Agenda and minutes

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor - Dydd Iau, 4ydd Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, M. Holland a H. Trollope.

 

3.

Salwch

Cofnodion:

Dywedwyd i’r Cynghorydd Haydn Trollope gael llawdriniaeth yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr at y Cynghorydd Trollope yn dymuno adferiad buan iddo.

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad dilynol o fuddiant:

 

Eitem Rhif 5 –  Cofrestr Ffioedd a Thaliadau 2021/22

Marchnadoedd Stryd Awyr Agored – Ffioedd  Thaliadau:

                     

Cynghorydd P. Edwards

 

Pe byddai Bwrdd Silent Valley Waste Services yn cael ei drafod ar unrhyw adeg yn ystod y cyfarfod, byddai’r Cynghorwyr M. Cook a B. Summers fel y cynrychiolwyr a benodwyd gan y Cyngor ar y Bwrdd yn datgan buddiant ar yr adeg honno.

5.

Cyllideb Refeniw 2021/2022 pdf icon PDF 817 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gyflwynwyd i aelodau i:

 

·         Roi diweddariad ar y setliad llywodraeth leol cadarnhaol darpariaethol ar gyfer 2021/22 ac effaith hynny ar gyllideb y Cyngor.

 

·         Ystyried a chytuno ar y gyllideb fanwl ar gyfer 2021/2022.

 

·         Cytuno ar lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022.

 

Wedyn tynnwyd sylw manylach at y pwyntiau perthnasol dilynol:

 

Cwmpas a Chefndir:

 

·           Mae Adran 2 yr adroddiad yn rhoi trosolwg o strwythur yr adroddiad ac yn tynnu sylw at y gwahanol elfennau cyllid a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

·           Yn amodol ar gytuno ar yr argymhelliad o fewn yr adroddiad, bod y setliad darpariaethol cadarnhaol a gyfunwyd gyda’r cyfleoedd a ddynodwyd yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu y gallai’r Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a hybu ei gydnerthedd ariannol.

 

Sefyllfa Genedlaethol (Cymru gyfan)

 

·         Dywedodd  Prif Swyddog Adnoddau na fu unrhyw newid i setliadau llywodraeth leol yn dilyn Cyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth Cymru ar 2 Mawrth 2021 ac felly na fyddai’r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad yn newid. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau parhad cyllid cysylltiedig â COVID a neilltuwyd o £680m, gyda’r rhan fwyaf wedi ei glustnodi ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a llywodraeth leol. Mae’r wybodaeth a roddwyd yn dangos y cafodd £200m ei neilltuo ar gyfer costau cysylltiedig â COVID ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer y cyfnod Ebrill – Medi 2021. Felly, mae’r tybiaethau a wnaed am gyllid cysylltiedig â COVID yn dal i sefyll.

 

·         Y prif bennawd cyffredinol yn y Cyllid Allanol Cyfun a nodwyd gan Lywodraeth Cymru oedd 3.8%, ar ôl rhoi ystyriaeth i’r setliad. O gymharu gyda chyfartaledd Cymru, roedd y cynnydd o 3.7% ar gyfer Blaenau Gwent yn rhoi’r awdurdod yn nhraean isaf tabl Cymru.

 

·         Bu dau drosglwyddiad i’r setliad fel sy’n dilyn:

 

-       £3.98m ar gyfer y grant cyflogau athrawon

-       £1.1m ar gyfer y Rhaglen Rheolaeth Risg Arfordirol (dim effaith ar gyfer y Cyngor hwn).

 

·        Dim ond ar sail Cymru-gyfan y cyhoeddwyd rhai grantiau refeniw penodol, yn gyfanswm o £968m, felly nid yw effaith lawn hyn ar Flaenau Gwent yn hysbys hyd yma.

 

·        Ac eithrio’r GIG ac ar gyfer y rhai ar y tâl isaf, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i atal cynnydd tâl sector cyhoeddus wedi golygu nad yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn cyllid penodol i ddarparu ar gyfer dyfarniadau ehangach cyflog sector cyhoeddus. Fel canlyniad, byddai angen i unrhyw effaith neilltuol yn deillio o gynnydd/dyfarniadau cyflog gael eu cynnwys o fewn y setliad cyllid cyffredinol.

