Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Mawrth, 24ain Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

          Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Davies, L. Parsons a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

nd t

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefbau.

 

4.

Cydymdeimlad

Cofnodion:

Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu Sally Ann-Evans, oedd yn gydweithiwr uchel iawn ei pharch ac yn Gyfreithiwr y Cyngor. Bu Sally-Ann farw yn sydyn ar 6 Hydref 2023.

 

Talwyd teyrngedau i Sally-Ann a dangosodd Aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.

 

5.

Hunanasesiad 2022/2023 Cyngor Blaenau Gwent pdf icon PDF 172 KB

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd aelodau adroddiad y Prif Weithredwr Interim.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Hunan-asesiad 2022/23 y Cyngor i gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor a’i rannu gyda phartneriaid allweddol fel yr amlinellir ym mharagraff 2.42 y canllawiau statudol h.y.:

                                    

Paragraff 2.42 – Rhaid cyhoeddi’r adroddiad hunanasesiad o fewn pedair wythnos ar ôl iddo gael ei gwblhau yn unol â phrosesau cytunedig y Cyngor, a dylai copi fod ar gael i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio corfforaethol y Cyngor. Dylid hefyd anfon yr adroddiad at:

 

  • Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • Prif Arolygydd Addysg a Hyfforddiant ei Fawrhydi yng Nghymru
  • Gweinidogion Cymru

 

6.

Trefn Eitemau ar yr Agenda

Cofnodion:

Cytunwyd y caiff yr eitem ddilynol ei hystyried ar y pwynt hwn yn y gyfarfod:

 

Eitem Rhif 7 – Trefniadau Craffu Priodol Cydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru

 

7.

Trefniadau Craffu Priodol Cydbwyllgor Corfforaethol De Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 153 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Nodwyd y caiff adroddiad yn rhoi manylion gwaith Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Cydbwyllgor Corfforaethol (CJC) ei gyflwyno  i’r Cyngor maes o law. Caiff diweddariad hefyd ei roi i Aelodau ar ffurf Briffiad i Aelodau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef bod:

 

(1)   Y JOSC yn cael ei benodi yn Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer y CJC.

 

(2)  Cymeradwyo’r drafft Gylch Gorchwyl ar gyfer ei swyddogaethau yng nghyswllt y CJC, fel y’i cyflwynir yn Atodiad 1.

 

(3)  Nodi cost gweinyddu’r JOSC ar gyfer y CJC ac y caiff ei drin drwy gytundeb lefel gwasanaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Taf a’r CJC, i’w gwblhau maes o law.

 

8.

Adroddiad Budd Cyhoededus – Canfyddiadau Adolygiad Sicrwydd pdf icon PDF 171 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau. 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi canfyddiadau’r Adolygiad Sicrwydd a’r argymhellion a amlinellir isod:

 

·       Dynodi Swyddog Cyswllt o fewn y Cyngor i sefydlu cyfarfod cydlynu rheolaidd gydag Archifdy Gwent ac Amlosgfa Gwent erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

 

·       Trefnu Briffiad Aelodau ar y gweithrediadau a’r gwasanaethau a ddarperir gan Archifdy Gwent ac Amlosgfa Gwent erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

 

·       Cynnwys yr holl ddogfennau strategol, cynllun busnes blynyddol a chyfrifon Archifdy Gwent ac Amlosgfa Gwent yn y Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Craffu Partneriaethau ar gyfer 2024-25, a’r Cyngor lle’n berthnasol, o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

 

·       Datblygu’r Cylch Gorchwyl yn ‘becyn cymorth llywodraethiant’ i’w ddefnyddio gan swyddogion ar draws y Cyngor i roi sicrwydd ar gwmnïau presennol a pe byddai unrhyw rai newydd yn cael eu sefydlu erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

 

9.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch – 1 Ebrill 2022 – 31 Mawrth 2023 pdf icon PDF 150 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datbygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

Mynegwyd gwerthfawrogiad i’r Tîm Iechyd a Diogelwch am eu gwaith sylweddol yn ystod y flwyddyn ac am y gwaith a wnaed i sicrhau fod disgyblion a staff wedi medru dychwelyd i ysgolion yn ddiogel yn ystod cyfnod Covid.

 

PENDERFRYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo adroddiad manwl yr Adolygiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch ynghyd â’r camau gweithredu a argymhellir i liniaru meysydd consyrn a risg.