseptau hyn oedd £506,143.

 

ØBod manylion y Dreth Gyngor lawn yn cynnwys Praeseptau’r Heddlu a Chymunedau ar gyfer pob rhan o Flaenau Gwent ar gael yn y tabl terfynol yn Adran 3 yr adroddiad.

 

Goblygiadau pob Opsiwn

 

Cafodd y goblygiadau ariannol ar gyfer proses gosod cyllideb 2020/21 eu crynhoi islaw:

 

ØCynnydd o 3.9% yn y Dreth Gyngor (elfen Blaenau Gwent). Roedd hyn yn ostyngiad o 1% o gymharu â’r flwyddyn ariannol bresennol.

 

ØGofyniad cyllideb ar gyfer y Cyngor o £151,732 miliwn (yn cynnwys Cynghorau Cymuned).

 

ØCafodd mesurau effeithlonrwydd Pontio’r Bwlch eu cynnwys yn y gyllideb refeniw o £1,465 miliwn.

 

ØCafodd pwysau cost yn gyfanswm o £1.16 miliwn ac eitemau twf yn gyfanswm o £0.89 miliwn eu cynnwys yn y gyllideb refeniw.

 

Gofyniad Cyllideb

 

ØMae Tabl 1 yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r amcangyfrifon portffolio dilynol gan roi ystyriaeth i gynigion Pontio’r Bwlch, pwysau cost ac eitemau twf. Yn ychwanegol, caiff £1.7m ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Mae hyn wedi arwain at ofyniad cyllideb statudol o £151,732,365. Mae angen ychwanegu rhyddhad ardrethi ar ddisgresiwn o £208,000 i ofyniad y gyllideb i roi’r cyfanswm gyllideb refeniw net ar gyfer 2020/2021 o £151,940.365.

 

Cronfeydd wrth Gefn

 

ØMae’r Cyngor wedi cytuno ar lefel targed ar gyfer cronfeydd cyffredinol wrth gefn, sef 4% o’r gwariant refeniw net gwirioneddol diwethaf a adroddwyd.

 

ØA thybio bod rhagolwg chwarter 3 2019/2020 yn parhau tan ddiwedd y flwyddyn, byddai’r lefel a ragwelir o gronfeydd cyffredinol wrth gefn yn £6.079 miliwn (4.5%). Mae’r lefel hon o  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cofrestr Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2020/2021 pdf icon PDF 595 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd P. Edwards fuddiant yn yr eitem hon (yn benodol ffioedd a thaliadau gwastraff masnach a marchnadoedd) gan ei fod yn Gadeirydd Fforwm Busnes Glynebwy ond arhosodd yn y cyfarfod tra cafodd yr eitem ei hystyried.

 

Ystyriodd aelodau adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gyflwynwyd i Aelodau i gymeradwyo’r ffioedd a thaliadau i gael eu gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021, yn cynnwys y ffioedd craidd a’r taliadau a gaiff eu gweithredu gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Nodwyd fod rhaglen Pontio’r Bwlch wedi cynnwys Adolygiad Busnes Strategol ar Ffioedd a Thaliadau i sicrhau fod y Cyngor yn cynyddu ei incwm i’r eithaf drwy sicrhau y caiff y ffioedd a’r taliadau eu gosod ar lefel sy’n cynnwys costau darparu’r nwyddau a gwasanaethau y mae’n eu darparu lle’n briodol.

 

Mae ffioedd a thaliadau’n cynhyrchu tua £14m y flwyddyn mewn incwm ac yn cyfrannu tuag at ariannu cost darparu gwasanaethau Cyngor, gyda £2m yn cyfeirio at wasanaethau masnachol. Mae hyn wedi helpu cydnerthedd ariannol y Cyngor a chaiff y Gofrestr Ffioedd a Thaliadau ei hadolygu yn rheolaidd yn unol â’r polisi incwm a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a gytunwyd gan y Cyngor.

 

Diwygiad

 

Gwnaed y diwygiad dilynol i’r Ffioedd a Thaliadau yn cyfeirio at Brydau Ysgol a roddir ar dudalen 43 yr adroddiad. Cafodd y taliadau eu gostwng a dylent ddarllen fel sy’n dilyn:

 

Addysg – Prydau Ysgol – Oedolion fesul Pryd Bwyd. Ffi gweithredol o fis Medi

 

Staff - £3.43           

Myfyrwyr - £3.43

 

Addysg – Prydau Ysgol - Plant

Plant Oedran Uwchradd (Blynyddoedd 7 i 11) a Phlant Oedran Cynradd (Meithrin i Flwyddyn 6). Ffi gweithredol o fis Medi. Ffi fesul pryd bwyd.

 

Uwchradd - £2.60        

Cynradd – £2.34

 

 

 

Taliadau Gwastraff Masnach

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod angen gwneud mwy o waith ar ffurf adolygiad busnes yng nghyswllt taliadau am wastraff masnach yn yr ychydig wythnosau nesaf. Unwaith y cwblhawyd y gwaith hwn, byddid yn cyflwyno adroddiad i’r Cyngor ei ystyried yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

Hysbyswyd Aelodau y cafodd y ffioedd a thaliadau cyfredol eu hadolygu i:

 

ØSicrhau fod yr holl ffioedd a thaliadau a gynhwyswyd ar y gofrestr yn berthnasol ar gyfer 2020/2021.

ØAdlewyrchu newidiadau mewn polisi a thaliadau lleol a chenedlaethol.

ØAdlewyrchu isafswm cynnydd ymgodiad o 2% yn unol â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

ØYstyried os gellid cynyddu ffioedd a thaliadau yn unol ag egwyddorion yr Adolygiad Busnes Strategol, a bod hyn yn cynnwys ystyried ymgodiad blynyddol o 5.5% lle’n berthnasol.

 

Effaith ar y Gyllideb

 

ØMae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chyllideb 2020/2021 yn tybio ymgodiad chwyddiant o 2% y flwyddyn ar gyfer ffioedd a thaliadau ac mae’r Adolygiad Busnes Strategol yn tybio y cyflawnir amcangyfrif o £200,000 ar gyfer 2020/2021 ac amgyfrifir y cyflawni £95,000 o hynny drwy gynyddu ffioedd ar ddisgresiwn gan 5.5% lle mae cwmpas o fewn y farchnad heb gael effaith sylweddol ar y galw.

 

ØMae’r gofrestr ffioedd a thaliadau yn cynnig ymgodiad o 2.%, 5.5%  ...  view the full Cofnodion text for item 5.