Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Llun, 18fed Hydref, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Thomas.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Adroddiad Gweithgareddau ar gyfer 2020/21 a 2021/22 (Ch1 & Ch2) pdf icon PDF 455 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnachu a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn diweddaru’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol ar waith y Tîm Trwyddedu rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 ac 1 Ebrill 2021 a 30 Medi 2021. Siaradodd y Rheolwr Tîm am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad yn gysylltiedig ag effaith Covid-19, staffio a dyletswyddau, arferion gwaith ynghyd â’r adroddiad gweithredol, masnachu stryd, casgliadau elusen, metel sgrap, ceisiadau rhyddid gwybodaeth, gweithgareddau archwilio a gorfodaeth ac adroddiad rheolaeth.

 

Nododd y Rheolwr Tîm na dderbyniwyd unrhyw gwynion ffurfiol yn ystod y cyfnod hwn a chyfeiriodd Aelodau at yr atodiadau.

 

Gofynnodd Aelod os oes unrhyw oedi ar wiriadau DBS.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu fod gwiriadau DBS yn awr ar raglen dreigl a byddant yn cael eu dilyn lan ym mis Rhagfyr.

 

Cododd Aelod bryderon yng nghyswllt gostwng staff a dywedodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu fod y Tîm ar gapasiti llawn ar hyn o bryd a rhoddodd sicrwydd i Aelodau na fu unrhyw ostyngiadau mewn staff. Lle cafodd staff eu hadleoli dros dro yn ystod y pandemig, ychwanegwyd y cymerwyd mesurau priodol i ôl-lenwi neu ymestyn oriau swyddogion eraill ár gyfer y cyfnod dan sylw.

 

Codwyd mater o gonsyrn arall yng nghyswllt cau’r ddesg arian yn y Ganolfan Ddinesig a dywedwyd y gall ymgeiswyr dalu dros y ffôn yn defnyddio cerdyn a gellid paratoi anfonebau os dymunai ymgeisydd dalu gydag arian parod. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm fod y gwasanaeth yn edrych yn barhaus ar opsiynau i wella gwasanaethau a gellid ymchwilio opsiynau talu eraill fel sy’n addas.

 

Mewn ymateb i fater arall o gonsyrn a godwyd gan yr Aelod yng nghyswllt cyfweld ymgeiswyr, dywedodd y Rheolwr Tîm fod y Tîm bellach yn seiliedig yn Llys Einion a bod ystafell gyfweld ar gael os oes angen. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y derbynnir yn eang erbyn hyn y gellid cynnal cyfweliadau ar Teams ac y bu cyfweliadau’r Pwyllgor a gynhaliwyd yn y dull hwn yn llwyddiannus. Ychwanegodd ymhellach fod yr awdurdod lleol bellach mewn sefyllfa i gynnig cyfarfodydd hybrid, felly teimlai fod cydbwysedd ar gael.

 

Dymunai Aelod ddiolch i’r staff am gynnal y safon uchel o waith yn ystod y cyfnod hwn.

 

Croesawodd Aelod arall yr adroddiad a dywedodd y dylid canmol y Tîm yn ogystal â deiliaid trwydded sydd wedi cynnal eu gwasanaeth yn ystod y pandemig.

 

 

Dilynodd trafodaeth am y cynllun peilot ar dacsis trydan a dywedwyd y cafodd cerbydau eu derbyn ac y gosodwyd pob man gwefru trydan, fodd bynnag bu oedi wrth benodi cwmni rheoli. Nid yw’r awdurdod lleol mewn sefyllfa i roi trwyddedau nes bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi penodi’r cwmni rheoli yn dilyn eu proses dendro. Ychwanegodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y bu diddordeb gan yrwyr tacsi ac y gallai’r prosiect fynd yn ei flaen cyn gynted ag y penodwyd y cwmni rheoli.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Tîm y gobeithid y gellid trin y mater hwn cyn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Rhestr Ceisiadau ar gyfer Trwyddedau Cerbyd Hacni a Hur Preifat

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, fod o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu yr Ymgeisydd i Swyddogion ac Aelodau’r Pwyllgor a rhoddodd drosolwg o’r cais i gael ei ystyried.

 

Cododd Aelodau nifer o gwestiynau yng nghyswllt y cais ac ymatebodd yr Ymgeisydd a’r Swyddogion iddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at unigolyn neilltuol a’r cais am gerbyd hacni newydd.