Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Trefniadau Democrataidd 2022 Ymlaen PDF 521 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Democrataidd a Pherfformiad.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo yn ymwneud â’r trefniadau democrataidd wrth symud ymlaen.
|
|
Aelod Llywyddol a Dirprwy Aelod Llywyddol y Cyngor Penodi Llywydd a Dirprwy Lywydd y Cyngor ar gyfer 2022/2023.
Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd ethol y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol y Cyngor a phenodi’r Cynghorydd David Wilkshire yn Ddirprwy Aelod Llywyddol y Cyngor am y flwyddyn i ddilyn.
PENDERFYNWYD yn unfrydol yn unol â hynny mewn pleidlais a gymerwyd.
Felly cymerodd y Cynghorydd Smith y gadair ar y pwynt hwn, |
|
Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor Penodi Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor.
Cofnodion: Cynigiwyd ac eiliwyd ethol y Cynghorydd S Thomas yn Arweinydd y Cyngor ac ethol y Cynghorydd H. Cunningham yn Ddirprwy Arweinydd am y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD yn unfrydol yn unol â hynny mewn pleidlais a gymerwyd.
|
|
Swyddogion Grwpiau Ysgrifenyddion Grwpiau i adrodd ar Swyddogion Grwpiau ar gyfer 2022/2023.
Cofnodion: Adroddwyd mai Swyddogion y Gr?p Llafur am y flwyddyn i ddod fyddai: Cynghorydd S. Thomas – Arweinydd Cynghorydd H. Cunningham – Dirprwy Arweinydd Cynghorydd T. Smith – Ysgrifennydd Cynghorydd C. Smith – Cadeirydd Gr?p Cynghorydd D. Wilkshire – Is-gadeirydd Gr?p Cynghorydd P. Baldwin – Trysorydd
Adroddwyd mai Swyddogion y Gr?p Annibynnol am y flwyddyn i ddod fyddai: Cynghorydd J. Wilkins - Arweinydd Cynghorydd W. Hodgins – Dirprwy Arweinydd Cynghorydd L. Parsons – Ysgrifennydd
|
|
Aelodaeth y Pwyllgor Gweithrediaeth Penodi aelodaeth y Pwyllgor Gweithredol.
Cofnodion: Mewn pleidlais unfrydol a gymerwyd PENDERFYNWYD penodi’r dilynol:
Arweinydd y Cyngor/Aelod Gweithrediaeth – Trosolwg Corfforaethol a Pherfformiad Cynghorydd S. Thomas
Dirprwy Arweinydd y Cyngor/Aelod Gweithrediaeth – Lle ac Amgylchedd Cynghorydd H. Cunningham
Aelod Gweithrediaeth – Lle ac Adfywio Cynghorydd J. C. Morgan
Aelod Gweithrediaeth – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol Cynghorydd H. Trollope
Aelod Gweithrediaeth – Pobl ac Addysg Cynghorydd S. Edmunds
|
|
Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Aelodaeth Pwyllgorau Craffu Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgorau Craffu.
Cofnodion:
Pwyllgor Craffu Lle Cadeirydd Cynghorydd M. Cross Is-gadeirydd Cynghorydd R. Leadbeater
Pwyllgor Craffu Partneriaethau Cadeirydd Cynghorydd W. Hodgins Is-gadeirydd Cynghorydd P. Baldwin
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad Cadeirydd Cynghorydd J. Wilkins Is-gadeirydd Cynghorydd J. Thomas
