Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Mercher, 18fed Rhagfyr, 2019 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Moore, J.P. Morgan, D. Wilkshire, L. Winnett.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar y rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

5.

Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso o mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth gael ei heithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Trwyddedu a Masnachol, yn cynnwys:-

 

Cais am drwydded newydd Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat:

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, esboniodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod y cais gerbron y Pwyllgor ar gyfer Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat. Hysbyswyd aelodau fod yr ymgeisydd yn flaenorol wedi dal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni ar ddau achlysur gwahanol, gyda'r drwydded ddiweddaraf yn dod i ben yn 2011.

 

Nodwyd o gofnodion DBS fod gan yr ymgeisydd euogfarnau am droseddau blaenorol ac esboniodd yr ymgeisydd amgylchiadau'r troseddau i Aelodau, oedd i gyd wedi'u cyflawni nifer o flynyddoedd yn ôl.

 

Hysbysodd yr ymgeisydd y Pwyllgor, os caiff drwydded, y byddai'n cael ei chyflogi gyda chwmni tacsi lleol yn ardal Nantyglo.

 

Ystyriodd Aelodau y dystiolaeth, gan roi ystyriaeth i'r euogfarnau blaenorol a'r sylwadau a wnaed gan yr ymgeisydd a'r Uwch Swyddog Trwyddedu. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i bolisi'r Cyngor ar euogfarnau yng nghyswllt Trwyddedau Cerbydau Hacni a Cherbydau Hur Preifat. Roedd y Pwyllgor o'r farn fod yr ymgeisydd yn berson addas a chywir i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni ac felly PENDERFYNWYD RHOI Trwydded am gyfnod o 3 blynedd.

 

 

 

 

Adolygiad o Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat

 

Esboniodd y Swyddog Gorfodaeth Trwydded y daethpwyd â'r mater gerbron y Pwyllgor i adolygu Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hur Preifat yn dilyn cwyn a gafwyd gan aelod o'r cyhoedd ar 3 Tachwedd 2019 fod y Deiliad Trwydded wedi codi gormod o bris ar gwsmer.

 

Esboniodd y Swyddog fod yr achwynydd yn fenyw anabl 72 oed a'i bod wedi hurio'r deiliad trwydded am daith ar 25 Hydref o Nantyglo i'r Ganolfan Dysgu Gweithredol yng Nglynebwy ac yn ôl. Roedd y Deiliad Trwydded wedi codi pris o £40 ar y fenyw am y daith, ac roedd y fenyw wedi talu £35 gan mai dyna'r holl arian oedd ganddi ar y pryd.

 

Hysbysodd y Swyddog yr Aelodau o gyfrif ar mesurydd y dylai cost y daith fod wedi bod tua £19 i £22. Ar ôl i'r Adran Drwyddedu dderbyn y g?n, gofynnwyd i'r Deiliad Trwydded i fynychu cyfarfod anffurfiol. Yn y cyfarfod hwnnw ni wnaeth y deiliad Trwydded wadu'r cyhuddiad yn ei erbyn ac ychwanegodd ei fod wedi teithio o Six Bells, Abertyleri i ddechrau'r daith ac mai dyna'r rheswm am y tâl ychwanegol. Roedd y Swyddog Trwyddedu wedi esbonio na chaniateid hynny ac y dylai cost pob taith gael ei gofnodi gan y mesurydd yn y tacsi, ac na ddylai'r mesurydd ddechrau nes bod y gyrrwr yn codi'r teithiwr.

 

Wedyn gwahoddwyd y Deiliad Trwydded  ...  view the full Cofnodion text for item 5.