Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Mawrth, 10fed Rhagfyr, 2019 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbynymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:-

 

Cynghorydd D. Bevan

Cynghorydd L. Winnett

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyriedunrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Public Protection Services - Discontinuation of Collaboration with Torfaen C.B.C. pdf icon PDF 478 KB

Ystyriedadroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y cyflwynwyd yr adroddiad yn dilyn cais a wnaed am wybodaeth yn gysylltiedig gyda diwedd y cydweithio gyda Torfaen a'r goblygiadau ar gyfer y Gwasanaeth Trwyddedu. Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth drosolwg o'r adroddiad yn rhoi manylion y rheswm dros greu'r cydweithio ynghyd â'r goblygiadau cyfredol a dyfodol ar gyfer y gyllideb yn ogystal â newidiadau dros dro i'r Tîm Trwyddedu ers i'r trefniant cydweithio ddod i ben ar gyfer Trwyddedu yn yr haf.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodaeth at y pwysau cost presennol fel canlyniad i ddiwedd y cydweithio oedd tua £35,000 a dywedodd y cafodd hyn ei ateb drwy ostwng oriau mewn swydd Safonau Masnach a ddaeth yn wag ac oedd yn gweithio ar draws y ddau dîm ym Mlaenau Gwent a Thorfaen.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth ymhellach at y pwysau cost ar gyfer 2020/2021 o £106,000 a dywedodd, er bod yr gostyngiad yn oriau'r swydd wedi cyflawni £18,000, bod angen i'r maes gwasanaeth ganfod gweddill y pwysau cost. Cyn trafod y pwysau cost, cafodd y Rheolwr Gwasanaeth y dasg o adolygu Front Line Enforcement Services ac mae hynny'n parhau. Byddai canlyniad yr adolygiad hwn yn helpu i lywio'r newid gwasanaeth angenrheidiol ac ailstrwythuro staff Diogelu'r Cyhoedd. Pe byddai nifer y staff yn gostwng, byddai hyn yn cael ei drin mewn ymgynghoriad llawn gyda staff, Datblygu Sefydliadol ac undebau llafur. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth, er bod pwysau cyllideb, y byddid yn dal i ofyn i Wasanaeth Diogelu'r Cyhoedd am dwf gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth pellach er y bu newidiadau dros dro yn rheolaeth y Tîm Trwyddedu na fu unrhyw newidiadau yn nifer y staff gweithredol yn y Gwasanaeth Trwyddedu fel canlyniad i derfynu'r cydweithio gyda Thorfaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at yr adolygiad o staff rheng flaen a chododd bryderon am bosibilrwydd gostwng staff Diogelu'r Cyhoedd. Teimlai'r aelod y byddai gostwng staffio yn cael effaith niweidiol ar y gwasanaeth a ddarperir. Mae Tîm Diogelu'r Cyhoedd ar lawr gwlad yn hanfodol ac ni fyddai mor gryf pe byddai gostyngiad mewn staffio. Cyfeiriodd yr Aelod at euogfarnau diweddar am nwyddau ffug ac ategodd ei bryderon gan fod staff wedi gwneud gwaith ardderchog ac ni fyddai eisiau gweld pwysau ariannol yn gostwng y gwasanaeth rhagorol a ddarperir gan yr Awdurdod.

 

Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd gyda'r pryderon a godwyd ac roedd wedi gobeithio y byddai'r adolygiad yn lleihau'r effaith ar y gwasanaeth rheng flaen. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod y trefniadau cydweithio/rhannu rheolaeth gyda Torfaen yn ymarferol wedi diogelu'r gwasanaethau rheng flaen yn y 3-4 mlynedd ddiwethaf. Pe na byddai'r cydweithio wedi digwydd, byddai'r gwasanaethau rheng-flaen wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod 3-4 mlynedd yma.

