Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 3ydd Mawrth, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb gan:

 

Cynghorydd M. Day

Cynghorydd G. Thomas

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Gwnaed y datganiad dilynol o fuddiant:-

 

Cynghorydd D. Bevan

Eitem Rhif  5 - C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

Cynghorydd J. Hill

Eitem Rhif  5 - C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

D Hancock

Eitem Rhif  5 - C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

Cynghorydd G. Davies

Eitem Rhif  5 - C/2021/0253

Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy

 

Cadarnhaodd yr Aelodau na fyddent yn cymryd rhan yn y broses bleidleisio.

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0372

154  Heol Gainsborough, Cefn Golau, Tredegar NP22 3TL

Cynnig am Sied

 

Hysbysodd y Swyddog Cynllunio y Pwyllgor yr amlygwyd yr ardal anghywir yn yr adroddiad. Wedyn cyflwynwyd yr ardal gywir i Aelodau drwy Google Streetmaps.

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn gofyn am ganiatâd ar gyfer codi sied ar ochr 154 Heol Gainsborough, Tredegar. Roedd yr adeilad yn un o dai pâr yn wynebu Heol Gainsborough. Roedd y t? wedi ei osod ar ongl i’r ffordd gyda gardd o amgylch tair ochr y t?. Dywedodd y Swyddog Cynllunio y byddai’r sied a gynigir yn cael ei rhoi yn yr ardd ochr. Roedd cyfluniad yr ardd yn golygu ei bod yn cyfeirio tuag at ffin blaen yr ardd.

 

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio fanylion y sied a gynigir gyda chymorth diagramau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Dywedwyd ymhellach na chafwyd unrhyw ymateb o’r ymgynghoriad allanol na’r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd. Nododd y Swyddog Cynllunio yn dilyn hysbysu Aelodau’r Ward am y bwriad i wrthod y cais dan bwerau dirprwyedig y cafodd dwy neges e-bost eu derbyn yn gofyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio. Teimlai’r Aelodau Ward nad oeddent yn ystyried bod y cynnig yn amlwg gan y byddai ymaith o’r briffordd ac roedd yn llawer is na’i gymdogion agosaf nad oedd wedi gwneud unrhyw wrthwynebiad.

 

Amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais ymhellach a soniodd am y polisïau a ystyriwyd wrth benderfynu’r cais. Mae’r adeilad o fewn ardal breswyl ac ystyriwyd y byddai sied o fewn y libart yn gydnaws gyda’r defnyddiau o amgylch yn yr ardal fel sy’n ofynnol gan y polisi. Mae polisi’r cyngor yn nodi na ddylai garejys ac adeiladau allanol fod tu flaen i linell flaen yr adeilad os nad ydynt yn nodwedd o olwg y stryd ac er y derbyniwyd fod y cynnig yn syrthio tu ôl i linell adeilad blaen y t?, roedd gosodiad y safle yn golygu fod y sied yn ymestyn tuag at y terfyn blaen.

 

Nododd y Swyddog Cynllunio y byddai cornel gogledd ddwyreiniol y sied yn amlwg iawn o’r stryd ac ar y pwynt hwn byddai’r sied a gynigir yn 3m o uchder. Cydnabuwyd y byddai wal yr ardd yn rhannol guddio’r sied, fodd bynnag byddai’n dal i fod tua 0.5m yn uwch na lefel y wal sydd ar flaen y safle. Felly teimlai’r Swyddog Cynllunio fod y sied a gynigir yn groes i bolisi. Teimlai’r Swyddog Cynllunio hefyd y byddai defnyddio cladin pren a llenni to tun yn annerbyniol yn y lleoliad hwn. Nid oedd yr Ymgeisydd wedi gofyn am unrhyw ddiwygiadau i’r elfennau hyn o gofio am y pryderon. Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod garej sengl wedi arfer bod ar flaen y t?, fodd bynnag mae lluniau o’r awyr yn awgrymu y cafodd hyn ei symud cyn 2014 a dywedodd y dylai’r sied arfaethedig gael ei hystyried o’i rhan ei hun yn hytrach na strwythur yn lle.

