Agenda and minutes

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu - Dydd Iau, 2ail Medi, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:-

 

Cynghorydd D. Bevan

Cynghorydd K. Rowson

Cynghorydd J. Hill

Cynghorydd B. Thomas

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau

 

4.

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 2 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-

 

C/2021/0168

18 & 19 Stryd y Farchnad, Abertyleri

Newid defnydd car i Far Gwin ac addasiadau allanol cysylltiedig

 

Rhoddodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Datblygu drosolwg o’r cais gan ddefnyddio cymhorthion gweledol. Amlinellwyd fod yr adeilad yn un lefel gwahân ar lain cornel rhwng Stryd y Farchnad a Stryd Fasnachol, Abertyleri. Bu’r adeilad yn wag am nifer o flynyddoedd gyda’r defnydd hysbys diwethaf ar y llawr daear fel A3. Roedd yr adeilad hefyd yn cynnwys uned fach yn wynebu Stryd Fasnachol a arferai fod yn siop cigydd. Nodir fod y cynlluniau’n dangos na fyddai mynediad i’r safle i Stryd Fasnachol, byddai’r fynedfa/allfan drwy Stryd y Farchnad.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm at bryderon y byddai newid defnydd y safle i far gwin yn arwain at glystyru defnyddiau A3 yn groes i’r Canllawiau Cynllunio Atodol Bwyd a Diod. Fodd bynnag, soniodd y Rheolwr Tîm am y ffactorau y gellid eu hystyried wrth benderfynu ar y cais a dywedodd y gellid dyfarnu nad yw’r ddau ddefnydd A3 yma yn union yn ymyl y cynnig ac felly heb fod yn cynrychioli clwstwr o ddefnyddiau A3. Mae hefyd ddefnyddiau cynllunio hanesyddol wedi eu rhoi ar yr unedau.

 

I gloi, dywedodd y Rheolwr Tîm er pryderon o’r fath fod hefyd nifer o resymau a fyddai’n cyfiawnhau cefnogi’r cais. Mae’r adeilad diffaith yn ddolur llygad sydd ag effaith weledol negyddol ar olwg y stryd ar hyn o bryd. Gallai ailddefnyddio’r adeilad ddod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd a byddai’n cyfrannu mewn modd cadarnhaol at fywiogrwydd a hyfywedd canol y dref yn unol â Pholisi SP3 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Yn yr achos hwn teimlid fod ffactorau lleoliadol penodol ar gyfer derbyn y byddai effeithiau cadarnhaol y datblygiad hwn yn fwy na phryderon am glystyru posibl defnyddiau A3. Nid yw’r datblygiad yn codi problemau yng nghyswllt nifer yr unedau o fewn canol y dref yn unol â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ac ni ystyrir fod ganddo effaith niweidiol anffafriol ar yr  ardal gyfagos yn y lleoliad hwn yng nghanol y dref. Felly, dywedodd y Rheolwr Tîm yr argymhellwyd cymeradwyo’r cais gydag amodau.

 

Cefnogodd yr Is-gadeirydd y cais gan y byddai’n gwella canol y dref a

 

PHENDERFYNWYD yn unfrydol i ROI caniatâd cynllunio.

 

C/2021/0196

Endsleigh, Alma Terrace, Brynmawr, Glynebwy NP23 4DR

Cwympo coeden sycamorwydden (T1) a gynhwysir yng Ngorchymyn Cadw Coeden Rhif BG120

 

Amlinellodd yr Arweinydd Tîm – Rheoli Datblygu y cais gan ddefnyddio cymhorthion gweledol a dywedodd fod y cais yn gofyn am ganiatâd i gwympo sycamorwydden, a gynhwysir mewn Gorchymyn Cadw Coeden.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm fod y rheswm dros gynnig cwympo’r sycamorwydden yn gysylltiedig â gwreiddiau y goeden oedd wedi achosi difrod strwythurol i wal derfyn orllewinol yr eiddo a’r stepiau, llwybr a philer clwyd cyfagos. Roedd y difrod hwn wedi arwain at i’r wal derfyn ddod yn ansefydlog a chafodd y safle ei sicrhau drwy godi ffens heras a fu yn ei lle ers mis Hydref 2019. Dywedodd yr ymgeisydd hefyd y bu’n rhaid i D?r Cymru wneud gwaith i’r garthffos  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Apeliadau, Ymgynghoriadau a Diweddariad DNS, Medi 2021 pdf icon PDF 152 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

6.

Diweddariad Apêl Gorfodaeth: 1 Hawthorne Glade, Tanglewood, Blaenau pdf icon PDF 142 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi phenderfyniad yr apêl.

 

7.

Diweddariad Apêl Cynllunio: Tir yng nghefn Stryd Newall, Abertyleri pdf icon PDF 134 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi penderfyniad yr apêl ar gyfer cais cynllunio C/2021/0033.

 

8.

Rhestr ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 12 Gorffennaf 2021 a 20 Awst 2021 pdf icon PDF 200 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Cymorth Busnes.

 

Nododd Aelod nifer y ceisiadau a benderfynwyd dan bwerau dirprwyedig rhwng 25 Mai 2021 a 7 Gorffennaf 2021 a dymunai ymestyn diolch i’r swyddogion cyfrifol. Dywedwyd fod problemau capasiti o fewn y Tîm Cynllunio sy’n gosod cyfyngiadau ar staff, fodd bynnag teimlai’r Aelod fod cwblhau 47 cais yn ystod y cyfnod hwn yn glod i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.