Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen hysbysiad o 3 diwrnod gwaith o leiaf os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Cynghorwyr P. Baldwin, M. Day, L. Elias, J. Mason, B. Thomas, G. Thomas a L. Winnett.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Cynghorwyr M. Cook a J. Hill - Eitem Rhif 4: Costau Refeniw Gweithredu Ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC) ym Mharc Busnes De Roseheyworth.
Cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y cafodd yr Aelodau a enwir uchod eu cynghori y gallant aros yn y cyfarfod a chymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth a all ddilyn yng nghyswllt yr eitem hon.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr M. Cook a J. Hill fuddiant yn yr eitem hon ac yn dilyn y cyngor gan y Swyddog Monitro, arhosodd yn y cyfarfod tra bod yr eitem yn cael ei thrafod.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
Siaradodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yn gryno am yr adroddiad a gyflwynwyd i ystyried opsiynau ar gyfer:
- dyddiau gweithredu Cwm Newydd a'r ail Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (HWRC) a gynigir ar gyfer Roseheyworth; a
- goblygiadau ariannol gweithredu ail ganolfan gwastraff cartrefi.
Ar y pwynt hwn dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod datblygu ail HWRC yn gydnaws gyda blaenoriaeth y Cyngor 'Cymunedau Cryf ac Amgylcheddol Graff' ac yn neilltuol yr amcan i 'gynyddu'r cyfraddau ailgylchu a fyddai'n ein galluogi i gyflawni targedau cenedlaethol'. Nodwyd y byddai'r HWRC newydd yn cyfrannu at gyflawni targed ailgylchu 70% a osodwyd gan Lywodraeth Cymru erbyn 2024/2025.
Mae WRAP (Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau) wedi gweithio'n agos gyda Blaenau Gwent i ddatblygu achos busnes strategol ar gyfer safle yr HWRC newydd arfaethedig yn Roseheyworth sy'n rhoi manylion sut y gall drin heriau lleol tra'n ymateb i nodau statudol.
Nodwyd y bu'r Cyngor yn llwyddiannus yn ei gais am gyllid cyfalaf i Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun gyda'r dyfarniad llawn o £2.8m ar gael ar gyfer y cyfleuster. Byddai'r datblygiad arfaethedig hefyd yn arwain at welliannau priffyrdd drwy wella'r A467 gyda goleuadau traffig ar y fynedfa i Faes Busnes Roseheyworth a byddai'r safle newydd hefyd yn rhoi capasiti i ail-gyflwyno eitemau cartref gyda mynediad i gelfi ac eitemau ar gyfer y gymuned. Byddai'r prosiect ailddefnyddio hwn yn rhoi cyfle i weithio gyda phartneriaid trydydd sector a allai gael mynediad gynlluniau cyllid i wella cyflogadwyedd a rhaglenni gwaith yn y Fwrdeistref.
Costau Refeniw - yng nghyswllt costau refeniw, dywedwyd y byddai'r costau hyn ar gyfer blwyddyn 1 o bosibl yn is oherwydd na fyddai'r cyfleuster newydd yn gweithredu'n llawn tan 1 Mehefin 2020. Felly, cafodd costau refeniw ar gyfer 2020/2021 eu modelu ar 10 mis.
Mae paragraff 3.4.1 yn rhoi manylion opsiynau ar gyfer cyllido costau gweithredol HWRC sy'n cynnwys:
- Effeithiolrwydd Gwasanaeth - £39,000 – bu nifer o ddatganiadau diddordeb ar gyfer dileu swyddi gwirfoddol o fewn Gwasanaethau Cymdogaeth. Cynhelid adolygiad llawn i wneud un arbediad gwasanaeth yn y swm o £39,000.
- Un Criw Glanhau Strydoedd - £95,400 - disgwylid y byddai agor HWRC newydd yn cael effaith gadarnhaol yng Nghwm Ebwy Fach, a fyddai'n galluogi'r adran i ostwng un criw Glanhau Strydoedd a symud y staff hynny o fewn gweithrediad y safle newydd.
