Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 14eg Hydref, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Day.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd B. Willis

Eitem Rhif 4 -  Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

C/2021/0133 –

Llain, tir i’r dwyrain o Whitworth Terrace, Tredegar

 

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 4 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0243

Llys Bery, 28 Tanglewood Drive, Blaenau,  Abertyleri, NP13 3JB

Cadw a chwblhau ardal decin, waliau, tirlunio a thir amgaeedig

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm fod y cais yn gofyn am ganiatâd i gadw a chwblhau ardal decin uwch o fewn gardd flaen annedd ar wahân. Amlinellodd y Swyddog Cynllunio y cais gyda chymorth lluniau a diagramau fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd Tîm yr Aelodau ymhellach at yr ymgynghoriad a dywedodd na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau a bod Aelod Ward na ystyriai fod gan y datblygiad effaith niweidiol ar olwg y stryd  wedi gofyn i’r cais gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.

 

Yn nhermau asesiad cynllunio, dywedodd y cafodd y cynnig ei asesu ar bolisïau DM1 a DM2 y Cynllun Datblygu Lleol ‘r Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd yng nghyswllt decin uchel, balconïau a waliau cadw. Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y Cynllun Datblygu Lleol yn nodi y dylai’r cynigion datblygu fod yn addas i’r cyd-destun lleol yn nhermau math, dull, maint a chymysgedd. Rhaid i’r cynigion fod o ddyluniad da sy’n cyfnerthu cymeriad lleol yr ardal neu’n cyfrannu’n gadarnhaol at drawsnewid yr ardal, felly nododd y Swyddog Cynllunio o’r adroddiad fod cyflwyno’r ardal decin uwch yn ychwanegiad diolwg ac amlwg iawn i olwg y stryd ac y byddai’n groes i’r polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae’r datblygiad ar du blaen yr annedd ac yn amlwg iawn yn y stryd. Mae’r datblygiad hefyd yn fwy amlwg oherwydd lleoliad uchel yr annedd bresennol. Mae’r decin yn ymestyn ar hyd lled y talcen presennol, fodd bynnag mae hefyd yn bargodi ymhellach i ochr yr annedd. Cafodd ei ychwanegu oherwydd bargodiad 2.9m y decin a’r estyniad sy’n lletach na’r talcen presennol, penderfynwyd fod y datblygiad yn neilltuol o fawr. Dywedodd y Swyddog Cynllunio, er fod golwg y stryd yn cynnwys anheddau o wahanol faint a dyluniad, bod yr anheddau i’r dwyrain a’r de ar lefel uwch na’r ffordd. Credai’r Swyddog y gallai’r cynnig hwn osod cynsail ar gyfer datblygiadau tebyg a fyddai’n cael effaith niweidiol ar gymeriad golwg y stryd.

 

Atgoffodd yr Arweinydd Tîm yr Aelodau am benderfyniad apêl ddiweddar yng nghyswllt cadw decin yn Hawthorne Glade, Tanglewood a gafodd ei wrthod oherwydd yr effaith weledol niweidiol a cholli preifatrwydd i anheddau cyfagos.

 

Daeth Arweinydd y Tîm i ben drwy ddweud yr ystyriwyd fod oherwydd maint, swmp a lleoliad, yr ystyriwyd fod y decin uwch yn nodwedd or-amlwg a fyddai’n cael effaith weledol niweidiol ar olwg y stryd a nododd argymhelliad y swyddog y dylid gwrthod y cais.

 

Anerchodd yr Ymgeisydd y Pwyllgor ar wahoddiad y Cadeirydd.

 

Hysbysodd Mr. Llewellyn y Pwyllgor iddo adeiladu’r annedd yn 2003 a’i fod wedi gwneud gwaith tirlunio o amgylch yr annedd fel yr oedd cyllid yn caniatáu. Ym mis Medi 2017 dechreuodd gwaith ar y tu blaen, cyn y gwaith tirlunio hwn roedd y tir presennol yn wastad ac yn ymestyn o’r gwaelod ar i allan gan 4m tuag at y briffordd cyn graddiant serth i’r wal derfyn. Roedd maint y graddiant yn golygu y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS Hydref 2021 pdf icon PDF 151 KB

Ystyried yr adroddid Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Gadawodd y Cynghorydd K. Rowson y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

6.

