Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Llun, 14eg Rhagfyr, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant neu Oddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Rhestr Ceisiadau am Drwyddedau Cerbydau Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r sylwadau a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, i bwyso a mesur popeth bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad, yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o drafodaeth gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu, yn cynnwys:

 

Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur Preifat

Trwydded Rhif 234

 

Cyflwynwyd yr Ymgeisydd i Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Rheolwr Tîm – Trwyddedu fod yr ymgeisydd wedi dal trwydded am flynyddoedd lawer a’r achos gerbron y Pwyllgor oedd penderfynu os oedd y deiliad trwydded yn berson addas a chywir i ddal trwydded.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm drosolwg o honiadau a wnaed i’r Tîm Trwyddedu. Dywedwyd y cafodd yr honiadau hyn eu trafod gyda’r deiliad trwydded oedd hefyd â phryderon, fodd bynnag roedd y deiliad trwydded wedi methu codi y pryderon hyn gyda’r Tîm Trafnidiaeth neu’r Tîm Trwyddedu.

 

Wedyn gwahoddodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd i gyflwyno ei achos.

 

Dywedodd yr Ymgeisydd fod achlysuron pan gynigid rhoddion o felysion neu siocledi ac os y’u gwrthodwyd byddai’r teithiwr yn flin. Ychwanegodd yr Ymgeisydd fod y teithiwr wedi gofyn iddo brynu melysion iddynt a bod yr Ymgeisydd wedi gwrthod. Roedd y teithiwr hefyd wedi gadael nodiadau iddo.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd rhoddodd yr Ymgeisydd ei resymau pam na ddylai’r Pwyllgor ddiddymu ei drwydded. Dywedodd yr Ymgeisydd iddo ddal trwydded am flynyddoedd lawer ac nad oedd wedi gwneud dim o’i le. Ychwanegodd yr Ymgeisydd ei fod wedi cymryd yr ymddygiad yn ysgafn ac felly nad oedd yn teimlo fod angen iddo roi adroddiad am y mater.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Codwyd nifer o gwestiynau gan Aelodau yng nghyswllt yr hyfforddiant a gafodd yr Ymgeisydd, y rheswm nad oedd unrhyw hebryngydd ar deithiau gyda’r Ymgeisydd a’r teithiwr ifanc a gweithredu gan yr Heddlu ar yr honiadau. Gofynnwyd i’r Ymgeisydd hefyd pa mor hir y bu ganddo drwydded ac os bu unrhyw gwynion tebyg o’r blaen. Roedd Aelodau hefyd wedi gofyn am adborth o gyfarfodydd PSM a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr ysgol, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion yr Awdurdod Lleol a’r Heddlu.

 

Atebodd yr Ymgeisydd a’r Swyddogion y cwestiynau.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd a’r Swyddogion Trwyddedu y cyfarfod ar y pwynt hwn i Aelodau ystyried y cais.

 

Trafododd y Pwyllgor y cais yn faith a gwnaed penderfyniad, a gwahoddwyd yr Ymgeisydd a’r Swyddogion yn ôl i’r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod Aelodau wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r cais a gofynnodd i’r Cyfreithiwr ddarllen penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu, fel sy’n dilyn:-

 

Daeth Adran Trwyddedu y Cyngor â’r mater gerbron y Pwyllgor ar gyfer adolygu Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni ar gyfleuster cyfarfod Teams. Roedd y Swyddog Trwyddedu wedi annerch aelodau a’u hysbysu y cynhaliwyd PSM ar 13 Tachwedd 2020 ac yn ystod y cyfarfod hwnnw hysbyswyd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.