Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams - if you would like to attend this meeting live please contact committee.services@blaenau-gwent.gov.uk
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan: Cynghorwyr C. Bainton a S. Edmunds.
|
|
Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol Cofnodion: Llongyfarchiadau Estynnwyd llongyfarchiadau i:
- Megan Cottrell o Lanhiledd a ddewiswyd yn gyd-capten Tîm Pêl-rwyd Dan 17 Cymru a fyddai’n cystadlu ym Mhencampwriaeth Pêl-rwyd Ewrop.
Anfonwyd llythyr at Megan yn ei llongyfarch.
Cydymdeimlad
Estynnwyd cydymdeimlad gyda theuluoedd:
Ø Ian Johnston, cyn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, ar ei farwolaeth drist.
Ø Clare Drakeford, gwraig Mark Drakeford Prif Weinidog Cymru, ar ei marwolaeth drist.
Ø Y miloedd o ddioddefwyr y daeargryn a gollodd eu bywydau yn Nhwrci a Syria.
Dangosodd Aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau a buddiant a wnaed.
Cofnodion: |
|
Cyllideb Refeniw 2023/2024 PDF 843 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dilynol:
Atodiad 2 – Pwysau Cost
Ø Gwasanaethau Corfforaethol: Ymgysylltu a Chyfranogiad, Cydraddoldeb a’r Gymraeg – Gofyniad staffio ychwanegol yn gyfanswm o £81,110 – dileu y pwysau cost hwn, gan roi ystyriaeth i ddynodi cyllid o fan arall o fewn y gyllideb.
Achos Busnes Pontio’r Bwlch
Cytuno ar y cynigion dilynol:
Ø RES01 – Strategaeth Twf - Tai - £150,000. Ø RES02 – Adolygu Ffioedd a Chostau ar gyfer gwasanaethau cynhyrchu incwm ar draws y Cyngor - £100,000. Ø RES03 – Gostyngiad yn y Gronfa Trawsnewid - £270,995. Ø RES04 – Dileu Cyllideb Rheoli Masnachol a Chontractau - £271,000. Ø RES05 – Dileu Cyllideb Costau Pensiwn Ychwanegol – Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin - £152,000.
Ø CS01 – Gwariant Trydydd Parti (Sefydlu Tîm Prynu Proffesiynol- £396,550. Ø CS04 – Adolygu Teleffoneg - £48,000. Ø CS05 – Adolygiad o’r System Rheoli a Chadw Dogfennau Electronig - £104,000. Ø CS09 – Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau – £50,000. Ø CS10 – Cynhyrchu Incwm Swyddfeydd Cyffredinol - £60,000. Ø CS11 – Grantiau Aelodau (Ardoll Arbennig) £8,910.
Ø SS – Atal ac Ymyriad Cynnar – Sefydlu Tîm MyST – Cynllun Buddsoddi i Arbed - £416,000. Ø SS01 – Gostyngiad yn y Gyllideb Ffioedd Cyfreithiol (Gwasanaethau Cymdeithasol Plant) - £175,000. Ø SS02 – Defnyddio Grant Plant a Chymunedau - £21,025. Ø SS06 – Adolygu Capasiti Rheolwr Darparwyr (Byw â Chymorth ac Augusta/Opsiynau Cymunedol) - £25,000. Ø SS07a – Gostyngiad mewn Opsiynau Cymunedol (canolfannau gwasanaethau dydd) - £143,170. Ø SS07b – Gostyngiad mewn Cludiant yn Opsiynau Cymunedol - £58,200.
Ø ENV12 – Cau’r Ddolen Fecanyddol - £41,000. Ø ENV18 – Incwm Adfywio – £30,000. Ø ENV23 – Dilieu Darpariaeth Bagiau Baw C?n - £14,596. Ø ENV24 – Symud i gasgliad bob bythefnos ar gyfer Gwastraff - £75,000. Ø ENV25 – Unedau Diwydiannol - £100,000.
Ø ED06 – Adolygu Contractau Cytundeb Lefel Gwasanaeth - £20,000.
Ø CC02 – Adolygu Adeiladau Gweithredol - £250,000.
Ø Gweithgaredd Masnachol a Buddsoddiad - £50,000.
Roedd y cynigion uchod yn gyfanswm o £3.03m.
Peidio cytuno ar y cynigion dilynol:
Ø ED07 – Adolygu Gwasanaeth Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol. Ø ED08 – Ffi Rheoli Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin – Adolygu Darpariaeth Gwasanaeth
Ø ENV – Symud i Gasgliad Sbwriel bob 4 wythnos. Ø ENV02 – Cau pob Ardal Chwarae Ø ENV03 – Gostwng Darpariaeth Glanhau Strydoedd. Ø ENV04 – Gostwng Darpariaeth Golau Strydoedd Ø ENV05 – Darpariaeth Toiledau Cyhoeddus – Dileu Cyllid. Ø ENV06 – Gwastraff – Cau/Cau Rhannol Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Ø ENV07 – Gwastraff – Gostwng Rowndiau Ailgylchu. Ø ENV08 – Dileu Patrolwyr Croesiad Ysgol Ø ENV09 – Dileu Arian Cyfatebol par Cymhorthdal i Wasanaethau Bws. Ø ENV11 – Peidio parhau â’r Gwasanaeth Trin Rheoli Pla Ø ENV14 – Dod â chefnogaeth i ben ar gyfer Gorymdeithau Cadoediad, Ø ENV15 – Gostwng Wardeiniaid Gwarchodaeth.
Ø SS04 – Cynhyrchu Incwm - Cwrt Mytton. Ø SS09 – Gosod Cap ar Becynnau Cost Uchel Gofal Cartref Cymunedol Ø SS10 – ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 238 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i: PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD
- Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Joanna Wilkins yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.
|