Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Mawrth, 12fed Tachwedd, 2019 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Ganolfan Ddinesig, Glynebwy

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael os gofynnir am hynny.

Cofnodion:

Nodwyd na wnaed unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorwyr B. Summers, D. Wilkshire a L. Winnett

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

 

4.

Adroddiad Gweithgareddau ar gyfer Chwarter 2 2019/2020 pdf icon PDF 563 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm yr adroddiad sy'n rhoi diweddariad ar waith y Tîm Trwyddedu ar gyfer Chwarter 2. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at yr Adroddiad Gweithredol a rhoddodd drosolwg o'r wybodaeth ynddo a dywedodd y cynhaliwyd un cyfarfod gyda'r Gymdeithas Tacsi leol yn ystod Chwarter 2 i drafod materion sy'n effeithio ar fasnach leol a byddai'r cyfarfodydd hyn yn parhau yn ystod gweddill chwarteri 2019/20.

 

Yng nghyswllt yr Adroddiad Rheoli dywedodd y Rheolwr Tîm y byddai gwaith yng nghyswllt Casgliadau Elusennol a Sefydliadau Rhyw yn dechrau yn Chwarter 4 2019/20. Caiff yr holl ffioedd trwydded perthnasol i faterion trwyddedu cyffredinol eu hadolygu yn ystod Chwarter 3 a 4 2019/20 gyda'r newidiadau arfaethedig yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill 2020.

 

Dywedodd Aelod y gwnaed cais yn y cyfarfod diwethaf am ddiweddariad ar gydweithio a threfniadau'r dyfodol gan fod y Rheolwr Tîm Trwyddedu blaenorol wedi dychwelyd i'w swydd gyda Chyngor Torfaen. Dywedodd y Rheolwr Tîm y gallai Rheolwr Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd roi diweddariad yn y cyfarfod nesaf ar ar gydweithio a threfniadau'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 2).

 

 

5.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm am y penderfyniad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra caiff yr eitem ddilynol o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

6.

Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm - Trwyddedu a Masnachol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r wybodaeth felly gael ei heithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra trafodir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cais am Drwydded Newydd

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a gwnaed cyflwyniadau.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu i'r cyfarfod gael ei gynnull ar gyfer cais newydd am Drwydded Cerbyd Hacni a Thrwydded Breifat. Rhoddodd y Swyddog wybodaeth i Aelodau am yr ymgeisydd a'r troseddau a gyflawnwyd a dywedodd mai dyletswydd y Pwyllgor oedd penderfynu p'un ai i roi trwydded i'r ymgeisydd am gyfnod llawn o 36 mis neu unrhyw gyfnod arall a welai'n dda neu i wrthod y cais.

 

Cyflwynodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd a gwahoddodd ef i esbonio amgylchiadau'r drosedd.

 

Dechreuodd yr Ymgeisydd drwy ddweud i'w boilisi yswiriant gael ei ganslo yn anffodus oherwydd dryswch; fodd bynnag, yn y cyfnod cyn iddo gymryd polisi pellach, cafodd ei gosbi gan yr Heddlu. Nodwyd y bu gan yr ymgeisydd drwydded yrru am 11 mlynedd ac nad oedd ganddo unrhyw euogfarnau eraill a hysbysodd Aelodau ei fod wedi gwneud cais am Drwydded Cerbyd Hacni a Hur Preifat i roi gwell ffordd o fyw i'w deulu.

 

Dilynodd trafodaeth pan ofynnodd Aelodau am eglurhad gan yr Ymgeisydd am y drosedd.

 

Ar y pwynt hwn, darllenodd y Cyfreithiwr dystlythyrau a dderbyniwyd i gefnogi'r ymgeisydd.

 

Gadawodd yr Ymgeisydd y cyfarfod tra ystyriodd Aelodau y cais.

 

Yn dilyn ystyriaeth gan Aelodau gwahoddwyd yr Ymgeisydd i ail-ymuno â'r cyfarfod ac, ar gais y Cadeirydd, darllenodd y Cyfreithiwr benderfyniad y Pwyllgor fel sy'n dilyn:

 

Gwnaed y cais gerbron y Pwyllgor heddiw gan yr Ymgeisydd am Drwydded Yrru Cerbyd Hacni. Hysbysodd yr ymgeisydd yr Aelodau nad oedd wedi dal Trwydded Gyrru Cerbyd Hacni o'r blaen. Nododd y Pwyllgor o gofnod y drosedd o'u blaen heddiw fod gan yr ymgeisydd un euogfarn foduro. Cynigiodd yr ymgeisydd esboniad i'r Pwyllgor i liniaru ei weithredoedd am gyflawni'r drosedd. Dywedodd yr ymgeisydd wrth y Pwyllgor pe câi drwydded heddiw, dywedodd y caiff ei gyflogi gyda chwmni tacsi lleol yng Nglynebwy.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd o'u blaen heddiw ac wrth ddod i'w penderfyniad maent hefyd wedi ystyried yr euogfarn flaenorol ynghyd â'r sylwadau a gafwyd gan y swyddogion trwyddedu oedd yn bresennol, a'r Ymgeisydd.

 

Roedd y Pwyllgor o'r farn fod yr Ymgeisydd yn berson ffit ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a bod y pwyllgor yn cytuno i'r cais. Os byddai'n cyflawni unrhyw droseddau pellach yn ystod cyfnod y drwydded, hysbyswyd yr Ymgeisydd y gellid dod ag ef yn ôl gerbron y Pwyllgor ac y gellid diddymu'r drwydded.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gytuno i'r Drwydded Cerbyd Hacni a'r Drwydded Breifat.