Pwyllgor Craffu Pobl 9 Aelod - Cymesuredd 6:3
1. Cadeirydd - Cynghorydd T. Smith
2. Is-gadeirydd - Cynghorydd J. Morgan, Y.H..
3. Cynghorwyr C. Bainton
4. D. Bevan
5. K. Chaplin
6. G. A. Davies
7. J. Holt
8. G. Thomas
9. D. Wilkshire
Byddai hefyd yn cynnwys 2 Aelod o gyrff crefyddol a rhwng 2-5 rhiant lywodraethwyr gyda hawliau pleidleisio yn unig pan yn delio gyda materion addysg
1. Mr. T. Baxter Corff Addysg Esgobaethol (Eglwys Gatholig)
2. Mr. T. Pritchard (Eglwys yng Nghymru)
3. Lle Gwag Cynrychiolydd Fforwm Ieuenctid
Pwyllgor Craffu Lle 9 Aelod - Cymesuredd 6:3
1. Cadeirydd - Cynghorydd M. Cross
2. Is-gadeirydd - Cynghorydd R. Leadbeater
3. Cynghorwyr P. Baldwin
4. S. Behr
5. J. Gardner
6. J. Hill
7. J. Holt
8. J. P. Morgan
9. D. Rowberry
Pwyllgor Craffu Partneriaethau 9 Aelod – Cymesuredd 6:3
1. Cadeirydd - Cynghorydd W. Hodgins
2. Is-gadeirydd - Cynghorydd P. Baldwin
3. Cynghorwyr K. Chaplin
4. D. Davies
5. E. Jones
6. L. Parsons
7. C. Smith
8. L. Winnett
9. D. Woods
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad – 9 Aelod - Cymesuredd 6:3
1. Cadeirydd - Cynghorydd J. Wilkins
2. Is-gadeirydd - Cynghorydd J. Thomas
3. Cynghorwyr C. Bainton
4. M. Day
5. G. Humphreys
6. E. Jones
7. R. Leadbeater
8. C. Smith
9. T. Smith
|
|
Cynrychiolwyr y Cyngor ar Gyrff Eraill Penodi cynrychiolwyr y Cyngor ar y cyrff eraill dilynol:
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd; Panel Heddlu a Throseddu Gwent; Silent Valley Waste Services Cyfyngedig; Awdurdod Tân ac Achub De Cymru; a Bwrdd Tai Calon.
Cofnodion: Mewn pleidlais unfrydol,
PENDERFYNWYD penodi’r dilynol:-
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog – Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac Ymweliadau Safle Cynghorydd P. Baldwin
Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd Arweinydd y Cyngor
Panel Troseddau Heddlu Gwent Cynghorydd G. A. Davies Cynghorydd J. Thomas
Silent Valley Waste Services Cyf Anweithredol Cynghorydd T. Smith Cynghorydd L. Winnett
Awdurdod Tân De Cymru Cynghorydd J. Morgan, Y.H.
Bwrdd Tai Calon Cynghorydd S. Behr Cynghorydd E. Jones
Hyrwyddwr Aelodau – Lluoedd Arfog Cynghorydd D. Bevan
|
|
Cylch Blynyddol Cyfarfodydd 2022/2023 PDF 476 KB Ystyried adroddiad y cyd Swyddogion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyrioedd Aelodau adroddiad y cyd-swyddogion.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:
(i) Cymeradwyo’r cylch blynyddol o gyfarfodydd a gynigiwyd ar gyfer 2022/2023 a ddangosir yn Atodiad 1.
(ii) Cymeradwyo’r broses benderfynu i ddelio gydag unrhyw fater brys yn ystod gwyliau mis Awst:
a. bydd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd mewn cysylltiad gyda’r Aelodau Gweithrediaeth a Swyddogion priodol yn delio gydag unrhyw eitemau brys rhwng 1- 31 Awst (h.y. byddid yn galw Cyfarfod Arbennig o’r Weithrediaeth ar fyr rybudd gan gydnabod fod y mater yn un brys a byddai’r weithdrefn galw-mewn yn weithredol). Y Prif Weithredwr/Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig mewn cysylltiad gyda’r Arweinydd fyddai’n penderfynu os yw mater yn un brys, a dylid cyfyngu penderfyniadau i faterion brys a’u cofnodi ar restr penderfyniadau a gyflwynir i Gyfarfod Cyffredin nesaf y Cyngor. Ni ddylid trin unrhyw faterion dadleuol neu sensitif yn ystod y cyfnod hwn. |
|
BUSNES RHAN 2 |
|
Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23 PDF 717 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/2023.
|
|
Eitem Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Adroddiad Staff Uwch Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim. Cofnodion: Gadawodd pob swyddog ar wahân i’r Prif Weithredwr Interim, y Prif Swyddog Adnoddau, Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol, Pennaeth Datblygu Sefydliadol a’r Swyddog Cymorth Democrataidd a Phwyllgorau y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitem hon o fusnes.
Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
PENDERFYNWYD\ yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn cymeradwyo terfyniad o’r ddwy ochr o’r swyddog a enwir yn yr adroddiad yn weithredol o 31 Mai 2022.
|