Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Mawrth, 11eg Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Mandy Moore, G. Thomas a D. Wilkshire.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Adroddiad Gweithgareddau ar gyfer Chwarter 3 2019/20 pdf icon PDF 430 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol fod yr adroddiad yn amlinellu gwaith y Tîm Trwyddedu am y trydydd chwarter o 1 Hydref i 31 Rhagfyr 2019 yng nghyswllt dyletswyddau trwyddedu cyffredinol.

 

Nododd y Rheolwr Tîm y derbyniwyd chwe chwyn yn ystod chwarter 3 yng nghyswllt gyrwyr tacsi a chyfeiriodd Aelodau at y crynodeb o gwynion a chanlyniadau a fanylir yn yr adroddiad. Amlinellodd ymhellach y pwyntiau allweddol yng nghyswllt yr Adroddiadau Gweithredol a Rheoli.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddwyd cwestiynau gan Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am ddangos dulliau adnabod ar gyfer casglwyr metel sgrap, dywedwyd bod yn rhaid dangos bathodynnau adnabod yn ffenestr y cerbyd. Fodd bynnag, dim ond i’r ymgeisydd y rhoddir bathodynnau adnabod ac ni fyddai dull adnabod gan bobl a gyflogir ganddynt.

 

Ychwanegodd yr Aelod iddo dderbyn cwynion fod casglwyr metel sgrap wedi mynd i mewn i erddi heb ganiatâd. Awgrymodd y Rheolwr Tîm y dylid hysbysu’r Tîm Trwyddedu am unrhyw gwynion o’r fath er mwyn eu hymchwilio.

 

Dilynodd trafodaeth am ddiffyg dull gweithredu aml-asiantaeth i blismona casglwyr metel sgrap yn yr un ffordd â thacsis, masnachwyr stryd ac yn y blaen. Nododd Aelod bwysigrwydd polisi gorfodaeth ar gyfer casglwyr metel sgrap a dywedodd fod ganddynt enghreifftiau o bobl yn tresbasu ar dir preifat i fynd â sgrap.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol mai ychydig o gwynion a dderbynnir am gasglwyr metel sgrap ac y dylai dull gweithredu aml-asiantaeth gynnwys yr Heddlu a Cyfoeth Naturiol Cymru. Ychwanegodd fod fod rhaglen waith y Tîm yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, felly os derbynnir cwynion am gasglwyr metel sgrap yna gellid ystyried ychwanegu’r swyddogaeth hon at raglen waith y Tîm Trwyddedu.

 

Mewn ymateb i faterion eraill a godwyd am gasglwyr metel sgrap, anogodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau i hysbysu’r Tîm Trwyddedu am gwynion a hefyd ofyn i’w hetholwyr roi adroddiad am gwynion er mwyn cofnodi digwyddiadau.

 

Dywedodd Aelod arall y caiff preswylwyr eu hysbysu i roi gwybod i’r Heddlu am y digwyddiadau hyn a gofynnodd os yw’r Tîm Trwyddedu yn gweithio gyda’r Heddlu gan y credai y byddai’r dystiolaeth hon ar gael ganddynt. Dywedodd y Rheolwr Tîm y cynhelir dialog yn gyson gyda’r Heddlu yn nhermau materion trwyddedu a dywedodd nad oedd yn gwybod am unrhyw gwynion a wnaed yn ddiweddar. Cytunwyd fel pwynt gweithredu y gofynnir i Heddlu Gwent ddynodi os cafodd unrhyw gwynion eu derbyn yn uniongyrchol ganddynt yng nghyswllt y maes gwaith yma.

 

Ychwanegodd yr Aelod fod preswylwyr yn cael eu hannog i hysbysu’r Heddlu am broblemau a theimlai na fyddent yn hysbysu’r Cyngor a hefyd yr Heddlu am gwynion. Ategodd y Rheolwr Tîm y caiff materion trwyddedu eu hysbysu i’r Cyngor gan yr Heddlu ac na wyddai am unrhyw gynnydd sylweddol mewn cwynion yn erbyn casglwyr metel sgrap, fodd bynnag dywedodd eto y byddid yn trafod y mater hwn gyda’r Heddlu i ddynodi os ydynt yn derbyn cwynion.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at fysgio yng nghanol tref Tredegar a gofynnodd os gellid llunio  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Meysydd ar gyfer Hyfforddiant/Sesiynau Gwybodaeth i Aelodau

Ystyried meysydd ar gyfer hyfforddiant/sesiynau gwybodaeth i Aelodau.

 

Cofnodion:

 

Ni ofynnwyd am hyfforddiant neu sesiynau gwybodaeth i aelodau ar unrhyw faes.