 

Ymunodd y Cynghorydd T. Sharrem â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Sefyllfa Blaenau Gwent

 

·            Y cynnydd pennawd ar gyfer CBSBG ar ôl caniatáu ar gyfer trosglwyddo oedd 3.6% (£4.2m), o gymharu gyda chynnydd Cymru gyfan o 3.8%. Byddai hyn yn rhoi Blaenau Gwent yn nhraean isaf tabl cynghrair Cymru-gyfan.

 

·            Mae manylion yr Asesiad Gwariant Safonol (SSA) – y fformiwla y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio yn seiliedig ar ddosbarthiad cyllid – ar gael ym mharagraffau 2.22 –  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2021/2022 pdf icon PDF 529 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd T. Smith y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Datganodd y Cynghorydd P. Edwards fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei thrafod.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg yn fanwl am yr adroddiad sy’n cynnig y ffioedd a chostau i’w gweithredu ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, yn cynnwys y ffioedd a thaliadau creiddiol a weithredir gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Nodwyd fod rhaglen Pontio’r Bwlch yn cynnwys adolygiad busnes strategol ar ffioedd a thaliadau i sicrhau fod y Cyngor yn uchafu ei incwm drwy sicrhau fod ffioedd a thaliadau yn cael eu gosod ar lefel sy’n talu am gostau darparu’r nwyddau a gwasanaethau y mae’n eu darparu lle’n briodol.

 

Cafodd pandemig COVID-19 effaith sylweddol ar y ffioedd a chostau a gasglwyd yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol oherwydd e.e. cau gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i liniaru colled incwm ar gyfer 2020/2021 a rhagwelid y byddai’r cyllid yn parhau i 2021/2022 wrth i’r Cyngor barhau i ymateb i’r pandemig.

                                                                                  

Aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen drwy amlinellu’r ffioedd a chostau y byddai cynnydd o 2% arnynt fel yr amlinellir ym mharagraff 5.1.2 ynghyd â rhestr o’r gwasanaethau lle na chynigir cynnydd ffioedd.

 

Roedd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin wedi cyflwyno rhestr o ffioedd a thaliadau a gynigir ar gyfer 2021/2022 ar gyfer gwasanaethau creiddiol, i’w chymeradwyo gan y Cyngor yn unol â’r cytundeb Cyllid a Rheoli. Mae’r cynnydd a gynigir yn amrywio o ddim cynnydd ffioedd i 3.2%.

 

Nodwyd fod ffioedd a thaliadau yn cynhyrchu tua £14.8m y flwyddyn mewn incwm ac yn cyfrannu tuag at gyllido cost darparu gwasanaethau’r Cyngor.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur, yng ngoleuni’r bleidlais a gymerwyd i gynyddu’r Dreth Gyngor gan 3.3% ar gyfer 2021/22 ac er mwyn rhoi peth cymorth i breswylwyr, gofynnodd os byddai’n bosibl gostwng rhai o’r cynnydd o 2% mewn ffioedd a chostau.

 

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud fod nifer o’r cynnydd a 2% o gynigid eisoes wedi eu dileu (roedd hyn yn cynnwys mynwentydd, pryd ar glud, marchnadoedd a gwastraff masnach) a byddai’n rhaid rhoi ystyriaeth ofalus am yr effaith y byddai dileu unrhyw gynnydd pellach yn ei gael ar gyllidebau rhai adrannau, tebyg i’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Er y credai y cafodd dileu’r ymgodiadau ei ostwng cyn belled ag oedd yn bosibl, cynhelir trafodaethau pellach gyda deiliaid cyllideb perthnasol ac fel canlyniad i’r trafodaethau hyn roedd angen adolygu unrhyw rai o’r ffioedd a chostau, byddid yn cyflwyno adroddiad pellach i gyfarfod o’r Cyngor eu hystyried yn y dyfodol.