 

Dywedodd Aelod arall o safbwynt cynrychiolwyr etholedig ei bod yn llawer mwy manteisiol cael arbenigedd Tîm Trwyddedu yn fewnol. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd y pryderon a dywedodd y cafodd nifer o agweddau o waith Diogelu'r Cyhoedd eu hallanoli oherwydd pwysau cost cyllideb dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf (e.e. Iechyd Anifeiliaid a Rheoli Pla) ac  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Taxi, Other Non Prescribed Licence Fees 2020/2021 pdf icon PDF 434 KB

Ystyriedadroddiad Rheolwr Tîm - Masnachol a Thrwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Masnachol a Thrwyddedu.

 

Siaradodd y Rheolwr Tîm Masnachol a Thrwyddedu am yr adroddiad sy'n amlinellu'r ffioedd trwyddedau arfaethedig ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 20201. Esboniodd y Rheolwr Tîm ymhellach y broses ar gyfer adolygu a chyfrif y ffioedd sy'n cyfeirio at ddelwyr metel sgrap, sefydliadau rhyw, masnachu stryd a thacsis fel y manylir yn yr adroddiad a'r Atodiadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at y ffioedd arfaethedig ar gyfer tacsis ac esboniodd fod y rhain yn seiliedig ar sail adfer cost llawn yn gysylltiedig gyda chostau o 2020/21 yn ogystal ag elfen adfer ar gyfer gostwng y ffi yn 2019/2020. Ychwanegwyd y cyflwynir adroddiad i'r Pwyllgor i'w ystyried unwaith y cafwyd adborth o'r ymgynghoriad gyda masnachwyr.

 

Cododd Aelod bryderon am effaith unrhyw ffioedd uwch ar fusnesau a phreswylwyr oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael mewn rhai ardaloedd o Flaenau Gwent ac felly roedd preswylwyr yn dibynnu ar dacsis. Mae'r Gwasanaeth Trwyddedu yn rhoi ffynhonnell dda o incwm ar gyfer yr Awdurdod a theimlai'r Aelod y gallai ffioedd uwch gael effaith niweidiol ar yr incwm hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Masnachol a Thrwyddedu nad oedd incwm ffioedd yn cefnogi unrhyw wasanaethau eraill ar draws yr Awdurdod (heblaw gwasanaethau cymorth uniongyrchol fel yr amlinellir yn yr adroddiad) ac mae'r adroddiad wedi cynnig ffioedd ar sail adferiad cost. Mater i'r Pwyllgor ei benderfynu oedd y ffi a gyflwynir ar gyfer ymgynghoriad. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd fod adfer cost yn elfen allweddol a hyrwyddir yn y  Strategaeth Fasnachol Gorfforaethol newydd.

 

Dywedodd Aelod arall fod preswylwyr yn ei Ward yn dibynnu ar dacsis oherwydd cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael ym Mlaenau Gwent a dywedodd hefyd fod problem gyda thacsis 'rhith' sy'n gweithredu'n rhatach na thacsis gyda thrwydded.

 

Mewn ymateb i dacsis 'rhith' yn gweithredu ym Mlaenau Gwent, dywedwyd na dderbyniwyd unrhyw adroddiadau diweddar am dacsis o'r fath ac os oeddent yn gweithredu dylid hysbysu'r Tîm Trwyddedu amdanynt i ymchwilio a chymryd y camau priodol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd yr Aelodau at yr opsiynau i gael eu hystyried a dilynodd trafodaeth am Opsiwn 1. Er ei fod yn cefnogi Opsiwn 1, teimlai Aelod na fedrai gefnogi cynnydd mewn ffioedd trwydded. Atebodd y Cyfreithiwr mai dim ond ceisio cymeradwyaeth i symud ymlaen i ymgynghoriad mae'r opsiynau a gyflwynir ac y cyflwynir adroddiad pellach i gymeradwyo ffioedd.

 

Mewn pleidlais a gynhaliwyd ar hyn

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r ymgynghoriad ar y ffioedd arfaethedig fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tommy Smith am gofnodi na fyddai'n cefnogi unrhyw gynnydd yn y ffioedd trwyddedu er ei fod yn cefnogi opsiwn 1. Atebodd y Rheolwr Tîm Masnachol a Thrwyddedu y byddai adborth o'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'w ystyried maes o law.