- Dadansoddiad Sensitifrwydd - dau safle gweithredol - £108,000 - ymarferiad modelu yn seiliedig ar strategaeth dau safle gan WRAP sy'n dangos peth cynnydd potensial mewn perfformiad - caiff yr wybodaeth ei meintioli ym mharagraff 3.4.1. yr adroddiad.
Dyddiau Gweithredu - rhoddwyd cymhariaeth o'r dyddiau gweithredu gydag awdurdodau cyfagos ym mharagraff 3 yr adroddiad. Cafodd tri opsiwn ar gyfer ystyriaeth eu cynnwys gydag Opsiwn 2 yr opsiwn a ffafrir h.y. HWRC Roseheyworth a Cwm Newydd ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Eitem(au) Eithredig Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar y rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (roedd y rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Proses Drosglwyddo Asedau Cymunol, Dethol Defnyddiwr Cymeradwy Ystyriedadroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol. Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Esboniodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd fod yr adroddiad yn nodi canlyniad yr ail-asesiad o'r wybodaeth gan y Panel Dethol a roddwyd i gefnogi apêl a gyflwynwyd i'r cynnig i Drosglwyddo Ased Gymunedol (CAT) Tir Hamdden Tredegar. Nodwyd y cafodd yr adroddiad hwn ei ohirio o gyfarfod blaenorol y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2019 yn disgwyl gwybodaeth bellach yng nghyswllt y cwestiynau dilynol a ofynnwyd:
- A yw'r Cyngor wedi ymgynghori gyda Chyngor Tref Tredegar am y CAT? - A yw'r Cyngor wedi dilyn ymarfer cyfreithiol yn nhermau'r ymgynghoriad? - A oes cytundeb cyfamod am y safle? - A fedrid ychwanegu darpariaeth ychwanegol yn y brydles i gwarchod grwpiau defnyddwyr eraill yn defnyddio'r safle?
Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y bu ymgynghoriad cyffredinol am y Trosglwyddiad Ased Cymunedol yn digwydd ers 2017. Yn ychwanegol, roedd y Cyngor wedi ysgrifennu'n ffurfiol at Gyngor Tref Tredegar ym mis Chwefror 2019 yn gofyn os y byddai'n ystyried CAT posibl ar y safle hwn. Cafodd yr ohebiaeth ei thrafod mewn cyfarfod o Gyngor y Dref ac roedd Cyngor y Dref wedi ymateb gan ddweud na fyddai ganddo ddiddordeb mewn dod yn gyfrifol am y safle ar hyn o bryd.
Yn nhermau'r cytundeb Siarter rhwng y Cyngor a Chyngor y Dref, nid yw hyn yn gytundeb sy'n rhwymo'n gyfreithiol ac a weithredir yn y gyfraith ond yn ddatganiad bwriad sy'n amlinellu arfer da. Felly, ni chafodd y cytundeb Siarter ei dorri.
Yng nghyswllt y cyfamod ar y safle, cadarnhawyd na fyddai'r tir yn cael ei roi ond y byddid yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth elusennol a gellid ychwanegu geiriad ychwanegol yn y brydles i sicrhau fod y sefydliad llwyddiannus:
· Yn hyrwyddo defnydd a mwynhad y Fangre ar gyfer defnyddiau hamdden a chymunedol er budd y gymuned leol a'r cyhoedd yn gyffredinol ac annog eraill i ddefnyddio'r Fangre (neu rannau ohono) nad yw'r Tenant yn eu defnyddio bryd hynny.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol at y diffiniad o gytundeb cyfreithiol (contract sy'n rhwymo'n gyfreithiol y gellir ei orfodi mewn llys) a chadarnhaodd y dosberthir y Siarter fel 'datganiad o fwriad' a wneir rhwng y Cyngor a Chyngor y Dref sy'n cofnodi'n ffurfiol sut y byddai'n gweithredu ac ymddygiad bwriadus y ddau barti. Felly, nid oedd gorfodaeth gyfreithiol i'r Siarter.
Mynegodd Aelod ei bryder na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad o gwbl am y cynnig CAT yn cynnwys y grwpiau hyn. Dylai ymgynghoriad llawn fod wedi cynnwys Cyngor y ... view the full Cofnodion text for item 6. |