Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Llun, 6ed Mawrth, 2023 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

Cynghorwyr  K. Chaplin, J. Morgan, J.P., G. Thomas, D. Wilkshire and L. Winnett.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

    

Eitem Rhif 4: Cyllideb Refeniw 2023/2024

 

-        Cynghorwyr J. Gardner, W. Hodgins, E. Jones, D. Rowberry, J. Thomas a H. Trollope.

 

Arhosodd yr Aelodau a enwir uchod yn y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitem hon o fusnes.

 

4.

Cyllideb Refeniw 2023/2024 pdf icon PDF 718 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr  J. Gardner, W. Hodgins, E. Jones, D. Rowberry, J. Thomas a H. Trollope fuddiant yn yr eitem ond ond fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at baragraff 2.2 yr adroddiad a dywedodd fod y setliad terfynol yn awr yn cynnwys trosglwyddiad o gyllid i’r setliad llywodraeth leol, yn ymwneud â Phensiynau Awdurdod Tân ac Achub. Roedd gwerth y grant hwn yn gyfanswm o £5.8m yn genedlaethol ar draws Cymru ac roedd wedi cynyddu setliad terfynol Blaenau Gwent i £139,730,490. Dywedwyd fod y Cyngor wedi cytuno’n flaenorol i basportio’r cynnydd o £130,000 i’r Awdurdod Tân ac Achub, felly roedd gofyniad cyllideb y Cyngor yn awr wedi cynyddu o £178,034,276 i £178,164,692.

 

Fel canlyniad, byddai angen newidiadau i rai o’r ffigurau yn yr adroddiad, fodd bynnag tanlinellwyd na fyddai’r diwygiad hwn yn newid sefyllfa y Cyngor yng nghyswllt defnydd cronfeydd wrth gefn na’r cynnydd yn lefel y dreth gyngor.

 

Felly, i adlewyrchu’r cynnydd yn y setliad terfynol, byddid yn newid y symiau canlynol a gynhwysir o fewn yr adroddiad fel sy’n dilyn:

 

Paragraff 3.1.2 – caiff y ffigur hwn ei newid i £178,164,692.

Paragraff 5.1.7 (a) – byddai’r ffigur hwn yn awr yn £178,164,692.

Paragraff 5.1.7 (c) – byddai’r ffigur hwn yn awr yn £139,730,490.

Paragraff 5.1.13 – caiff y ffigur yn y frawddeg gyntaf ei newid i £178,164,692.  

Paragraff 5.1.14 – caiff ffigur y Grant Cymorth Refeniw yn awr ei newid i  £117,692,418, gan godi cyfanswm net y gyllideb refeniw  £182,432,694.

 

Wedyn,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

-        Cymeradwyo’r Datrysiad Treth Gyngor a fanylir isod.

 

-        Cymeradwyo’r gofyniad cyllideb statudol o £178,164,692 a fanylir isod.

 

-        Defnyddio’r cronfeydd penodol a ddynodwyd yn gyfanswm o £4.26m (paragraff 5.1.16 yr adroddiad).

 

5.1.2 Yn ei gyfarfod ar 23 Chwefror 2023, cytunodd y Cyngor ar gynnydd o 3.45% yn y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/2024. Fel canlyniad, elfen Cyngor Blaenau Gwent o’r tâl treth gyngor llawn fyddai:-

 

Bandiau Prisiant (£)

A

B

C

D

E

F

G

H

I

1,219.57

1,422.84

1,626.10

1,829.36

2,235.88

2,642.41

3,048.93

3,658.72

4,268.51

 

5.1.3 Yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd y Cyngor y byddai sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer dibenion gosod treth yn 20,8706.70 ar gyfer 2023/24, sef cyfanswm nifer yr anheddau y codir tâl arnynt ym mhob ardal wedi’i addasu ar gyfer nifer o eitemau e.e. gostyngiadau taladwy, wedi’i luosi gan y gyfradd casglu dybiedig o 95%.

 

5.1.4 Yn ychwanegol, yn unol â Rheoliad 6 Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrif Sylfaen y Dreth Gyngor) 1992, swm sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer anheddau yn y rhannau hynny o’i ardal y mae un neu fwy o eitemau arbennig yn ymwneud â nhw oedd:

 

 

 

4,617.75

Abertyleri a Llanhiledd

1,692.74

Brynmawr

2,698.63

Nantyglo a Blaenau

4,737.20

Tredegar

 

5.1.5  Mae’r uchod yn cynrycholi nifer yr anheddau y codir tâl amdanynt y byddai  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2023/2024 pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

+

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau

 

Nodwyd, er y cynigir cynnydd chwyddiant o 8% mewn rhai ffioedd a chostau fel canlyniad i’r costau cynyddol y mae’r Cyngor yn eu profi, cynigiodd Arweinydd y Cyngor gymeradwyo’r diwygiadau dilynol i’r ffioedd a’r costau a restrir isod:

 

Gwasanaethau Cymdeithasol:

 

-        Gwasanaethau Amhreswyl – Gofal Cartref – cynnydd 4%.

