Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, M. Holland a T. Sharrem.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Adroddwyd y datganiad o fuddiant dilynol:
Eitem Rhif 6 – Penodi Aelodau Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio Cynghorydd P. Edwards
|
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2021/2022 - 2025/2026 PDF 532 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, soniodd y Prif Swyddog Adnoddau am y pwyntiau perthnasol dilynol a gynhwysir o fewn yr adroddiad:
- Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn elfen allweddol o fewn fframwaith cynllunio strategol y Cyngor ac yn rhoi’r asesiad diweddaraf o sefyllfa ariannol y Cyngor dros y 5 mlynedd nesaf ac arweiniad ar heriau posibl yn y tymor byr, tymor canol a’r hirdymor.
- Mae’r ddogfen yn cynnwys cipolwg ar y 5 mlynedd nesaf i asesu’r gofynion gwario mae’r Cyngor yn debyg o’u hwynebu wrth gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol a thynnodd sylw at lefel y toriadau (gan ostwng neu atal gwasanaethau) y byddai angen eu gwneud i sicrhau y gallai’r Cyngor osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn.
- Mae’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol yn cynnig dull gweithredu y Cyngor i ymateb i’r heriau ariannol a gaiff eu hwynebu dros y cyfnod 5-mlynedd nesaf. Byddai hyn yn broses ailadroddol ac un a fyddai’n cael ei datblygu a’i mireinio wrth i sefyllfa cyllid Llywodraeth Cymru ddod yn gliriach a bod adolygiadau busnes strategol yn cael eu datblygu ymhellach a’u gweithredu.
- Mae manylion y tybiaethau cynllunio ariannol allweddol a ddefnyddiwyd ar gyfer modelu ariannol yn adran 4 o’r atodiad a hefyd yn rhoi asesiad o’r bylchau cyllideb posibl dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canol, gan adeiladu ar y pwysau cost presennol a aseswyd a chyflawni cynigion pontio’r bwlch.
- Gallai’r pwysau cost a ddynodwyd gael eu categoreiddio fel pwysau gwasanaeth presennol, eitemau twf a phwysau pandemig Covid-19. Tybiwyd y byddai pwysau Covid-19 yn parhau i gael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y cafodd bwlch cyllid gweddilliol o rhwng £8.6m a £11.5m ei asesu dros y 5 mlynedd nesaf.
- Fel arfer yr adeg hon o’r flwyddyn, byddai Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisoes wedi cyhoeddi’r setliad llywodraeth leol darpariaethol a therfynol, fodd bynnag oherwydd y ffocws ar yr ymateb i’r pandemig Covid-19, cafodd adolygiad gwariant y Deyrnas Unedig ei ohirio. Mae hyn yn ddilynol wedi gohirio cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar y setliad darpariaethol a disgwylir hyn yn awr ar 22 Rhagfyr 2020 gyda disgwyl y setliad terfynol ar 2 Mawrth 2021. Byddai gan yr oedi hwn oblygiadau ar gyfer y broses gosod cyllideb ar gyfer 2021/2022 a threfniadau cynllunio ar gyfer gosod cyllideb gytbwys.
- Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canol presennol y Cyngor yn cynnwys nifer o dybiaethau sy’n effeithio ar lefel ei incwm a gwariant. Gallai newidiadau i’r tybiaethau hyn o bosibl gael effaith sylweddol ar y bwlch cyllideb dros y 5 mlynedd nesaf. Fel enghraifft, cafodd effaith newid 1% ar y prif dybiaethau ei gyfrif a rhoddir manylion ym mharagraff 5.2.2. yr adroddiad.
Wedyn gwahoddwyd aelodau i roi sylwadau/codi cwestiynau ar yr adroddiad.
Dechreuodd Arweinydd y Gr?p Llafur drwy ddweud, oherwydd yr oedi cyn cyhoeddi’r setliad llywodraeth leol darpariaethol, y byddai angen gwneud gwaith ym mis Ionawr cyn cynnal y trafodaethau ar y gyllideb flynyddol a gofynnwyd am i’r wybodaeth oedd wedi ei chyhoeddi gan Lywodraeth ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Ystyried yr adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol a’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i‘r adroddiad ar y cyd gan Bennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol a’r Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Yn dilyn y sesiynau gwybodaeth i Aelodau a gynhaliwyd, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod yr adroddiad yn ceisio hysbysu Aelodau am y ddau ymgynghoriad sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd (a restrir islaw) ar fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chyflwynodd ymateb drafft a awgrymir i’r ymgynghoriad ar gyfer elfen ymgynghori ar y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a fyddai, os caiff ei gymeradwyo, yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru cyn 4 Ionawr.
· Cyd-bwyllgorau Corfforedig – dyddiad cau ymateb ymgynghori – 4 Ionawr 2021. · Rhan 6, Pennod 1 – Perfformiad a Llywodraethiant Prif Gynghorau – dyddiad cau ymateb i’r ymgynghoriad – 3 Chwefror 2021.
