Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Wilkshire a D. Hancock.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed. Cofnodion: Codwyd y datganiadau o fuddiant dilynol:-
Cynghorydd M. Day Cynghorydd C. Meredith
Eitem Rhif 4 - C/2021/0179 – Cwrt Glanyrafon a thir cyfagos, safle tai gwarchod blaenorol yn Heol Rhandir, Glynebwy, NP23 5NS – Codi 15 annedd, gyda ffordd newydd, lleoedd parcio, gerddi, ardaloedd caled a meddal wedi’u tirlunio.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu.
Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu yr Aelodau am y cais a gyflwynwyd i’r cyfarfod diwethaf a dywedodd fod Aelodau wedi gofyn am drefnu cyfarfod safle er mwyn trin pryderon am golli gofod agored i’r cyhoedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cynhaliwyd ymweliad canfod ffeithiau a bod yr ardal ar gyfer ei datblygu wedi ei marcio’n glir er gwybodaeth Aelodau.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr adroddiad blaenorol a nodi i’r Swyddog Cynllunio ddweud fod gwrthdaro gyda pholisi DM13 y Cynllun Datblygu Lleol sy’n anelu i warchod gofod agored. Fodd bynnag, er fod gwrthdaro o fewn y polisi hwnnw teimlai fod manteision y datblygiad yn fwy na’r gwthdaro gyda’r polisi hwnnw gan fod angen tai cymdeithasol o fewn y Fwrdeistref.
Dangosodd y Rheolwr Gwasanaeth y safle gyda defnydd cymorth gweledol fel y gallai Aelodau weld maint gosodiad y cais a gynigir a sut y byddai’n gorgyffwrdd â’r gofod gwyrdd yn ychwanegol i safle’r datblygiad blaenorol.
Cyfeiriodd Aelod at y tir a ddefnyddid ar gyfer y datblygiad. Esboniodd fod yr ardal yn ofod agored hyfryd gyda dolydd a choed gydag afon yn gyfagos a mynydd tu cefn. Mae’r gofod gwyrdd yn lle mor dawel a heddychlon a theimlai fod hyn yn fwy na dim ond ardal hamdden a’i fod yn barc a fu o fudd i breswylwyr dros y blynyddoedd ac felly y dylid ei warchod ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Teimlai’r Aelod fod gan Tai Calon ddarn sylweddol o dir ar gyfer ei ddatblygu y gellid ei ddefnyddio ar gyfer byngalos. Mae angen mawr am fyngalos yn y Fwrdeistref. Dywedodd yr Aelod nad oes prinder o safleoedd tir llwyd ym Mlaenau Gwent a theimlai nad oedd angen mynd â’r tir parc hwn oddi wrth breswylwyr sydd wedi ymweld â’r ardal hon am flynyddoedd lawer. Dywedodd yr Aelod y dylai gofodau agored o’r fath gael eu diogelu er lles preswylwyr.
Croesawodd Aelod arall y cyfarfod canfod ffeithiau gan fod y safle wedi ei osod allan yn glir i weld y dir y cynigir ei ddatblygu. Byddai’r Aelod wedi hoffi i breswylwyr fod wedi gweld yr union ardal ar gyfer ei datblygu gan y teimlai y byddai wedi ateb llawer o bryderon. Teimlai’r Aelod y byddai’r safle yn parhau yn ofod gwyrdd croesawgar ar gyfer preswylwyr hyd yn oed gyda’r datblygiad.
Cytunodd Aelodau gyda’r sylwadau a wnaed a chroesawu’r datblygiad gan fod angen mwy o dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref.
Cyfeiriodd Aelod at y map a ddangoswyd a’r tir tu hwnt i linell derfyn y datblygiad a gynigir a gofynnodd os y gellid gwneud rhywbeth i ddiogelu’r tir hwn rhag cael ei ddatblygu ymhellach.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau bod ffyrdd y gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol weithredu rheolaeth yn y dyfodol. Dywedwyd y gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol linellu ardal ar gynllun a gymeradwywyd i atal mwy o ddatblygiad adeiladu o fewn yr ardal drwy amod cynllunio cyfyngol. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ddialog gyda Tai Calon yng nghyswllt cytundeb ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
C/2020/0209 - 53 Lôn Llarwydd, Tredegar PDF 152 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio Rheoli Datblygu.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio Rheoli Datblygu.
Siaradodd y Swyddog Cynllunio am yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod diwethaf. Atgoffodd y Swyddog Cynllunio yr Aelodau y cafodd y cais ei ohirio gan fod yr Ymgeisydd wedi dweud pan oedd yn annerch y Pwyllgor fod hyd yr estyniad yn 3.5m ac nid yn 4.2m fel yr amlinellir yn adroddiad y Swyddog. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai’r mesuriadau 3.5m oedd y mesuriadau mewnol.
Dymunai’r Swyddog Cynllunio hefyd dynnu sylw at gamgymeriad yn yr adroddiad yng nghyswllt bargod y datblygiad yng nghefn yr eiddo oedd yn 3.8m ac nid yn 4.2m fel y nodir yn yr adroddiad.
Dywedwyd, er y gofynnwyd am yr wybodaeth berthnasol ac y cafwyd eglurhad, bod argymhelliad y swyddog yn parhau heb newid sef y dylid gwrthod caniatâd cynllunio.
Cynigiodd Aelod y dylid rhoi caniatâd cynllunio. Eiliwyd y cynnig.
Cynhaliwyd pleidlais a phleidleisiodd 7 Aelod o blaid y gwelliant a 5 yn erbyn, ac felly
PENDERFYNWYD RHOI caniatâd cynllunio.
|
|
Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS, Tachwedd 2021 PDF 150 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Datblygu a Stadau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.
Dywedwyd y dylai mynediad Ffordd Fferm Swffryd Fach i Swffryd Fach, Abertyleri (C/2021/00298) ddarllen “dim angen cymeradwyaeth ymlaen llaw” ac nid “disgwyl penderfyniad” fel yr amlinellir yn yr adroddiad.
Nododd y Pwyllgor y gwelliant a nodir uchod.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|