 

Ar ran masnachwyr y fwrdeistref mynegodd Aelod ei werthfawrogiad na chynigiwyd unrhyw gynnydd ar gyfer marchnadoedd a gwasanaethau gwastraff masnach, a dywedodd fod hyn yn ymagwedd synhwyrol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r gofrestr o Ffioedd a Thaliadau ar gyfer 2021/2022 ynghyd â’r cynnydd prisiau creiddiol yn ymwneud ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

7.

Cynnig – Ymchwydd £20 pdf icon PDF 242 KB

Ystyried y cynnig a atodir gan Unite Cymru.

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y cynnig gan Unite Cymru i gynnal incwm teuluoedd incwm isel a chanol.

 

Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei werthfawrogiad i’r Cyngor am ystyried y cynnig ar ran Unite Cymru. Aeth ymlaen drwy ddweud er y cytunwyd fel rhan o gyhoeddiad cyllideb y Deyrnas Unedig ar 3 Mawrth 2021 i ymestyn cyfradd sylfaenol y cynnydd mewn Credyd Cynhwysol gan 6 mis, roedd Unite Cymru wedi gofyn i’r Cyngor ddal i ystyried y Cynnig.

 

Mewn pleidlais PENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cyngor yn nodi:

 

·         Yn dilyn cyhoeddiad yn y Gyllideb ar 3 Mawrth 2021 fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ym mis Medi yn bwriadu torri lefel budd-daliadau miliynau o hawlwyr drwy ddod â’r cynnydd cyfnod cyfyngedig i gyfradd sylfaenol Credyd Cynhwysol (a’r credyd treth cyfatebol) i ben.

 

·         Mae’r hwb o £20 yr wythnos yn adlewyrchu’r realaeth nad oedd lefel budd-daliadau yn ddigonol i ddiogelu’r cynnydd cyflym yn y nifer o aelwydydd sy’n dibynnu arnynt wrth i argyfwng y pandemig daro. Mae’r cynnydd yn sylweddol iawn ac yn symudiad a groesawyd i hybu safonau byw teuluoedd incwm isel ac incwm canolig a byddai ei golli yn golled enfawr.

 

·         Byddai symud ymlaen yn gweld lefel y cymorth diweithdra yn disgyn i’w lefel termau gwirioneddol isaf ers 1990-91, a’i ganran isaf erioed o gymharu ag enillion cyfartalog.

 

·         Cafodd y cynnydd mewn budd-daliadau effaith gadarnhaol ar fywydau miloedd o hawlwyr lleol sydd wedi bod mewn gwell sefyllfa l i dalu am hanfodion bywyd fel bwyd, dillad a chyfleustodau.

 

·         Mae’r economi lleol hefyd wedi manteisio o’r cynnydd mewn lefelau budd-daliadau gan fod hawlwyr yn gwario eu harian yn lleol a thrwy hynny yn cefnogi busnesau a swyddi lleol.

 

·         Ni fu unrhyw gynnydd mewn lwfansau gofalwyr gyda llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol difrifol.

 

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH bod y Cyngor yn:

 

·         Ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak ac at y Prif Weinidog Boris Johnson yn mynnu bod y cynnydd o £20 mewn Credyd Cynhwysol yn cael ei wneud yn barhaol a’i ymestyn i hawlwyr ar fudd-daliadau gwaddol.

 

·         Gweithio gyda sefydliadau llywodraeth leol eraill i ffurfio cynghrair i bwyso’r llywodraeth i wneud y cynnydd o £20 i’r Credyd Cynhwysol yn barhaol.

 

·         Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, yn eu hannog i gynyddu lwfans gofalwyr gan £20 yr wythnos ar unwaith, yn unol â’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol, gan anfon copi at yr Aelod Seneddol lleol yn gofyn am ei gefnogaeth.

 

·         Hyrwyddo Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar 16 Mawrth 2021 mor eang ag sydd modd yn flynyddol, yn neilltuol i ofalwyr ifanc a’u teuluoedd.