Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Mawrth, 14eg Ionawr, 2020 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cadeirydd

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd a hefyd yr Is-gadeirydd, cynigiwyd ac eiliwyd a

 

PHENDERFYNWYD yn unfrydol bod y Cynghorydd W. Hodgins yn cymryd y gadair.

 

2.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, ac mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y cyd os gwneir cais am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

3.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y:

 

Cynghorwyr M. Moore, B. Summers a D. Wilkshire.

 

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddtaganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

5.

Gwerthfawrogiad

Cofnodion:

Dywedwyd y bydd Martin Woodland - Cyfreithiwr a Chynghorydd i'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol yn gadael yr Awdurdod yn y dyfodol agos i fynd i swydd newydd gydag awdurdod cyfagos. Canmolodd Aelodau y gefnogaeth wych a roddodd Martin yn ystod ei gyfnod yn yr Awdurdod a dywedwyd y byddid yn gweld ei golli'n fawr.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr yn mynegi gwerthfawrogiad i Martin am yr holl gefnogaeth a roddodd ac yn estyn dymuniadau gorau ar gyfer y dyfodol yn ei swydd newydd.

 

 

6.

Eitem Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus a dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rhesymau am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol). 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (roedd y rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

7.

Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Trefn yr Agenda - cytunwyd y dylai Cais Cyfeirnod 1.1(b) a 1.1(c) gael eu clywed ar y pwynt hwn yn y cyfarfod.

 

Cais am Drwydded Newydd Cyfeirnod 1.1 (b)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Dywedodd y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu y galwyd y cyfarfod i ystyried cais newydd a dderbyniwyd ar gyfer Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hur Preifat. Rhoddodd y Swyddog wybodaeth i Aelodau am yr ymgeisydd a'r troseddau a gyflawnwyd a amlygwyd fel rhan o'r broses wirio DBS a dywedodd felly ei bod yn fater i'r Pwyllgor benderfynu os y dylid dyfarnu trwydded i'r ymgeisydd am y cyfnod llawn o 36 mis neu unrhyw gyfod arall a ystyriai'r Pwyllgor yn addas neu i wrthod y cais.

 

Yna gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i esbonio'r amgylchiadau am y troseddau a gyflawnwyd.

 

Mewn lliniariad am y troseddau, dywedodd yr Ymgeisydd iddynt gael eu cyflawni pan oedd yn llanc a'i fod yn awr yn gresynu'n fawr amdanynt. Ers hynny bu ganddo swydd lawn-amser - y 13 mlynedd diwethaf yn gweithio fel gyrrwr HGV ac roedd yn gwneud gwaith cymunedol yn ei ardal leol. Hysbysodd Aelodau ei fod yn angerddol am yrru a'i fod eisiau cyfle i helpu aelodau'r gymuned drwy gynorthwyo gyda darparu gwasanaethau tacsi.

 

Hysbysodd yr Ymgeisydd y Pwyllgor pe byddai'n cael trwydded y byddai'n cael ei gyflogi gyda chwmni tacsi lleol yn ardal Abertyleri.

 

Mewn ymateb i gwestiwn rhoddodd yr Ymgeisydd fanylion llawn y drosedd a gyflawnwyd yn ystod 2002.

 

Ar y pwynt hwn, darllenodd y Cyfreithiwr dystlythyrau cymeriad a dderbyniwyd i gefnogi'r Ymgeisydd.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd a swyddogion yr Adran Trwyddedu y cyfarfod tra bod Aelodau yn ystyried y cais.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan Aelodau gwahoddwyd yr Ymgeisydd i ail-ymuno â'r cyfarfod ac ar gais y Cadeirydd, cafodd penderfyniad unfrydol y Pwyllgor ei ddarllen yn uchel gan y cyfreithiwr fel sy'n dilyn:

 

Mae'r Pwyllgor wedi ystyried y dystiolaeth a roddwyd o'u blaenau ac wrth ddod i'w benderfyniad roedd y Pwyllgor hefyd wedi ystyried yr euogfarnau blaenorol, y sylwadau a wnaed gan yr Ymgeisydd, y Swyddogion Trwyddedu oedd yn bresennol yn y Pwyllgor, y tystlythyrau cymeriad ac wedi rhoi ystyriaeth i faterion a gynhwysir o fewn Llyfryn Gwybodaeth ac Arweiniad y Cyngor yn cynnwys amodau'n gysylltiedig â Thrwyddedau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Thrwyddedau Cerbyd Hur Preifat.

 

Cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol fod yr Ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni ac felly dyfarnodd y Pwyllgor drwydded am gyfnod o 36 mis.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol yr uchod, i  ...  view the full Cofnodion text for item 7.