Agenda and minutes

Pwyllgor Cynlluni, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) - Dydd Llun, 14eg Mehefin, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd J. Hill

Cynghorydd C. Meredith

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

Polisi Tacsis – Safonau Statudol yr Adran Trafnidiaeth ar gyfer Tacsis a Cherbydau Hur Preifat pdf icon PDF 420 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn rhoi manylion dogfennau ‘Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Hur Preifat’ a ‘Chanllawiau Cydgordio Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hur Preifat yng Nghymru’ Llywodraeth Cymru. Mae copi o’r dogfennau a nodwyd ar gael yn yr atodiadau. Dywedodd y Rheolwr Tîm hefyd fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth am newid i bolisi’r Awdurdod yn ymwneud a thrwyddedau cerbydau hacni a hur preifat i alluogi gwiriadau 6 misol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

 

Siaradodd Arweinydd y Tîm ymhellach am yr adroddiad ac amlinellodd y pwyntiau allweddol. Rhoddodd Arweinydd y Tîm sicrwydd i’r Pwyllgor fod yr Awdurdod eisoes yn gweithredu’r rhan fwyaf o’r argymhellion ac y sefydlwyd gweithgor ledled Cymru i hybu eu gweithredu mewn modd cyson ar draws Cymru. Yn nhermau costau i ddeiliaid trwydded, dywedwyd fod y Cyngor ar hyn o bryd yn disgwyl i yrwyr trwyddedig gael adroddiad DBS Estynedig bob tair blynedd ar gost o £50 i’r deiliaid trwydded. Awgrymodd y Safonau y dylid cynnal y gwiriadau hyn bob chwe mis ac mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy i’r deiliad trwydded lofnodi i Wasanaeth Diweddaru DBS.

 

Fe wnaeth hyn alluogi gweithredu rhaglen dramor sy’n galluogi’r Cyngor i wirio cofnodion heb fod angen i’r deiliad trwydded wneud cais newydd. Mae’r costau i’r deiliad trwydded am y system newydd yn £13 y flwyddyn. Byddai hyn maes o law yn arwain at arbediad bach i’r deiliad trwydded a’r budd i’r Cyngor fyddai y gellid gwirio cofnodion ar unwaith.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu y Pwyllgor at Opsiwn 1 sef yr opsiwn a ffafrir a dywedodd y cyflwynir adroddiadau pellach i’r Pwyllgor os a phryd y cynigir newidiadau pellach drwy’r gweithgor neu newidiadau polisi arfaethedig. Ychwanegwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol gyda chymdeithas y fasnach tacsis ym Mlaenau Gwent ac na ddynodwyd unrhyw faterion o bryder sylweddol, felly teimlwyd nad oedd angen ymgynghori ymhellach ar y pwynt hwn ar y cynnig gerbron y Pwyllgor. Byddai ymgynghori pellach ar newidiadau pellach gyda’r fasnach fel sydd angen.

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Teimlai Aelod, unwaith y byddai’r system newydd ar waith, ei fod yn rhoi diogeliad ychwanegol i weithredwyr mwy y byddai gyrrwr, os y’i ceid yn euog, yn cael ei ddynodi a’i adrodd yn unol â hynny.

 

Croesawodd Aelod arall yr adroddiad a theimlai ei fod yn rhoi sicrwydd ychwanegol oedd yn hollbwysig ar gyfer diogelwch y cyhoedd. Gofynnodd yr Aelod os yr adroddwyd unrhyw ymosodiadau rhywiol ym Mlaenau Gwent fel y rhai ym Manceinion a Glannau Merswy. Cadarnhawyd nad oedd Swyddogion yn gwybod am unrhyw ddigwyddiadau tebyg a adroddwyd ym Mlaenau Gwent.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yng nghyswllt staff digonol i lanw dros y gwaith ychwanegol, dywedwyd fod y Tîm Trwyddedu yn cynnwys 4 aelod o staff ar hyn o bryd. Er fod rhai staff yn gweithio llai o oriau, yn ystod y misoedd diweddar roedd pob un o’r pedwar  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cynllun Peilot Tacsi Gwyrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf icon PDF 402 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm – Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn amlinellu Cynllun Peilot Tacsi Gwyrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a gaiff ei gyflwyno ym Mlaenau Gwent a gofynnodd am gymeradwyaeth i ganiatáu eithriad i bolisi’r Awdurdod ar drwyddedau cerbydau hacni a hur preifat yng nghyswllt cynllun lliwiau’r cerbydau hynny.