-        Gwasanaethau Amhreswyl – Gofal Dydd – cynnydd  4%.

-        Gwasanaethau Amhreswyl – Taliadau Uniongyrchol – cynnydd 4%.

-        Gwasanaethau Amhreswyl – Tâl Llety Rhan III (darpariaeth ei hun) – cynnydd 4%.

-        Gwasanaethau Amhreswyl – T? Augusta (darpariaeth ei hun) – cynnydd 2%

-        Canolfan Dydd Bert Denning – Ffi Gwaelodlin Sylfaenol – cynnydd 4%

-        Pwll Hydrotherapi Bert Denning – Ffi ar gyfer OLA a chwsmeriaid preifat ar ddyddiau’r wythnos – cynnydd 4%

-        Pwll Hydrotherapi Bert Denning – Ffi defnydd penwythnos – cynnydd 4%

-        Gofal Plant Dechrau’n Deg – Ffioedd gofal plant ar gyfer plant heb fod yn rhan o Dechrau’n Deg – cynnydd 4%

 

Cyfathrebu – Ffioedd Larwm Cymunedol a Gwasanaeth Teleofal C2BG:

 

-        Ffioedd monitro – Lifeline analog gyda phendant – misol – cynnydd 5%

-        Ffioedd monitro – Lifeline digidol gyda cherdyn Sim a phendant – misol – cynnydd 5%

-        Ffioedd monitro – Lifeline analog gyda phendant a 5 synhwyrydd ychwanegol – misol – cynnydd 5%

-        Ffioedd monitro – Lifeline digidol gyda phendant gyda 5 synhwyrydd ychwanegol - misol – cynnydd 5%

-        Pecyn Diogelwch - (analog) argymhellwyd gan Weithiwr Cymdeithasol – misol – cynnydd 5%.

-        Pecyn Diogelwch – (digidol) argymhellwyd gan Weithiwr Cymdeithasol – misol – cynnydd 5%

-        Ffioedd gosod dechreuol – cynnydd 5%.

-        Gosod pellach ar synwyryddion ychwanegol – cynnydd 5%.

-        Gosod offer heb ei fonitro – cynnydd 5%.

-        Pendant newydd – cynnydd 5%.

 

Prydau Cymunedol:

 

-        Pryd ar Glyd – Pryd a Phwdin – cynnydd 2%.

 

Gwasanaethau Cymunedol - Gwastraff:

 

-        Casgliad Gwastraff Swmpus – cynnydd 4%.

 

Gwasanaethau Cymunedol - Mynwentydd:

 

-        Claddedigaeth – Bedd newydd – Dyfnder dwbl – cynnydd 2%.

-        Claddedigaeth – Ailagor bedd – cynnydd 2%.

-        Claddedigaeth – Hawl claddu ecsliwsif  (EROB) – cynnydd 2%.

-        Olion wedi’u hamlosgi – Bedd newydd (isafswm dyfnder) Llwch – cynnydd 2%

-        Olion wedi’u hamlosgi – Ail-agor bedd Llwch – cynnydd 2%

-        Olion wedi’u hamlosgi – Gwasgaru llwch – cynnydd 2%

-        Olion wedi’u hamlosgi – EROB – cynnydd 2%

-        Lleiniau gardd orffwys – Olion wedi’u hamlosgi (bedd newydd) Llwch – cynnydd 2%

-        Lleiniau gardd orffwys – Olion wedi’u hamlosgi (ail-agor) Llwch- cynnydd 2%

-        Lleiniau gardd orffwys – EROB – cynnydd 2%

-        Cofebau – Codi cofeb – cynnydd 2%

-        Cofebau – Arysgrifiad ychwanegol, cofeb newydd – cynnydd 2%

-        Cofeb – Cofeb baban marw-anedig (EROB)

-        Cofeb – Adnewyddu, glân ac ailangori cofeb – cynnydd 2%

-        Cofeb – Plac bach – cynnydd 2%

-        Cofeb – Cais ychwanegol am amgylchyn/cofeb – cynnydd 2%

 

Tiroedd – Tiroedd a Chaeau Chwarae - Gemau:

 

-        Hyfforddiant tiroedd a  ...  view the full Cofnodion text for item 5.