Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, H. Trollope, D. Wilkshire, Prif Swyddog Interim Masnachol a Chyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cyllideb Refeniw 2021/2022 PDF 722 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, dechreuodd y Prif Swyddog Adnoddau drwy ddweud mai dyma gam olaf proses gosod cyllideb 2021/2022 sydd, yn dod ynghyd â phenderfyniadau cyllideb y Cyngor a wnaed yn flaenorol ynghyd â’r praeseptiau fel yr hysbyswyd gan yr awdurdodau statudol. Yn ychwanegol mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ac yn gosod y gofyniad cyllideb ar gyfer 2021/2022, lefel gyffredinol y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/2022 sy’n cynnwys y praeseptiau statudol a’r penderfyniadau statudol perthnasol.
Nodwyd fod y Cyngor wedi cyfrif y symiau ar gyfer y flwyddyn (2021/2022) yn unol â rheoliadau a wnaed dan Adran 33(5) Deddf Llywodraeth Leol 1992 a manylion cynigion cyffredinol y Dreth Gyngor yn cynnwys y bandiau prisiant a roddir ym mharagraff 3.4(k) yr adroddiad.
Hysbyswyd aelodau am y cywiriad dilynol i’r adroddiad. Nodwyd y dylid newid y swm o £224,556,491 y cyfeirir ato ym mharagraff 3.4(a) i ddarllen £225.856.491.
Aeth y Prif Swyddog ymlaen drwy ddweud fod y praesept Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent ar gyfer 2021/2022 yn gyfanswm o £5,987,866 a bod praesept Cynghorau Tref/Cymuned ar gyfer yr un cyfnod yn gyfanswm o £456,101.
Mae Tabl 1, a roddir yn Atodiad 1, yn grynodeb o’r amcangyfrifon portffolio dilynol gan roi ystyriaeth i gynigion Pontio’r Bwlch, pwysau cost ac eitemau twf. Yn ychwanegol, caiff £1.254m ei drosglwyddo i gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Arweiniodd hyn at ofyniad cyllideb statudol o £157,379,330. Byddai hefyd angen ychwanegu cymorth ardrethi dewisol o £208,000 at ofyniad y gyllideb, i roi cyfanswm cyllideb refeniw net ar gyfer 2021/2022 o £157,587,330.
I gloi, adroddodd y Prif Swyddog Adnoddau ar y ddau bwynt dilynol yn unol â gofynion Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003:
i. Pa mor gadarn yw’r amcangyfrifon a gynhwysir yn y gyllideb. ii. Digonolrwydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod.
Medrodd y Prif Swyddog ddod i’r casgliad bod yr amcangyfrifon yn cydymffurfio gyda’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac yn addas o gadarn. Cafodd pwysau cost eu hystyried yn ystod proses gosod y gyllideb ac ar gyfer y tymor canol.
Yng nghyswllt digonolrwydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod, mae paragraffau 5.1.9 i 5.1.12 yr adroddiad yn dangos fod yr Awdurdod yn dymuno sicrhau sefyllfa gynaliadwy ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn y tymor canol. Byddai’r protocol cronfeydd wrth gefn yn parhau i adolygu cronfeydd wrth gefn er mwyn sicrhau y cedwir Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ar lefel gynaliadwy yn y tymor canol.
Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur nad oedd y Gr?p Llafur na’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol yn cefnogi’r cynnydd o 3.3% yn lefel y dreth gyngor neu yn wir unrhyw gynnydd arall uwchben cyfradd chwyddiant a gofynnodd am i hyn gael ei nodi.
Atebodd Arweinydd y Cyngor fod gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i gytuno i’r adroddiad ac y caiff yr opsiynau eu hamlinellu ym mharagraff 3. Mae nifer o’r argymhellion hyn ar gyfer dibenion nodi yn unig ac un argymhelliad yw i’r Cyngor gydnabod y praesept a osodwyd gan y Cynghorau Tref/Cymuned a ... view the full Cofnodion text for item 4. |