 

Roedd y cais hwn yn gyson ac yn ddynodadwy ar draws y 12 awdurdod arall sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot. Mae’r adroddiad yn adlewyrchu gwaith i gael ei wneud gan y tîm Trwyddedu o fewn yr adnoddau sydd ar gael, fodd bynnag nid oes unrhyw oblygiadau ariannol gan y byddai’r gost yn cael ei gyllido’n llwyr gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Siaradodd Arweinydd y Tîm am yr adroddiad ymhellach a rhoddodd fanylion y cynllun peilot. Nododd Arweinydd y Tîm fod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o ddatgarboneiddio ar gyfer fflyd tacsis pob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2028 a gobeithid y byddai cynlluniau peilot Tacsis Gwyrdd yn cynorthwyo wrth gyflawni’r targed hwnnw. Byddai’r cynllun peilot yn rhedeg am 2-3 mlynedd a byddai mannau gwefru cysylltiedig i’w defnyddio gan dacsis/cerbydau hur preifat yn cael eu gosod yn ymyl neu yn y prif safleoedd tacsi ym Mlaenau Gwent. Mae’r wybodaeth fwy manwl yn cael ei chwblhau ac, unwaith y bydd ar gael, cyflwynir adroddiadau i sicrhau fod Aelodau’n cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm nad Awdurdod Trwyddedu Blaenau Gwent sy’n arwain ar y prosiect, cymryd rhan yn y cynllun peilot mae’r Awdurdod. Byddai cwmni rheoli o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rheoli’r cynllun.

 

Cafodd yr Awdurdod ddau gerbyd Nissan Dynamo hygyrch i gadeiriau olwyn a byddai’r rhain ar gael yn rhad ac am ddim i yrwyr yn ystod y cyfnod prawf. Gobeithir y byddai’r cynllun yn un ‘rhoi cynnig cyn prynu’, gan alluogi gyrwyr tacsi trwyddedig i roi cynnig ar y cerbyd yn rhad ac am ddim am 30 diwrnod. Mae’r prawf yn debyg o hefyd gynnwys gwefru trydan am ddim, yswiriant, trwyddedu cerbyd, gwasanaeth trwsio os yw’r cerbyd yn torri ac yn y blaen. Pe byddai gyrwyr yn hoffi’r cerbydau, teimlid y byddai’n creu cymhelliant i yrwyr fel dewis posibl o gerbyd ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedwyd y cynhaliwyd rhai ymgynghoriadau anffurfiol gyda Chymdeithas Tacsis Blaenau Gwent ar 28 Ebrill 2021 ac y cynhaliwyd trafodaeth gadarnhaol ar y newidiadau arfaethedig ac na chodwyd unrhyw bryderon sylweddol.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedau yr Aelodau ymhellach at yr opsiynau a nododd yr opsiwn a ffafrir. Ychwanegodd y byddai’r cerbydau a ddefnyddid ar draws yr awdurdodau sy’n cymryd rhan yn y peilot yn cael eu hadnabod ar unwaith fel cerbydau yn y cynllun peilot gwyrdd ac y byddent yn cael eu heithrio rhag yr arwyddion arferol.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau ar y pwynt hwn.

 

Gofynnodd Aelod os byddai grantiau ar gael ar gyfer gyrwyr tacsi, gan fod cerbydau trydan yn ddrud. Dywedodd yr Uwch Swyddog Trwyddedu y byddai grantiau ar gael, fodd bynnag mae’r cerbyd a roddwyd yn un  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Amser Cyfarfodydd y Dyfodol

Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cynnal cyfarfodydd y dyfodol am 2.00 p.m.