Diweddariad Apêl Cynllunio: Maes y Dderwen, Stryd Charles, Tredegar Cyf.: C/2020/0282 pdf icon PDF 148 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau am yr adroddiad sy’n rhoi manylion penderfyniad yr Arolygiaeth Cynllunio yng nghyswllt apêl cynllunio yn erbyn gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu uned byw â chymorth 5 ystafell wely a gwaith cysylltiedig ym Maes y Dderwen, Stryd Charles, Tredegar.

 

Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y rhesymau a roddodd gan y Pwyllgor dros wrthod yng nghyswllt parcio, addasrwydd lleoliad, colli gofod amwynder ac nad yw er budd gorau y gymuned.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr Arolygydd wedi anghytuno gyda’r rhesymau hyn dros wrthod gan deimlo bod diffyg tystiolaeth i gefnogi’r rhesymau a roddwyd dros wrthod. Roedd yr Arolygydd yn fodlon, yn amodol ar amodau, bod y datblygiad yn dderbyniol ac wedi caniatau’r apêl a rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau yr Hysbysiad Penderfyniad Apêl ymhellach ac ategu y cafodd y rhesymau eu gwrthod oherwydd diffyg tystiolaeth. Gwerthfawrogai’r Rheolwr Gwasanaeth fod Aelodau yn anghytuno ar argymhellion swyddogion weithiau, fodd bynnag mae’n bwysig y rhoddir y dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi penderfyniadau a wneir gan Aelodau.

 

Roedd yr Aelodau lleol yn siomedig gyda phenderfyniad yr apêl a dywedodd Aelod arall ei bod wedi rhoi tystiolaeth ychwanegol i’r Arolygydd ar fater yn ei Ward, fodd bynnag anwybyddwyd hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd unrhyw Aelod lleol wedi dod ymlaen i gefnogi’r rhesymau dros wrthod felly yr unig dystiolaeth a roddwyd oedd cofnodion y cyfarfod.

 

Awgrymodd Aelod fod o hyn ymlaen fod y Pwyllgor yn cynorthwyo’r swyddogion mewn unrhyw ffordd bosibl er mwyn i’r rhesymau dros wrthod yn erbyn argymhelliad swyddog gael eu cyflwyno. Ychwanegwyd y dylid hefyd geisio sylwadau gan yr Heddlu mewn rhai achosion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2020/0282.

 

7.

Cais: C/2021/0103 Safle: Cyn Ganolfan Swyddi, Tredegar pdf icon PDF 173 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Dywedodd y Swyddog y gofynnwyd am yr adroddiad yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor gan fod Aelodau wedi gohirio’r cais i gael ymatebion gan yr Heddlu lleol, Cyngor Tref Tredegar a’r Awdurdod Tân yn ogystal â cheisio eglurhad pellach am y rhesymau dros wrthod. Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a rhoddodd drosolwg o’r pwyntiau allweddol.

 

Nodwyd mai’r prif bryderon y soniodd Aelodau lleol amdanynt oedd y problemau a gafwyd o sefydliadau tebyg yng nghanol y dref. Fodd bynnag, dywedodd y Swyddog fod gan y safle dan sylw ganiatâd cynllunio ar gyfer hostel a dywedodd fod y cais presennol ar gyfer G&B ac y cynigiwyd amodau a all liniaru pryderon. Byddai angen caniatâd cynllunio pellach pe byddai’r ymgeisydd yn dymuno newid y defnydd. Felly, dywedodd y Swyddog fod ei hargymhelliad yn parhau fel yr oedd ac y dylid cytuno i’r cais.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelod Ward i annerch y Pwyllgor ar y pwynt hwn.