 

I gloi, cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at argymhelliad y swyddog  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cais: C/2021/0253 Premier Club, Stryd William, Cwm, Glynebwy pdf icon PDF 317 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Rhoddodd y Rheolwr Tim Datblygu Rheoli drosolwg o’r adroddiad ac atgoffodd Aelodau y cafodd y cais ei ystyried yn y cyfarfod diwethaf. Roedd y Pwyllgor wedi penderfynu yn groes i argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais a chyfeiriodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau at yr argymhelliad a’r amodau i’w gosod ar y datblygiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chynnwys yr amodau dilynol ar y caniatâd cynllunio a gyhoeddir ar gyfer y datblygiad:-

 

1.              Bod y datblygiad a gymeradwyir yma yn cael ei gyflawni gan gydymffurfio’n llawn gyda’r cynlluniau a’r manylion dilynol:

·       Cynllun lleoliad y safle (graddfa 1:1250) a dderbyniwyd 5 Awst 2021;

·       Drg cyf 21/AP/105 – Drychiadau arfaethedig a dderbyniwyd ar 5 Awst 2021;

·       Drg cyf 21/AP-104 – Gosodiadau cynllun llawr arfaethedig a dderbyniwyd ar 5 Awst 2021;

·       Drg cyf 21/AP/103 – Cynllun lleoliad safle arfaethedig (graddfa 1:125) derbyniwyd 5 Awst 2021;

·       Drg cyf  21/AP/106 – Llocau sbwriel arfaethedig a derbyniwyd 22 Mehefin 2021.

 

Os na fanylir fel arall gan amodau 2 i 7 uchod.

 

RHESWM: I ddiffinio cwmpas y caniatâd hwn yn glir. 

 

2.       Ni fydd unrhyw ddatblygu yn digwydd cyn cyflwyno manylion y mesurau risg llifogydd i’w cynnwys o fewn yr anheddau a gymeradwyir drwy hyn ac iddynt gael eu cymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Caiff mesurau o’r fath y gellir eu cymeradwyo eu gweithredu yn llawn cyn i’r anheddau gael eu defnyddio.

 

RHESWM: Sicrhau y caiff y datblygiad ei gynnal mewn modd diogel a boddhaol a lliniaru risg llifogydd i ddefnyddwyr yn y dyfodol.

 

3.       Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd (yn cynnwys dymchwel, gwaith daear neu glirio tyfiant) cyn cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (Bioamrywiaeth) ac iddo gael ei gymeradwyo mewn ysgrifen gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Bydd y Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu (Bioamrywiaeth) yn cynnwys manylion y dilynol:-

 

·       asesiad risg o unrhyw weithgareddau adeiladu a allai fod yn niweidiol;

·       dynodi “mannau diogelu bioamrywiaeth”;

·       mesurau ymarferol (yn fesurau ffisegol a hefyd yn arferion gweithio sensitif) i osgoi neu wrthod effeithiau yn ystod adeiladu;

·       lleoliad ac amseriad gwaith sensitif i osgoi niwed i nodweddion bioamrywiaeth;

·       yr amserau yn ystod adeiladu pan fod angen i ecolegydd arbenigol fod yn bresennol ar y safle i oruchwyliio gwaith;

·       unigolion cyfrifol a llinellau cyfathrebu;

·       rôl a chyfrifoldebau Clerc Gwaith Ecolegol ar y safle neu berson cymwys tebyg; a

·       defnyddio ffensys gwarchodol, rhwystrau gwahardd a rhybuddion.

 

          Caiff y Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu eu weithredu’n llym a chydymffurfio ag ef drwy gydol y cyfnod adeiladu gan gymeradwyo’n llawn gyda’r manylion a gymeradwywyd.

 

          RHESWM: Gwarchod buddiannau amrywiaeth a sicrhau y cymerir mesurau addas i liniaru unrhyw effeithiau niweidiol ar fioamrywiaeth.

 

4.       Serch y manylion a amlinellir yn yr Arolwg Coed a gyflwynwyd gyda’r cais, ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd nes y cyflwynwyd arolwg coed diwygiedig sy’n cydymffurfio gyda BS5857 ac iddo gael ei gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n rhaid i’r arolwg diwygiedig roi ystyriaeth ddyladwy i’r holl goed yng nghyffiniau’r safle, yn cynnwys y rhai ar y terfyn gogledd-orllewinol y mae  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Mawrth 2022 pdf icon PDF 388 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

7.

Diweddariad a Phenderfyniad Apêl; Cynllunio: Tir ger Ffermdy Coed Cae, Rasa, Glynebwy pdf icon PDF 405 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi gwybodaeth penderfyniad yr apêl ar gyfer Cais Cynllunio C/2021/0182

8.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 24 Ionawr 2022 a 16 Chwefror 2022 pdf icon PDF 334 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 10 Rhagfyr 2021 a 10 Chwefror 2022

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.