Cyflwynwyd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) [y Bil] yn 2019 a’i basio gan Senedd Cymru ar 18 Tachwedd 2020. Rhagwelid y byddai’r Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn gynnar yn 2021. Mae’r Bil yn ddarn sylweddol o ddiwygio deddfwriaethol, yn cynnwys llawer o elfennau yn cynnwys diwygio etholiadol, cyfranogiad cyhoeddus, llywodraethiant a pherfformiad a gweithio rhanbarthol a byddai’n disodli’r ddyletswydd gwella bresennol ar gyfer prif gynghorau a nodir ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Nodwyd y byddai’r gwahanol elfennau o fewn y Bil yn cael eu cyflwyno mewn camau.
Aeth y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol ymlaen drwy dynnu sylw at y pwyntiau perthnasol yng nghyswllt elfen yr ymgynghoriad Cyd-bwyllgorau Corfforedig:
Bu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn destun llawer o drafodaeth gyda’r Gweinidog yn ystod y 12 mis diwethaf ac er eu bod yn cael eu galw yn ‘bwyllgorau’, maent yn gyrff corfforedig, a ddisgrifiwyd gan y Gweinidog fel ‘rhan o deulu llywodraeth leol’ ac yn endidau cyfreithiol ar wahân o’u rhan eu hunain.
Aelodaeth y Cyd-bwyllgorau Corfforedig fyddai arweinwyr yr awdurdodau lleol perthnasol a byddai pleidleisio i ddechrau ar sail ‘un aelod un bleidlais’ Gallent gyfethol aelodau eraill pe dymunent, naill ai’n aelodau cabinet neu bartneriaid eraill a gallai’r rhain fod â phleidlais neu fod heb bleidlais. Byddai’r Cyd-bwyllgorau yn atebol i’w cynghorau ‘cyfansoddol’ drwy eu harweinwyr.
Mae 4 rhanbarth Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru a byddai Blaenau Gwent yn rhan o ranbarth y De Ddwyrain. Byddai gan y Cyd-bwyllgorau swyddogaethau’n ymwneud â llesiant economaidd, cynllunio strategol (byddai Cynlluniau Datblygu Lleol yn aros gydag Awdurdodau Lleol) a thrafnidiaeth. Gallai’r p?er economaidd llesiant fod yn eang a sylweddol, ond y Cyd-bwyllgorau eu hunain fyddai’n penderfynu pa mor bell y byddai’n cael ei ddefnyddio.
Lle mae gweithio rhanbarthol yn mynd rhagddo, yna gallai’r trefniadau rhanbarthol hyn bontio i ffurf Cyd-bwyllgor Corfforedig. Nodwyd y byddai swyddogaethau strategol presennol bargeinion dinesig a thwf yn trosglwyddo i’r Cyd-bwyllgorau. Nodwyd y gallai Llywodraeth Cymru ychwanegu swyddogaethau eraill at y Cyd-bwyllgorau yn y dyfodol.
Er fod y rheoliadau drafft presennol yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd rhanbarthol, gallai Llywodraeth Cymru gyfyngu neu ragnodi Cyd-bwyllgorau drwy gyllid neu offerynnau polisi. Gallent ddarparu cyllid i gefnogi swyddogaeth drwy’r Cyd-bwyllgorau ond nodi fod yn rhaid gwario’r cyllid mewn ffordd neilltuol neu yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Penodi Aelod Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio PDF 391 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd P. Edwards fuddiant yn y cyfarfod ond arhosodd yn y cyfarfod tra’r oedd yr eitem yn cael ei hystyried.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fyr am yr adroddiad a dywedodd, fel y gwyddai Aelodau, fod yr aelod lleyg blaenorol Mr. Peter Williams wedi ymddiswyddo yn gynharach yn y flwyddyn. Mae’n ofyniad ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 fod o leiaf un aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn aelod lleyg (nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol).
Felly cynhaliwyd proses recriwtio a chynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer y swydd ar 8 Rhagfyr 2020. Roedd y panel dethol wedi ystyried fod y ddau ymgeisydd yn diwallu’r meini prawf ar gyfer ethol, gyda phrofiad a setiau sgiliau cydnaws. Oherwydd hyn, mae’r panel yn argymell penodi’r ddau ymgeisydd yn Aelodau Lleyg i’r Pwyllgor Archwilio.
Nodwyd yr anfonwyd llythyr o werthfawrogiad at Mr. Peter Williams am yr holl waith a wnaeth yn y swydd dros y blynyddoedd.
Mewn pleidlais, PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo penodiadau Mr. T. Edwards a Mr. M. Veale yn Aelodau Lleyg o’r Pwyllgor Archwilio.
Ni chymerodd y Cynghorydd P. Edwards ran yn y bleidlais.
CYFARCHION Y TYMOR
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben drwy ymestyn ei dymuniadau gorau i Aelodau a swyddogion am Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.
|