 

Croesawodd y Cynghorydd S. Thomas,  Ward Canol a Gorllewin Tredegar y sylwadau a gafwyd gan yr Heddlu lleol yng nghyswllt y cais. Mae’r wybodaeth a roddwyd yn cefnogi pryderon a godwyd gan Aelodau lleol a theimlai’r Aelod Ward y byddai’n anodd i’r heddlu a’r awdurdod lleol fonitro defnydd cywir. Pe rhoddid caniatâd, teimlai’r Aelod Ward mai ychydig iawn o sail fyddai gan bobl Tredegar i wrthod y datblygiad.

 

Dywedodd yr Aelod Ward fod y datblygydd yn gweithredu safleoedd tebyg mewn ardaloedd eraill dan y cais t? llety a ddefnyddiwyd yn debyg i’r safle yng nghanol y dref. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion costau’r apêl, fodd bynnag yn yr achos hwn byddai’r gwrthodiad yn cael ei gefnogi gan yr Heddlu lleol, Aelodau lleol a’r gymuned.

 

Cynigiodd yr Aelod Ward ei gefnogaeth pe apeliwyd yn erbyn y penderfyniad a byddai’n hapus i roi’r dystiolaeth angenrheidiol. Wedyn gofynnodd yr Aelod Ward i’r Pwyllgor i wrthod y cais oherwydd y problemau presennol a brofir yng nghanol tref Tredegar.

 

Cefnogodd Aelod lleol arall y sylwadau a wnaed a theimlai nad oedd yn safle addas ar gyfer G&B. Roedd yr Aelod yn croesawu twristiaeth i Dredegar, fodd bynnag mae’r adeilad hwn yn fwy addas ar gyfer swyddfeydd na G&B. Teimlid y byddai’n dda gweld cynlluniau busnes i ganfod beth oedd yr ymgeisydd wedi’i gynllunio ar gyfer y datblygiad a sut y byddai o fudd i ganol y dref pan gyflwynir ceisiadau ar gyfer busnesau yng nghanol y dref. Cefnogodd yr Aelod yr Aelod Ward ac y dylid gwrthod y cais.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais. Y rheswm dros wrthod oedd y byddai’r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar yr ardal o amgylch o gofio am y problemau presennol sy’n bodoli.

 

Felly mewn pleidlais, roedd 12 o blaid y diwygiad ac ymatalodd 1 rhag pleidleisio, a

 

PHENDERFYNWYD GWRTHOD  y cais cynllunio.

 

8.

Cynlluniau DNS posibl ar gyfer Ffermydd Gwynt pdf icon PDF 286 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu yr adroddiad a gyflwynwyd i hysbysu Aelodau am ymgynghoriad gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt pedwar cyfeiriad cwmpasu a gyflwynwyd ar gyfer ffermydd gwynt. Dywedwyd y byddai’r ffermydd gwynt yn cael eu gosod ym Mynydd Carn-y-Cefn, Mynydd Llanhiledd, Manmoel ac Abertyleri a rhoddwyd trosolwg o’r ardaloedd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoli Datblygu na chaiff pob cais cynllunio eu cyflwyno i’r Cyngor. Mae cynlluniau ar gyfer ynni adnewyddadwy sy’n cynhyrchu mwy na 10 Megawatt yn cael eu galw yn ‘Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol’ a chyflwynir y cynlluniau hyn i Lywodraeth Cymru i gael eu penderfynu gan Arolygydd Cynllunio annibynnol. Fodd bynnag, byddid yn ymgynghori’n ffurfiol gyda’r Cyngor ar unrhyw geisiadau cynllunio dilynol.

 

Dywedwyd y byddai pob Aelod yn cael cyfle i gyflwyno cwestiynau os yw’r cynlluniau yn mynd rhagddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

9.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 23 Awst 2021 a 24 Medi 2021 pdf icon PDF 185 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

10.

Achosion gorfodaeth a gafodd eu cau rhwng 9 Gorffennaf 2021 a 30 Medi 2021

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf budd cyhoeddus, fod o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn neilltuol a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.